Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r buddsoddiad sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl gwell yn ein sector addysg uwch i'w ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr yn unig. Y bwriad yw efelychu mewn gwirionedd, yn yr un modd ag y ceisiwn ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl, sy'n effeithio ar blant a staff proffesiynol—fel bod yr un peth yn digwydd yn ein prifysgolion a'n colegau hefyd. Gwyddom, yn aml, fod staff sy'n dioddef cyfnodau o iechyd meddwl gwael yn gallu trosglwyddo hynny, y teimladau hynny, i'w myfyrwyr. Felly, mewn gwirionedd, mae angen i ni fynd i'r afael â hyn yn gyffredinol, mewn perthynas â staff a chyfadrannau.