Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Ond ar fater ehangach, roedd y pryderon ar yr ochr hon i'r Siambr yn ymwneud â'r ffaith nad oedd y pethau roedd hi'n eu dweud yn adlewyrchu'r hyn a oedd yn yr adroddiad, a phan oedd Lynne Neagle, fel Cadeirydd y pwyllgor, yn gwneud y datganiad, nid oedd Michelle Brown yn gwrando ar yr hyn yr oedd Lynne Neagle yn ei ddweud. Felly, gyda'r parch mwyaf, nid oes unrhyw syndod fod datganiadau gwallus yn mynd i gael eu gwneud yn y Siambr.