Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch ichi, Lynne, am gadeirio'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn un o'r ymchwiliadau mwyaf pleserus a gawsom gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—yn y cyfnod y bûm i yno, beth bynnag—yn bennaf am ei fod wedi rhoi cyfle inni gasglu tystiolaeth yn uniongyrchol gan bobl ifanc gyda phrofiad, yn y gorffennol a'r presennol, ac wrth gwrs mae gwahanol fersiynau o'r fagloriaeth wedi bod ar waith ers amser, a'i chydrannau hefyd.
Bydd yr Aelodau'n gwybod, wrth gwrs, ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor, fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi eu polisi o gael gwared ar y fagloriaeth, ond nid yw'r adroddiad ei hun yn argymell hynny wrth gwrs. Ar y sail y bydd y Llywodraeth mewn grym am flwyddyn neu ddwy eto, rwy'n dal i ddisgwyl iddynt weithredu—a gweithredu ar frys mewn rhai achosion—yn sgil argymhellion byw'r pwyllgor.
Yn sicr, dylai pob elfen arall o'r cymhwyster fod wedi'u prif-ffrydio yn y cwricwlwm a'r cymwysterau presennol erbyn hyn ond roedd gennyf obeithion mawr, mewn gwirionedd, gyda'r dystysgrif her sgiliau ar ei ffurf ddiweddaraf, yn enwedig yr elfen her gymunedol ohoni. Nod yr her sgiliau yw datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol, yn ogystal â meddwl yn feirniadol, datrys problemau, sgiliau cynllunio a threfnu, creadigrwydd ac arloesedd, ac effeithiolrwydd personol. Ac mewn gwirionedd, pwy nad yw'n dymuno hynny i'n pobl ifanc? Buaswn yn dweud bod y sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer grymuso personol, cymunedau cydnerth, arweinyddiaeth effeithiol mewn gwaith a bywyd cyhoeddus, ac unrhyw obaith i economi Cymru hefyd, os caf ychwanegu hynny. Ond maent hefyd fwy neu lai yr un nodau ag ar gyfer y cwricwlwm newydd a dyna pam nad ydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod angen y ddau arnom. Tynnaf sylw'r Aelodau yn benodol at argymhelliad 10, sy'n dweud, yn ei hanfod, dysgwch o gamgymeriadau'r fagloriaeth a sicrhewch eich bod yn cael y cwricwlwm newydd yn iawn.
Mae cipolwg sydyn ar yr argymhellion yn rhoi blas o'r problemau parhaus—clywsom am rai gan Lynne eisoes: yr angen am ddatganiad o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y fagloriaeth; arweiniad ynghylch disgwyliadau o ran darparu adnoddau—rwy'n falch o weld symud ar hynny; ymgyrch codi ymwybyddiaeth i gynyddu dealltwriaeth; eglurder ynglŷn ag a yw'n orfodol ai peidio; eglurder ynglŷn ag a yw myfyrwyr ôl-16 yn dewis astudio lle nad yw'r fagloriaeth yn orfodol; gwell dealltwriaeth o effaith y llwyth gwaith ar iechyd meddwl a lles dysgwyr; a gwell dealltwriaeth o effaith y fagloriaeth ar opsiynau eraill yn y cwricwlwm. Mae hwn yn gymhwyster sydd wedi bod gyda ni ers tro erbyn hyn, felly mae hynny'n llawer o bryderon i fod yn dal i godi yn ei gylch.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â myfyrwyr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a oedd yn gweld gwerth gwirioneddol i'r her sgiliau. Dyma ysgol sy'n gwbl ymrwymedig i'r fagloriaeth ac mae ethos y cwricwlwm newydd, mewn gwirionedd, eisoes yn cael ei deimlo a'i weithredu drwy'r ysgol honno. Ond nid oedd yn brofiad cyson ar draws Cymru. Cawsom dystiolaeth gymhellol gan ddysgwyr ledled Cymru—nawr, rydym yn derbyn ei bod yn anochel y bydd agweddau rhieni yn lliwio barn eu plant—ond profwyd y rhain ar wahân mewn gwaith a wnaethom hefyd. Pan arolygwyd pobl ifanc, roedd dros hanner y rheini a oedd yn astudio her sgiliau'r lefel sylfaen yn meddwl ei fod yn llai defnyddiol na chymwysterau eraill i'w paratoi ar gyfer gwaith a bywyd. Dyma yw pwrpas yr her sgiliau. Roedd dwy ran o dair ohonynt yn credu ei fod yn cymryd mwy o amser, er bod y rhan fwyaf o'r farn nad oedd yn fwy na'n llai anodd nag astudiaethau traddodiadol.
Mae'r un peth yn wir am dystysgrif her sgiliau'r lefel genedlaethol, er bod 70 y cant o'r myfyrwyr yn yr achos hwn yn credu ei bod yn cymryd gormod o amser. Roedd y ffaith bod myfyrwyr ôl-16 yn teimlo yr un peth yn ddigon i fy argyhoeddi i, yn enwedig gan fod traean ohonynt yn dweud eu bod yn meddwl ei fod yn llai anodd na safon uwch, er ei fod yn cymryd mwy o amser—roedd dwy ran o dair ohonynt yn credu hynny. A dylai hynny beri pryder inni, rwy'n credu, oherwydd gwerthir y fagloriaeth i brifysgolion fel cymhwyster sy'n gyfwerth â safon uwch, ond os yw'n cael ei ddefnyddio gan rai prifysgolion fel rheswm dros ostwng graddau mynediad eraill, a bod cynlluniau eraill yn cynnig graddau is i ymgeiswyr os ydynt yn rhoi blaenoriaeth i'r brifysgol benodol honno yn eu ceisiadau UCAS, mae angen inni feddwl am hynny, gan fod gostwng gofynion mynediad yn arwydd gwael i'r sector addysg uwch yn fwy cyffredinol. Ac mae cyfeirio at y fagloriaeth fel ffactor sy'n ysgogi hynny yn fy mhoeni mewn gwirionedd, yn hytrach na rhoi hyder i mi yn ei gadernid—