Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan Oxford Economics, erbyn 2030, bydd robotiaid yn cymryd lle'r mwyafrif o swyddi yn y sector gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad yn awgrymu y gallai awtomeiddio roi hwb i swyddi a chynyddu twf economaidd pe baem yn addasu'r gweithlu ymlaen llaw. Weinidog, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i addasu'r cwricwlwm i sicrhau bod Cymru'n barod ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol?