Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Hoffwn ddiolch i'r holl staff ar y pwyllgor am eu cefnogaeth mewn ymchwiliad a fu’n hynod ddefnyddiol. Wrth godi i siarad heddiw, hoffwn ddechrau drwy nodi'r canmlwyddiannau pwysig sy'n cael eu dathlu eleni mewn perthynas â datblygu polisi trafnidiaeth yn y DU. Pan oeddwn yn athrawes, roeddwn bob amser yn dweud wrth fy myfyrwyr fod hanes yn berthnasol yn y byd modern, a chredaf bod yr enghreifftiau hyn yn dangos hynny.
Ym 1819, agorodd rheilffordd Mansfield a Pinxton. Y rheilffordd hon, sy’n dathlu ei deucanmlwyddiant ar hyn o bryd, yw’r rheilffordd fasnachol hynaf yn y DU sy'n rhedeg yn barhaus. Ac yn bwysicach, yng ngoleuni'r sylwadau y byddaf yn eu gwneud yn y man ac y mae Aelodau eraill eisoes wedi'u gwneud, roedd y rheilffordd honno'n gysylltiedig â datblygiad economaidd, ac roedd yn rhan o ymgais radicalaidd i integreiddio seilwaith trafnidiaeth, sef rheilffyrdd a chamlesi yn yr achos hwnnw.
Gan neidio ymlaen 100 mlynedd, ym mis Mai 1919, penodwyd y Gweinidog trafnidiaeth cyntaf erioed yn San Steffan. Penodwyd Eric Geddes gan Lloyd George i oruchwylio'r adran newydd, lle roedd y rheilffyrdd yn gyfrifoldeb allweddol, ac roedd ffurf y rhwydwaith yn y dyfodol yn ddadl allweddol, sydd unwaith eto'n rhywbeth a fydd yn taro tant gyda ni heddiw. Felly, mae'n ddiddorol nodi bod y math o flaenoriaethau roeddem yn edrych arnynt fel gwlad 100 mlynedd yn ôl, 200 mlynedd yn ôl, yn dal i adleisio gyda ni heddiw.
Neidiwn ymlaen 100 mlynedd arall, ac yma mae gennym yr adroddiad gan y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr ydym yn ei ystyried heddiw. Ac rwy'n ofni, Gadeirydd, y gallai fod yn ormod disgwyl y bydd llunwyr polisi yn nodi ei ganmlwyddiant ymhen 100 mlynedd, ond er hynny, credaf fod negeseuon allweddol yn yr holl feysydd hyn—yr economi, integreiddio a ffurf y rhwydwaith, ac rwyf am gymryd peth amser i'w harchwilio.
Hoffwn ddechrau gydag argymhelliad 13. Credaf y gallai'r math hwnnw o ffocws ar gaffael, sgiliau a hyfforddiant ddarparu hwb economaidd pwysig iawn. Mae'n gyfle gwych i bobl sy'n byw mewn ardaloedd fel fy un i gael gwaith o ansawdd da. Mae'n gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig sicrhau contractau o ansawdd da. Ac fel y dywedodd y dystiolaeth a gawsom o Fanceinion a Lerpwl wrthym, mae’n rhaid i gefnogi cyflogaeth a phrentisiaethau fod wrth wraidd unrhyw fodel gweithio rhanbarthol neu genedlaethol. Gyda hynny mewn golwg, mae'n dda gweld yr amrywiaeth o ddulliau a amlinellwyd yn yr ymateb gan Trafnidiaeth Cymru i'r argymhelliad hwn.
Gan droi'n fyr at argymhelliad 11, er mwyn i Trafnidiaeth Cymru ddangos eu hymrwymiad i'w gweithlu a'u lles, mae'n bwysig eu bod yn ymrwymo i gytundeb partneriaeth gymdeithasol gyda’r undebau llafur perthnasol. Gwn fod gwefan Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gael cynrychiolydd undeb ar eu bwrdd. Felly, byddai'n dda gweld cynnydd ar y pwynt hwn.
Am y rhan fwyaf o fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar argymhellion 5 i 8. Mae pob un ohonynt yn ymwneud â’r pwyntiau ehangach ynghylch integreiddio a rhwydwaith a nodais yn fy sylwadau agoriadol. Mae gan bob un ohonynt rôl bwysig yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r newid trawsnewidiol yr hoffem ei weld ganddynt. O'r herwydd, mae'n dda fod pob un o'r argymhellion hynny wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dda darllen yr ymateb cadarnhaol gan Trafnidiaeth Cymru, lle bo'n briodol.
Er mwyn cyflawni'r nodau hyn fodd bynnag, mae gwasanaethau bysiau'n gwbl hanfodol yn fy marn i, ac i wireddu'r weledigaeth o fetro de Cymru fel system drafnidiaeth wirioneddol integredig, mae’n rhaid inni sicrhau prif lwybrau iach—prif lwybrau sydd, drwy wasanaethau bysiau neu gysylltiadau teithio llesol o bosibl, yn cysylltu’r cymunedau tlotaf a mwyaf ynysig yn aml â'r prif lwybrau trafnidiaeth.
O fy mag post etholaethol, yn enwedig mewn perthynas â'r gwasanaethau bysiau hynny, mae llawer gennym i’w wneud o hyd i gyflawni hyn ac i wireddu uchelgais lawn metro de Cymru. Byddai gwneud hynny’n cyd-fynd â'r nodau llesiant ac yn cynnig ymyrraeth go iawn o ran hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ac wrth gwrs, byddai angen system docynnau gydgysylltiedig ac integredig ar wasanaeth cydgysylltiedig, a hoffwn weld gwasanaeth nad yw’n cosbi rhai nad ydynt yn teithio'n aml. Mae un o fy nghanghennau Cymru Egnïol lleol wedi galw mewn modd tebyg am ymestyn teithio rhatach ar fysiau i gynnwys gwasanaethau trenau a hoffwn weld rhagor o waith ar hyn.
Yn ystod ein hymchwiliad, cafwyd tystiolaeth gymhellol gan sawl un o'n tystion hefyd ynghylch rôl bosibl i Trafnidiaeth Cymru o ran y rhwydwaith priffyrdd, a chredaf y byddai hwn yn gyfle gwirioneddol gadarnhaol i newid asiantaeth cefnffyrdd nad yw'n ymatebol iawn yn fy marn bersonol i. Cafodd fy etholaeth ei heffeithio'n wael gan lifogydd ar ran o'r A465 ger y Rhigos yn gynharach eleni, ac roedd gweithredoedd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn broblemus. Defnyddiwyd arwyddion anghywir ganddynt, a methwyd dod o hyd i offer pwmpio y gallodd yr awdurdod lleol gael gafael arno’n gyflym. Achosodd eu llanast rwystredigaeth i gymudwyr a thrigolion lleol, gan wneud sefyllfa wael yn waeth. Rwyf hefyd wedi cael problemau cyson mewn perthynas â hyn gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru dros y tair blynedd diwethaf o ran arwyddion cau ffyrdd, methiant i drwsio tyllau yn y ffyrdd, amseru goleuadau traffig, a gwelededd peryglus o wael ar gyffyrdd allweddol oherwydd methiant i dorri gwair. Ym mhob achos, mae'r materion hyn, sydd wedi achosi oedi ac wedi effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd, wedi cael eu datrys yn y pen draw, ond dim ond ar ôl lobïo personol gennyf i neu gan Aelodau Cynulliad eraill. Felly, yn y dyfodol, byddai rôl fwy i Trafnidiaeth Cymru, gyda llinellau atebolrwydd clir, yn ddim byd ond gwelliant.