Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Prif Weinidog, y mis diwethaf, bu dros 10,000 o bobl yn aros mwy na 30 munud am ymateb ambiwlans i alwad oren. Bythefnos yn ôl, arhosodd cyfaill i mi, un o'm hetholwyr, bron i dair awr am ymateb brys yn dilyn amheuaeth o strôc. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol. Prif Weinidog, pryd all pobl Cymru ddisgwyl gweld terfyn ar amseroedd aros o fwy na 30 munud am ymateb ambiwlans neu frys?