Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Un o'r pethau rydym yn ei wneud yw sefydlu'r prosiect Myfyrio, ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod amdano, mae ar gyfer menywod sydd eisoes wedi wynebu plentyn yn cael ei gymryd oddi wrthynt, felly mae ganddynt un plentyn yn y system gofal yn barod. Felly, mae'r prosiect Myfyrio yn ymdrech i geisio atal hynny rhag digwydd eto. Felly, unwaith eto, mae'r prosiect hwnnw wedi'i gyflwyno ledled Cymru. Nid yw'n ddigon, mae angen gwneud llawer mwy, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid i ni roi cymaint o gymorth ag y gallwn i rieni allu cadw eu plant, ac mae gennym ffordd bell i fynd eto. Ond rydym yn gwneud hyn gyda'r cymorth rydym yn ei roi ac yn benodol, buaswn yn argymell bod yr Aelod yn edrych ar y prosiect Myfyrio, sy'n edrych ar y math arbennig o achos y mae'n ei ddisgrifio.