Gwasanaethau Iechyd Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:48, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am asedau cymunedol, Weinidog. Mae eich cynllun gweithredu ar ddementia ar gyfer 2018-22 yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cael awdurdodau lleol a byrddau iechyd i weithio gyda chymunedau lleol a'r cyrff trydydd sector ynddynt i'w hannog i wneud gwasanaethau'n hygyrch i bobl â dementia, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr. A allwch gadarnhau bod byrddau iechyd a chynghorau'n gwneud hynny yn fy rhanbarth i, a sut y mae gwasanaethau, ar y cam hwn, yn edrych yn wahanol i deuluoedd yr effeithir arnynt gan ddementia?