1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau?
Mae masnachfraint Cymru a'r gororau yn parhau i gael ei darparu yn unol â'r cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw eisoes—cynllun uchelgeisiol iawn ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r camau sydd eisoes wedi eu cymryd i wella'r gwasanaethau hynny. Ceir llawer mwy a fydd yn dilyn dros gyfnod y fasnachfraint.
Prif Weinidog, cefais e-bost yr wythnos diwethaf, ac rwy'n siŵr bod hynny'n swnio'n gyfarwydd gan arweinydd yr wrthblaid. Cefais e-bost oddi wrth Gill ac Antosh, sy'n rhedeg sefydliad gwely a brecwast yn fy etholaeth fy hun. Maen nhw wedi derbyn gohebiaeth gan ddau o'u gwesteion am eu taith ar y trên o Gasnewydd i Hwlffordd. Nawr, cafodd y gwesteion amser gwych yn cerdded ar hyd ein llwybr arfordirol ac fe wnaethon nhw fwynhau ein lletygarwch enwog yn sir Benfro yn fawr. Fodd bynnag, er iddyn nhw gadw seddi, disgrifiwyd eu taith ar y trên fel 'gwasgfa' a 'dan ei sang' gydag un o'r gwesteion, a oedd yn gwella yn ddiweddar o'r eryr, wedi ei gwasgu rhwng y troli arlwyo, teithwyr eraill a'r drws. Roedd hyn yn hynod o boenus iddi hi, i'r fath raddau fel ei bod yn teimlo fel canslo'r gwyliau gan ei bod hi'n teimlo na allai fynd ymlaen.
Nawr, mae 75 y cant o'r gwesteion yn y sefydliad gwely a brecwast hwn yn dod o dramor, ac mae mwy na 60 y cant yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus i gyrraedd sir Benfro. Ai dyma'r croeso i Gymru y dylai pobl fod yn ei gael ar adeg pryd y dylem ni fod yn rhoi hwb i nifer ein twristiaid? Ac a yw hi'n iawn y dylai gwesteion i'n gwlad gael eu trin mor wael? A beth yw eich neges—[Torri ar draws.] Gwn nad yw'r Aelodau Llafur eisiau clywed realiti ein gwasanaethau trên, ond beth yw eich neges i Gill ac Antosh? Beth yw eich neges i Gill ac Antosh ac i'r gweithredwyr a'r busnesau twristiaeth eraill sy'n dibynnu ar ymwelwyr yn dod i Gymru?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi hen arfer erbyn hyn â'r ffordd ddi-eironi y gofynnir cwestiynau yn y Cynulliad hwn i mi—cwestiynau gan arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma am deithio ar reilffyrdd i'r gorllewin o Gaerdydd gan blaid a ganslodd trydaneiddio'r rheilffordd i orllewin Cymru. Onid oes ganddo unrhyw gywilydd o gwbl yn y cwestiynau a ofynnodd i mi, pan mai ei blaid ef fu'n gyfrifol am un o'r rhwystrau mwyaf i deithio ar y rheilffyrdd yn y rhan honno o Gymru yr ydym ni wedi eu dioddef yn ystod y Cynulliad cyfan hwn?
Yr hyn a ddywedaf wrth y bobl sydd wedi anfon e-bost ato yw hyn: mae gan y Llywodraeth hon gynllun i ehangu capasiti ar y rheilffordd honno ac ar reilffyrdd eraill yng Nghymru. Dyna ganlyniad yr esgeulustod a achoswyd gan y fasnachfraint a lofnodwyd gan ei Lywodraeth ef gyda'r gweithredwr blaenorol. Nid yw hynny'n mynd i ddigwydd mewn chwe mis; mae'n mynd i ddigwydd dros oes y fasnachfraint. Mae cynlluniau uchelgeisiol ar waith fel y bydd capasiti ychwanegol i'r gorllewin o Gaerdydd i lawr i rannau eraill o Gymru. Byddem ni'n falch iawn pe gallem ni ei gyflwyno'n gynt, ond ceir cyfyngiadau o ran pa mor gyflym y gallwch gael trenau wedi eu danfon. Ceir cyfyngiadau ar gyllid o ganlyniad i benderfyniadau ei Lywodraeth ef hefyd. Ond, byddwn yn defnyddio grym y fasnachfraint honno i sicrhau'r gwelliannau hynny. Pryd y bydd ei Lywodraeth ef yn anrhydeddu ei haddewidion i Gymru? Nid wyf i'n gweld unrhyw un ohonyn nhw, Llywydd. Nid wyf i'n gweld unrhyw un o'r cyhoeddiadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol pan roedd yn canslo trydaneiddio ac yn cyflwyno cyfres o achosion busnes. Nid wyf i wedi gweld unrhyw un ohonyn nhw yn dwyn ffrwyth. Pryd fyddwn ni'n gweld hynny ar gyfer pobl yng ngorllewin Cymru?
Mae angen i'r Prif Weinidog ymdawelu, rwy'n meddwl. A rhag ofn nad ydych chi'n deall, Prif Weinidog, nid wyf i yma i amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig; rwyf i yma i ddwyn eich Llywodraeth chi i gyfrif a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cyflawni—[Torri ar draws.]
Gormod o gyffro. Allwn ni ddim clywed yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Yn arbennig, ni all y Prif Weinidog glywed yr hyn y mae'n ei ddweud.
Rwyf i yma i ddwyn eich Llywodraeth chi i gyfrif, i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyflawni dros bobl Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml yn y Siambr hon, rydym ni'n parhau i dynnu sylw at fethiannau eich Llywodraeth chi. Nawr, yn sgil tarfu yr hydref diwethaf a'r methiannau parhaus, mae ffydd y cyhoedd yng ngallu'r fasnachfraint newydd i gyflawni yn isel. Dim ond 72 y cant o gymudwyr oedd yn fodlon pan gawsant eu holi am eu boddhad cyffredinol o'u taith yn yr arolwg rheilffyrdd cenedlaethol diweddaraf.
Nid yw hyn yn dda, Prif Weinidog, o ystyried ein bod ni'n gweld ailgyflwyno trên ar reilffordd cwm Rhymni nawr, a ddefnyddiwyd ddiwethaf yng Nghymru yn 2005, ar ôl bod mewn gwasanaeth cyn hynny ers y 1960au. Penderfynodd Trafnidiaeth Cymru hyrwyddo hyn drwy honni bod trên poblogaidd yn ôl gyda gwên. Prif Weinidog, nid yw hwn yn fater i wenu na chwerthin yn ei gylch. Mae cymudwyr yn rhwystredig ac wedi syrffedu â'r diffyg gweithredu ac aros i'r gwasanaeth gwell newydd gael ei gyflwyno. Beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau bod gan y cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu'r fasnachfraint newydd y gefnogaeth dechnegol, reoli ac ariannol sy'n angenrheidiol i sicrhau eu bod nhw'n gallu helpu i ddarparu gwasanaeth rheilffordd newydd o'r radd flaenaf yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, mae'n braf gwybod bod arweinydd yr wrthblaid wedi rhoi'r gorau i geisio amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn. Bydd hynny'n arbed cryn amser i ni ar lawr y Cynulliad, mae'n siŵr.
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r pwerau sydd gennym ni a'r cyllid sydd gennym ni. Byddai'n well gennym ni pe byddai gennym ni fwy o bwerau, byddai'n well gennym ni pe byddai gennym ni fwy o gyllid i fynd gydag ef, oherwydd wedyn byddem ni'n gallu darparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. Peth braf i'w wybod pan fydd ei Lywodraeth ef yn penderfynu bod rheilffyrdd y Cymoedd yn mynd i gael eu trosglwyddo o'r diwedd, ar ôl misoedd o oedi ynghylch y mater hwnnw hefyd. Rydym ni'n defnyddio popeth; yr holl bwerau sydd gennym ni, Llywydd, rydym ni'n eu defnyddio i wella gwasanaethau i deithwyr, i adeiladu capasiti, i ddarparu'r fasnachfraint yr ydym ni wedi cytuno arni—un o'r masnachfreintiau mwyaf uchelgeisiol y cytunwyd arni yn unman yn y Deyrnas Unedig. Pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn fy hysbysu bod boddhad y cyhoedd gyda'i berfformiad ef yn 72 y cant, byddaf yn fwy parod i wrando ar ei feirniadaethau o eraill sydd yn yr un sefyllfa.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn gynharach eleni, cyngor tref Machynlleth, lleoliad Senedd gyntaf Cymru, wrth gwrs, oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth y Senedd hon a'ch Llywodraeth chi yr un peth. Ddau fis yn ôl, cyngor tref Machynlleth oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatgan ei gefnogaeth i annibyniaeth. Rwy'n credu y gallwch chi weld lle'r wyf i'n mynd yn hyn o beth. Ar ôl eich sylwadau yr wythnos diwethaf yn difrïo gwladychiaeth a'ch datganiad ddoe nad oedd eich cefnogaeth i'r undeb yn ddiamod, a yw eich chwilfrydedd ynghylch annibyniaeth yn swyddogol?
Llywydd, gadewch i mi ei gwneud yn eglur i bobl yng Nghymru beth yw dewis y Siambr hon. Ar y naill law, mae gennych chi blaid sy'n blaid sydd braidd wedi ei diwygio nad yw wir yn cyd-fynd â datganoli, a dyna'r oeddwn i'n ei olygu pan ddisgrifiais araith y Prif Weinidog yng Nghaeredin fel bod yn 'wladychol' ei natur. Os yw hi'n credu mai'r ffordd i wella'r undeb yw cryfhau swyddi'r Ysgrifenyddion Gwladol a chwifio jac yr undeb yn fwy egnïol yng Nghymru, yna mae gen i ofn nad dyna sut yr wyf i'n gweld y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
Yma, yn y blaid hon, rydym ni'n blaid ddatganoli. Rydym ni'n credu'n gryf mai dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru ddylai wneud penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am ddyfodol gwasanaethau sy'n berthnasol i Gymru. Ond rydym ni'n credu mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus hefyd. Mae Plaid Cymru yn sefyll yn ddiamwys dros annibyniaeth. Dyna'r hyn y byddan nhw'n ei gynnig i bobl Cymru mewn unrhyw etholiad, uchelgais a phenderfyniad i dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, ac mae popeth y maen nhw'n ei wneud a phopeth y maen nhw'n ei ddweud, fel y gwelsom ni ddoe, yn cael ei weld drwy'r lens honno. Rwy'n hapus iawn bod hynny'n wir, oherwydd nid wyf i'n meddwl am eiliad bod pobl Cymru o'r safbwynt hwnnw, ac yn sicr nid wyf innau.
Felly, os gallaf i grynhoi eich ateb, rydym ni'n ddiamwys o blaid annibyniaeth, rydych chi'n amwys o'i blaid. Mae'n sefyllfa o efallai pendant gan y Prif Weinidog.
Sut y byddech chi'n crynhoi'r hyn a ddywedais yn y ffordd honno?
Ond un maes polisi—[Torri ar draws.] Un maes polisi lle bu rhywfaint— [Torri ar draws.]
Iawn. Gadewch i arweinydd Plaid Cymru gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
Rwy'n credu fy mod i wedi taro ar wendid yn y man yma efallai. Un maes polisi lle bu esblygiad yw Brexit. Heddiw, mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau y byddai'n ymgyrchu dros aros pe byddai refferendwm yn cael ei galw gan Brif Weinidog Torïaidd, ond mae'n gadael yn agored y cwestiwn o ba un a fyddai'n gwneud yr un peth pe byddai Llafur mewn Llywodraeth. A ydych chi'n cefnogi'r safbwynt hwnnw, neu a allwch chi gadarnhau heddiw pe byddai Llywodraeth Lafur yn cyflwyno cytundeb wedi ei ail-gytuno i'r bobl, y byddech chi, y Blaid Lafur yng Nghymru a'ch Llywodraeth, yn dal i ymgyrchu dros aros beth bynnag y byddai Plaid Lafur y DU yn ei benderfynu?
Llywydd, mae Plaid Lafur Cymru o blaid gweld Cymru yn aros yn y Deyrnas Unedig—nid oes dim amwysedd ynglŷn â hynny—ac rydym ni o blaid gweld Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf i wedi dweud o'r blaen, fe'i dywedaf eto: os bydd cyfle i bobl yng Nghymru bleidleisio eto ar ba un a ddylem ni aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu ei adael, byddwn yn ymgyrchu dros aros.
Rwy'n credu mai dyna'r ail gwestiwn nad wyf i wedi cael ateb eglur iddo, ond mae'n codi'r cwestiwn os ydych chi'n hawlio bod yn blaid sy'n gyfan gwbl o blaid aros pam mai chi yw'r unig un nad yw'n sefyll er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o siawns o drechu plaid sydd o blaid Brexit ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. [Torri ar draws.]
A gaf i droi'n olaf at ychydig o newyddion sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr oriau diwethaf, sef y gorchymyn gweinyddu dros dro yn erbyn y cwmni sy'n gysylltiedig ag Afan Valley Adventure Resort? Mae'r barnwr yn yr achos hwnnw wedi dweud heddiw am y cwmni, Northern Powerhouse Developments, bod eu hymddygiad yn fodel busnes cwbl anonest ac yn gamddefnydd cywilyddus o freintiau masnachu atebolrwydd cyfyngedig.
Byddaf yn ysgrifennu at y Swyddfa Twyll Difrifol heddiw i ofyn iddyn nhw gychwyn ymchwiliad ar unwaith. Ond yn y cyfamser, a all y Prif Weinidog ddweud, o gofio'r hyn a glywsom gan y barnwr, pam y mynegodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth frwd i'r cwmni a'i brosiect ar sawl achlysur, gan gynnwys Gweinidog yr economi yn ymddangos yn ei fideos hyrwyddo?
Llywydd, rwy'n awyddus i gynorthwyo arweinydd Plaid Cymru, felly dywedaf wrtho eto yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud wrtho ddwywaith erbyn hyn yn y gobaith y caiff gyfle i ddal i fyny. Yn gyntaf oll, mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn credu'n ddiamwys mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru yw trwy barhau i fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni o'r safbwynt hwnnw yn ddiamwys, yn yr un modd ag yr ydych chi'n ddiamwys o blaid tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Rydym ni'n ddiamwys o blaid gweld Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn ymgyrchu i wneud hynny os cawn ni byth gyfle, yn union fel yr ydym ni'n ei ddweud ym Mrycheiniog a Maesyfed, lle'r ydym ni'n cyflwyno ymgeisydd gan fod pleidleiswyr Llafur ac aelodau Llafur ym Mrycheiniog a Maesyfed sy'n haeddu'r cyfle i bleidleisio dros ymgeisydd sy'n cynrychioli'r safbwyntiau hynny. Rwy'n deall ei fod ef wedi dilyn trywydd gwahanol ac na fydd gan y bobl hynny a fyddai fel arall wedi pleidleisio dros Blaid Cymru yn cael cyfle erbyn hyn i bleidleisio dros Blaid Cymru—penderfyniad syfrdanol, mae'n ymddangos i mi, i Blaid Cymru fel y'i gelwir, beidio â rhoi'r cyfle hwnnw i bobl a allai ddymuno ei chefnogi mewn etholiad yng Nghymru. Dyna ni. Bydd cefnogwyr ac aelodau'r Blaid Lafur yn cael y cyfle hwnnw, ac rwy'n falch iawn bod y cyfle hwnnw ganddyn nhw hefyd.
O ran y cwmni y soniodd amdano, gadewch i mi roi'r sicrwydd hwn i'r Aelodau: ni roddwyd yr un geiniog o arian Cymru gan y Llywodraeth hon i'r cwmni hwnnw, a byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Aelod yn gwneud hynny'n eglur mewn unrhyw lythyr y mae'n bwriadu ei ysgrifennu.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Dywedodd yr ymgeisydd blaenllaw i fod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig ddydd Sadwrn bod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4. Dywedodd hefyd, fel y dywedasoch yn gynharach, Prif Weinidog, y dylai fod dylanwad Ceidwadol cryf ar sut y caiff y gronfa ffyniant gyffredin ei gwario. Prif Weinidog, dywedasoch fod diffyg arian wedi eich atal rhag bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. A fyddech chi, felly, yn croesawu cynnig gan Lywodraeth y DU i'w ariannu drwy'r gronfa ffyniant gyffredin? [Chwerthin.]
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi gywiro'r gwall. Pan ddywedodd y datganiad manwl a wneuthum ar lawr y Cynulliad hwn bod dau reswm pam yr oeddwn i wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, roedd un oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar ein gallu i ariannu prosiectau hanfodol eraill yma yng Nghymru ac, yn ail ac ar wahân, oherwydd nad oeddwn i wedi fy argyhoeddi bod y niwed a fyddai'n cael ei wneud i'r ecoleg a'r amgylchedd yn y rhan honno o Gymru yn cael ei wrthbwyso'n ddigonol gan enillion economaidd i ganiatáu iddo ddigwydd. Felly, yn sicr ni fyddai arian ychwanegol ar ei ben ei hun yn datrys yr ail o'r rhesymau hynny.
Fy neges i i'r ymgeisydd blaenllaw, fel yr ydych chi'n ei alw, i'r Blaid Geidwadol yw bod angen iddo ennill etholiad yng Nghymru ac yna bydd ganddo hawl i'n cyfarwyddo ar yr hyn y dylem ni ei wneud yn y fan yma. Nid yw ei blaid erioed wedi ennill etholiad yng Nghymru drwy gydol cyfnod y bleidlais gyffredinol, ac iddo fe ddod yma a'n cyfarwyddo ni ynglŷn â'r cyfrifoldebau sydd gennym ni a sut y dylem ni eu cyflawni, ac yna i gyhoeddi ei fod yn bwriadu ad-hawlio cyfrifoldebau sydd wedi eu sefydlu yma, nid i Lywodraeth y DU cofiwch, os darllenwch chi yr hyn a ddywedodd, ond i'r Blaid Geidwadol, wel rwy'n credu bod materion gwirioneddol o gyfreithlondeb democrataidd yn y modd y mynegwyd y pwyntiau hynny.
Efallai, Prif Weinidog, y gallai sefyll ar sail maniffesto, gan addo darparu ffordd liniaru i'r M4 ac yna gwneud y gwrthwyneb, fel yr ydych chi'n ei wneud. Rydych chi'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth y DU, ac eto ni wnaethoch chi wrthwynebu erioed i swyddogaeth yr UE o ran sut y gwariwyd y symiau hyn. Dywedasoch wrthym yr wythnos diwethaf bod unoliaethwyr yn peryglu'r undeb, ar ôl i'r Swyddfa Dramor eich atal rhag defnyddio car ym Mrwsel. Onid yw'n wir mai'r bygythiad gwirioneddol—[Torri ar draws.] Onid yw'n wir mai'r bygythiad gwirioneddol i'r undeb yw'r 20 mlynedd yr ydym ni wedi eu cael o Lafur yn dyhuddo Plaid Cymru? Heddiw, maen nhw'n brolio oherwydd, ddoe, dywedasoch wrthyn nhw bod eich cefnogaeth—cefnogaeth y Blaid Lafur i'r undeb—yn destun adolygiad; nawr, rydych chi'n eu beirniadu nhw, nid am eu cefnogaeth i annibyniaeth, ond am y ffaith ei bod yn ddiamwys. Prif Weinidog, gan fod Cymru yn cefnogi'r DU ac wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, pam ydych chi fel Prif Weinidog yn gweithredu fel un gyda chenedlaetholwyr a Nicola Sturgeon?
Llywydd, nid wyf i'n gweld am eiliad sut y mae'n tanseilio'r undeb pan fo pobl yng Nghymru mewn etholiadau olynol wedi gallu dewis y gweinyddiaethau y maen nhw'n dymuno eu gweld yn gyfrifol am gyfrifoldebau datganoledig yma yng Nghymru. Dim ond gweithredu democratiaeth yw hynny, ac mae pobl wedi gwneud eu penderfyniadau, ac rydym ni'n cyrraedd yma o ganlyniad iddyn nhw. Nid oes dim yn hynny o gwbl sydd â'r effaith o danseilio'r Undeb. A dweud y gwir, rwyf i wedi credu erioed bod sefydliadau datganoledig cryf, wedi eu hethol yn ddemocrataidd gan bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud, yn cryfhau'r undeb ac nad ydyn nhw yn ei danseilio. Rwy'n credu mai dyna fu hanes datganoli i yma yng Nghymru.
O ran yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Aelod yn gwybod beth yw ein safbwynt yn eglur. Rydym ni wedi adolygu ac adolygu'r dystiolaeth sy'n dweud wrthym ni os yw Cymru yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn enwedig os caiff ei rhwygo o'r Undeb Ewropeaidd yn y ffordd yr hoffai ei blaid ac yntau ei gweld, byddai'r economi yng Nghymru 8 y cant i 10 y cant yn llai nag ydyw heddiw gyda'r holl niwed y bydd hynny yn ei wneud. Rydym ni wedi gweld ffigurau yng Ngogledd Iwerddon ddoe sy'n awgrymu y gallai Gogledd Iwerddon fod mewn dirwasgiad eisoes. Ceir ffigurau sy'n dangos, pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref, y gallai gweddill y Deyrnas Unedig fod mewn dirwasgiad cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Meddyliwch am y niwed y bydd hynny'n ei wneud i deuluoedd, i gymunedau ac i ddyfodol pobl yma yng Nghymru. Ni fyddwn yn sefyll o'r neilltu ac yn peidio â rhoi i bobl yng Nghymru y cyngor a'r ffeithiau yr ydym ni'n credu sy'n dangos iddyn nhw bod eu dyfodol yn cael ei sicrhau'n well drwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r gwirionedd yn ein barn ni a dyna pam na fyddwn ni'n cilio rhag mynegi hynny pryd bynnag y cawn y cyfle.