Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio yn awr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y pleidleisio. O'r gorau. Diolch. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—rheoli'r gwasanaeth iechyd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Helen Mary. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 25, roedd un yn ymatal, a 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.