Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Wel, David, gallaf wneud mwy na chanmol Ysgol Hamadryad am y dull y maent wedi'i fabwysiadu, oherwydd ymunais innau â'r bws cerdded i Ysgol Hamadryad yr wythnos ddiwethaf. Mae'n dangos, drwy newid meddylfryd, pa mor gyraeddadwy y gall hyn fod. Mae nifer o faterion wedi effeithio arno. Yn amlwg, mae'n ysgol newydd ac felly efallai y bydd yn haws i unigolion fabwysiadu arferion newydd. Ond yn yr achos hwn, mae wedi digwydd o ganlyniad i arweinyddiaeth y pennaeth a chorff llywodraethu'r ysgol, yn ogystal â rhai o'r cyfyngiadau ffisegol o ran lle mae'r ysgol newydd wedi'i hadeiladu mewn gwirionedd. Ond mae'n dangos—mae Ysgol Hamadryad yn dangos—beth y gellir ei gyflawni pan fo dull partneriaeth yn cael ei fabwysiadu rhwng ysgolion a rhieni, a mwynheais fy nhro i'r ysgol yn fawr iawn.