Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Wrth i ni ddechrau ar ein taith gyda Trafnidiaeth Cymru i newid rhwydwaith Cymru, mae cymhlethdod ac anwadalrwydd y ffactorau sy'n sbarduno newid y mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt yn ddigynsail. Bydd dyfodiad technolegau newydd a datblygol yn y sector trafnidiaeth yn trawsnewid y modd y mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth yn eu bywydau bob dydd dros y degawd nesaf. Y bore yma, Ddirprwy Lywydd, bûm yn lansio fflyd newydd o fysiau ar gyfer TrawsCymru ac yn myfyrio ar fy mhrofiad fy hun, fel myfyriwr yn Aberystwyth yn gwneud y daith erchyll ar y bws ar hyd lonydd troellog canolbarth Cymru, gyda gyrwyr yn mynd yn llawer rhy gyflym, a minnau’n teimlo'n swp sâl ar ôl noson allan y noson cynt—ac ystyried y profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac yna, 25 mlynedd yn ddiweddarach, bydd y profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn wahanol iawn. Mae'r syniad o Uber ar gyfer bysiau bellach yn rhywbeth rydym wrthi'n ei dreialu drwy'r Cymoedd ac yn Wrecsam, ac mae hwnnw’n rhywbeth a oedd yn gwbl annirnadwy pan oeddwn yn fyfyriwr. Felly, mae'r technolegau newydd hyn, os cânt eu rheoli'n gywir, yn gyfleoedd i economi Cymru elwa o swyddi newydd, medrus, ac yn gyfle i brofiad y teithiwr newid hefyd, ac i ddenu mwy o bobl i newid eu dulliau trafnidiaeth i'n helpu i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.
Mae'r model presennol, lle mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am strategaeth yr holl ffordd hyd at gyflawni prosiectau a gweithrediadau, yn arwain at ddull tameidiog o weithredu o ran ymdrech a ffocws, gan newid yn anochel o ddatblygu polisi effeithiol i ymdrin â’r gwaith uniongyrchol o gyflawni. Yn y cynllun gweithredu economaidd, rydym wedi nodi ein dyhead i weld Trafnidiaeth Cymru yn manteisio ar y cyfle sydd ganddo fel ein hintegreiddiwr trafnidiaeth—i alluogi'r cwmni i ymgymryd ag ystod ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth. Wrth wneud hynny, byddwn yn cynyddu gallu, arbenigedd a chapasiti staffio Trafnidiaeth Cymru i gyflawni nodau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rhai camau uniongyrchol tuag at integreiddio trafnidiaeth: grymuso Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi mynediad haws i bawb at fysiau, trenau a theithio llesol ar gyfer teithiau bob dydd; creu model cynllunio trafnidiaeth i Gymru, gan alluogi penderfyniadau gwell o ran cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth; rhoi technoleg tocynnau clyfar ar waith i greu gallu i ryngweithredu a defnydd ar draws dulliau trafnidiaeth; a chydgysylltu gwybodaeth ar draws dulliau trafnidiaeth i helpu i lywio’r gwaith o gynllunio llwybrau.
Yn y tymor canolig, rydym wedi cyfarwyddo swyddogion i gynllunio ar gyfer symud gweddill y swyddogaethau cyflawni trafnidiaeth, fel gweithrediadau a gwelliannau priffyrdd, o Lywodraeth Cymru i Trafnidiaeth Cymru. Bydd gwneud hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar yr heriau polisi sy'n deillio o ddatgarboneiddio, ansawdd aer, cerbydau awtonomaidd a cherbydau trydan ac yn y blaen er mwyn datblygu fframwaith polisi a rhaglen ddeddfwriaethol aml-dymor a fydd yn ein helpu i wireddu'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Fel rhan o'r gwaith o ddiwygio bysiau, rydym yn cynnig y dull cyd-awdurdodau trafnidiaeth, lle mae awdurdodau lleol yn rhanbarthau Cymru yn cydweithio i ddarparu canlyniadau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol. Hoffwn ymateb i her Hefin David—nid y rhan lle datgelodd ei hoffter o osgoi talu am docynnau, ond y rhan arall—lle dywedodd fod yna ddiffyg eglurder ynglŷn ag a ddylai Trafnidiaeth Cymru fod yn gorff cynllunio trafnidiaeth cenedlaethol neu'n un rhanbarthol. Dyma'r ddadl rydym am ei chael, a buaswn yn gwahodd yr Aelodau i fewnbynnu hyn i awdurdodau lleol hefyd.
Ein safbwynt ar hyn o bryd—ac mae hwn yn wahoddiad gwirioneddol i'n helpu i'w lunio—wrth weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, a'r gwaith y mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei wneud ar greu ôl-troed rhanbarthol ar gyfer cydweithredu, yw y dylai trafnidiaeth fod yn rhan fawr o hynny, nid fel datblygiad annibynnol, ond wedi'i integreiddio'n llwyr i'r cyrff cydweithredol rhanbarthol y mae'r Gweinidog yn eu creu. Yn union fel y gall Llywodraeth Cymru gomisiynu Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd i wneud gwaith ar ein cyfer, mae'n gwbl bosibl, yn unol â'r hyn rydym am ei weld, y gallai awdurdodau lleol eu comisiynu yn yr un modd i wneud gwaith ar eu cyfer hwy, gan nad oes gan bob awdurdod lleol gapasiti ac arbenigedd, fel y bu ganddynt ar un adeg, i wneud hyn. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na all gwahanol haenau o lywodraeth arfer y ffordd weithredol a democrataidd honno o wneud penderfyniadau, a gall Trafnidiaeth Cymru sefyll ochr yn ochr â hwy fel partneriaid i ddarparu'r arbenigedd hwnnw. Fel hynny, fel cenedl fach, glyfar, gallwn wneud y gorau o'n harbenigedd, a gwneud hynny mewn ffordd gydweithredol.
Dyna yw ein cynllun. Dyna rydym yn gweithio tuag ato, a byddem yn croesawu rhywfaint o her ar hynny os yw'r Aelodau'n credu y byddai cyfeiriad gwahanol yn well. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny’n darparu rhywfaint o eglurder, i ateb pwynt Hefin David ar ein cyfeiriad teithio. Fel sefydliad sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu atebion trafnidiaeth, gall Trafnidiaeth Cymru adeiladu gweithlu trafnidiaeth medrus iawn gyda phwyslais ar sgiliau technegol, rheoli ac arwain a fydd yn creu gwerth a chanlyniadau gwell i bobl, i leoedd ac i Gymru. Diolch yn fawr.