Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Cawsom ddathliad aruthrol fel rhan o hyn, a dweud y gwir, gwta bythefnos yn ôl, yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lle cawsom gyngerdd gwych, gyda chantorion a thelynorion, ysgolion o bob rhan o'r ardal, cyn-rieni a disgyblion a llywodraethwyr, ac yn y blaen, ynghyd ag uchelgais go iawn i edrych tua'r dyfodol.