Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai dyna'r ail gwestiwn nad wyf i wedi cael ateb eglur iddo, ond mae'n codi'r cwestiwn os ydych chi'n hawlio bod yn blaid sy'n gyfan gwbl o blaid aros pam mai chi yw'r unig un nad yw'n sefyll er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o siawns o drechu plaid sydd o blaid Brexit ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. [Torri ar draws.]

A gaf i droi'n olaf at ychydig o newyddion sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr oriau diwethaf, sef y gorchymyn gweinyddu dros dro yn erbyn y cwmni sy'n gysylltiedig ag Afan Valley Adventure Resort? Mae'r barnwr yn yr achos hwnnw wedi dweud heddiw am y cwmni, Northern Powerhouse Developments, bod eu hymddygiad yn fodel busnes cwbl anonest ac yn gamddefnydd cywilyddus o freintiau masnachu atebolrwydd cyfyngedig.

Byddaf yn ysgrifennu at y Swyddfa Twyll Difrifol heddiw i ofyn iddyn nhw gychwyn ymchwiliad ar unwaith. Ond yn y cyfamser, a all y Prif Weinidog ddweud, o gofio'r hyn a glywsom gan y barnwr, pam y mynegodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth frwd i'r cwmni a'i brosiect ar sawl achlysur, gan gynnwys Gweinidog yr economi yn ymddangos yn ei fideos hyrwyddo?