Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae masnachfraint Cymru a'r gororau yn parhau i gael ei darparu yn unol â'r cynlluniau y cytunwyd arnyn nhw eisoes—cynllun uchelgeisiol iawn ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd yma yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r camau sydd eisoes wedi eu cymryd i wella'r gwasanaethau hynny. Ceir llawer mwy a fydd yn dilyn dros gyfnod y fasnachfraint.