Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:51, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu fy mod i wedi taro ar wendid yn y man yma efallai. Un maes polisi lle bu esblygiad yw Brexit. Heddiw, mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau y byddai'n ymgyrchu dros aros pe byddai refferendwm yn cael ei galw gan Brif Weinidog Torïaidd, ond mae'n gadael yn agored y cwestiwn o ba un a fyddai'n gwneud yr un peth pe byddai Llafur mewn Llywodraeth. A ydych chi'n cefnogi'r safbwynt hwnnw, neu a allwch chi gadarnhau heddiw pe byddai Llywodraeth Lafur yn cyflwyno cytundeb wedi ei ail-gytuno i'r bobl, y byddech chi, y Blaid Lafur yng Nghymru a'ch Llywodraeth, yn dal i ymgyrchu dros aros beth bynnag y byddai Plaid Lafur y DU yn ei benderfynu?