Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Mae cysylltiadau agos rhwng ysgolion, colegau addysg bellach a chyflogwyr yn ffactor pwysig wrth helpu pobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i alluogi colegau a chyflogwyr i gael gwell mynediad at wasanaethau cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y wybodaeth y maent ei hangen i gyrraedd eu potensial gyrfaol llawn? Diolch.