Teithio Llesol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:56, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, David. Mae'r cwricwlwm newydd yn cefnogi teithio llesol. Un o'r pedwar diben sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm newydd hwnnw yw bod dysgwyr yn datblygu'n unigolion iach a hyderus, sy'n gallu cymhwyso gwybodaeth am effaith ymarfer corff ar eu hiechyd corfforol a'u iechyd meddwl yn eu bywydau bob dydd, a bod yn unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd.