Plant ag Anghenion Addysgol Arbennig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:14, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg o safon uchel ac yn gwireddu ei lawn botensial. Dyma ddiben Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 y Cynulliad hwn.