Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Mae'n ddadl amserol oherwydd bod y mesurau perfformiad newydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, yn enwedig gan fod colli golwg yn bwnc a fydd yn effeithio ar lawer ohonom, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gydol ein bywydau. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am wrando ar ddefnyddwyr ac arbenigwyr, ac am gyflwyno'r mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid. Mae'n wych mai Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno'r mesurau newydd hyn sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, a dylai helpu byrddau iechyd i roi blaenoriaeth i gleifion yn ôl eu hanghenion clinigol. Yr her a wynebwn yn awr yw sicrhau nad yw'r ffordd newydd hon o fesur yn arwain at golli ffocws ar y ddarpariaeth, a bod y cleifion sydd fwyaf o angen llawdriniaeth neu gymorth ar frys yn eu cael, a hynny cyn y gwneir niwed parhaol i'w golwg.
Fel y noda ein cynnig, rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030, sy'n ganran syfrdanol mewn gwirionedd, ac y bydd wedi dyblu erbyn 2050. Ar hyn o bryd, mae tua 111,000 o bobl yn byw gyda nam ar eu golwg yng Nghymru, ac yn y ddwy sir rwy'n eu cynrychioli, mae dros 13,500 o bobl yn byw gyda rhyw fath o nam ar eu golwg, ac mae tua 1,500 o bobl wedi'u cofrestru'n ddall. Gadewch inni oedi ac ystyried beth y mae hyn yn ei olygu. Ymhen 30 mlynedd, bydd gan oddeutu 7 y cant o boblogaeth Cymru nam ar eu golwg. Golyga hyn y byddant yn byw gyda nam ar un o'n synhwyrau pwysicaf. Nawr, mae llawer ohonom yn y Siambr, a minnau yn eu plith, yn gwisgo sbectol i gywiro ein golwg, ac onid yw'n rhwystredig pan na allwn ddod o hyd iddynt am gyfnod byr, ac ni allwn weld yn glir iawn? Meddyliwch sut beth yw hynny ar sail barhaol, ac yn aml heb obaith o allu gweld yn glir eto, neu ar ei waethaf, heb obaith o allu gweld o gwbl. Meddyliwch wedyn am yr effaith hirdymor ar iechyd meddwl claf o orfod derbyn eu bod yn colli eu golwg, ac yna ystyriwch y gost i'r GIG a'r wladwriaeth o gefnogi unigolyn â nam ar eu golwg neu sydd wedi colli eu golwg.
Mae'r costau anuniongyrchol hyn sy'n gysylltiedig â cholli golwg yn costio tua £268 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac yn ôl ffigurau Access Economics a gynhyrchwyd yn 2017 gan Deloitte, mae'r lleihad cysylltiedig mewn iechyd a lles o ganlyniad i fyw gyda nam ar y golwg yn £1 biliwn bob blwyddyn yng Nghymru. A dim ond am arian rwy'n sôn yn y fan hon. Rhaid i ni gofio'r gost bersonol i'r unigolyn. A dywedodd RNIB hynny'n glir iawn: mae'r rhwystrau y mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn eu hwynebu bob dydd eisoes yn creu anghydraddoldeb dwfn, a bydd yn troi'n drychineb genedlaethol oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth radical. Mae'r sefyllfa bresennol yn dangos bod rhestrau aros offthalmoleg wedi tyfu y tu hwnt i reolaeth, ac ystyrir bod un o bob tri chlaf mewn perygl mawr o golli eu golwg neu o aros yn hwy na'u hamseroedd aros targed. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r ffigur hwn yn waeth o lawer—bron 50 y cant o bobl—a ledled Cymru offthalmoleg yw'r ail waethaf o'r holl ddisgyblaethau o ran amseroedd aros.
Cyfarfûm â nifer o bobl drwy fy ngwaith yn yr etholaeth a thrwy grŵp cleifion yr RNIB, ac mae rhai ohonynt yn eistedd yma fel y dywedais eisoes, ac rwyf am atgyfnerthu'r neges nad oes yr un o'r cleifion hyn yn beirniadu'r meddygon, y clinigwyr, y staff gofal iechyd gweithgar. Pan gânt y driniaeth, mae'n wych; cael y driniaeth sy'n anodd. Maent am wneud yn siŵr ei fod yn well gwasanaeth i bobl eraill. Weinidog, y bywydau hyn, y bobl hyn, sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau y mae eich Llywodraeth yn eu gwneud, ac mae un o'r prif bryderon yn ymwneud ag apwyntiadau. Mae yna restrau aros. Ac wrth gwrs, mae pawb ohonom yn derbyn y bydd rhestrau aros yn bodoli ar gyfer rhai cyflyrau. Ac wrth gwrs, mae llwyddiant yn creu rhestrau aros. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n ddiddorol darllen dros y penwythnos mai'r llawdriniaeth ar gyfer trwsio cataractau yw'r fwyaf llwyddiannus bellach a'r fwyaf poblogaidd a mwyaf cyffredin o unrhyw lawdriniaeth a wneir gan y GIG yn y DU. Ond mae pris i'w dalu am y llwyddiant hwn—sef bod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio, rhestrau aros hwy heb y gyllideb ychwanegol o reidrwydd. Dychmygwch y rhwystredigaeth; ateb o'r radd flaenaf sydd mor gyffredin fel y gellir mynd ag arbenigwyr i wledydd â chyfleusterau meddygol gwael a darparu llawdriniaeth i achub eu golwg, ond yn ein gwlad gymharol gyfoethog ni, caiff mynediad at lawdriniaeth cataract ei ddyrannu'n anghyson.
Roedd cynllun tebyg gan y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad ar gyfer glawcoma yn llwyddiannus iawn, a chafodd groeso mawr, ond arweiniodd at bwysau ychwanegol ar glinigau. A chlywais nad yw'n anarferol i gleifion aros am dros bedair awr i fynychu eu hapwyntiadau. Nid dim ond yr amser aros ar gyfer apwyntiadau a godwyd, ond mater canslo apwyntiadau. Nododd cais rhyddid gwybodaeth i Betsi Cadwaladr fod y bwrdd iechyd hwnnw, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi canslo'n agos i 40,000 o apwyntiadau offthalmoleg; roedd tua 7,900 ohonynt yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. A chlywais gleifion yn dweud pethau fel, 'Rwyf wedi cael digon o lythyrau canslo i bapuro wal fy ystafell wely.' Cawsom wybod sut oedd pobl yn sefyll yno yn y ciw yn aros i gael eu gweld a byddent yn clywed y derbynnydd ar y ffôn â rhiant neu briod yn ôl yn eu cartref yn dweud, 'O, dywedwch wrtho na all ddod i mewn', ac maent yn sefyll o flaen y derbynnydd, yn aros i gael eu derbyn.
Mae angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Weinidog, rwy'n gofyn i chi wneud rhywbeth yn ei gylch, oherwydd mae hyn yn gwbl hanfodol. Mae cleifion yn sôn sut y mae colli golwg a dirywiad eu golwg yn effeithio'n enfawr ar eu hiechyd meddwl. Mae'n arwain at arwahanrwydd, dicter, colli ffrindiau. Rhaid i bobl roi'r gorau i'w trwyddedau gyrru, sy'n cael effaith aruthrol, yn enwedig os ydych yn byw mewn cymuned wledig. Dywedodd un claf, a ddefnyddiai ei ganolfan hamdden leol i nofio, fod rhywun wedi dweud wrtho na allai ddefnyddio'r ganolfan pan ddaeth yn amlwg ei fod yn colli ei olwg am ei fod yn berygl iechyd a diogelwch. Yn anffodus, mae colli golwg yn rhywbeth sydd â llawer iawn o stigma ynghlwm wrtho.
A hoffwn nodi hefyd, Weinidog, nad yw pob claf yn cael ei eni â phroblemau llygaid neu'n dioddef problemau sy'n gysylltiedig â heneiddio. Rwy'n pryderu nad oes digon o ddealltwriaeth neu gymorth yn cael ei roi i'r rhai sy'n colli eu golwg yn sydyn oherwydd anaf i'r ymennydd neu achosion eraill o golli golwg yn gyflym. Weinidog, hoffwn i chi edrych ar eich strategaeth gofal llygaid a mynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys. Rwy'n mynd i roi'r gorau iddi yn awr; nid wyf yn mynd i gael digon o le i orffen yn y bôn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed beth y mae pawb arall yn ei ddweud. Weinidog, rydych yn gwneud yn dda; gallem wneud yn well. Gwrandewch yn ofalus iawn arnom os gwelwch yn dda.