Amseroedd Ymateb Ambiwlansys

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi rhagori ar ei amser ymateb targed ar gyfer galwadau coch am 14 mis yn olynol erbyn hyn, gydag amser ymateb nodweddiadol o oddeutu pum munud a hanner. Rydym ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r prif gomisiynydd ambiwlans, BILlau a gwasanaeth ambiwlans Cymru i sicrhau gwelliant pellach.