Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:55, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Dywedodd yr ymgeisydd blaenllaw i fod yn Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig ddydd Sadwrn bod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4. Dywedodd hefyd, fel y dywedasoch yn gynharach, Prif Weinidog, y dylai fod dylanwad Ceidwadol cryf ar sut y caiff y gronfa ffyniant gyffredin ei gwario. Prif Weinidog, dywedasoch fod diffyg arian wedi eich atal rhag bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. A fyddech chi, felly, yn croesawu cynnig gan Lywodraeth y DU i'w ariannu drwy'r gronfa ffyniant gyffredin? [Chwerthin.]