3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:50, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae cymdeithas wedi newid ac nid yw'r galw yno mwyach. Mae anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol ac nid yw'r rhan fwyaf ohonom ni'n credu erbyn hyn ei bod hi'n dderbyniol  defnyddio anifeiliaid gwyllt yn y fath fodd. Bellach, nid oes ond dwy syrcas yn unig yn teithio'r DU gydag anifeiliaid gwyllt. Mae'r anifeiliaid gwyllt a gedwir yn cynnwys camelod, sebras a cheirw Llychlyn. Yn Lloegr y mae'r ddwy syrcas wedi eu lleoli ond maen nhw'n ymweld â Chymru yn rheolaidd. Bob tro y byddan nhw'n dod yma, ceir galwadau o'r newydd i wahardd yr arfer.

Y llynedd, fe wnes i ymgynghori ar Fil drafft a oedd â'r amcan o fynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Cafodd yr ymgynghoriad dros 6,500 o ymatebion gyda mwyafrif llethol yr ymatebwyr o blaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Diben deublyg sydd i'r Bil byr, pwysig hwn. Yn gyntaf oll, bydd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru, sy'n arfer o'r oes a fu nad oes lle iddo yn y gymdeithas gyfoes. Yn ail, bydd yn gwneud rhai newidiadau pwysig i'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrwyddedu syrcasau.

Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n drosedd i weithredydd syrcas deithiol ddefnyddio anifail gwyllt, neu beri neu ganiatáu i rywun arall ei ddefnyddio, mewn syrcas deithiol. Bydd anifail gwyllt yn cael ei 'ddefnyddio' os yw'r anifail yn perfformio neu'n cael ei arddangos. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys, er enghraifft, rhoi anifail gwyllt yn fwriadol mewn sefyllfa sydd mewn unrhyw ffordd wedi ei bwriadu i hyrwyddo syrcas deithiol. Os canfyddir bod gweithredydd yn euog o drosedd, gall y llys bennu dirwy ddigyfyngiad. Yn y Bil, ystyr 'anifail gwyllt' yw anifail o rywogaeth nad oes neb fel arfer yn ei ddofi yn Ynysoedd Prydain. Mae'r diffiniad yn debyg i'r dehongliad o 'anifail gwyllt' yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981. Mae hyn yn osgoi sefyllfa lle gellid ystyried un rhywogaeth yn 'wyllt' mewn sw ond yn 'ddof' pan gaiff ei chadw mewn syrcas. Mae i 'anifail' yr ystyr a roddir iddo gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac mae'n berthnasol yn unig i anifeiliaid fertebraidd. Mae 'syrcas deithiol' yn golygu syrcas sy'n teithio o un lle i'r llall er mwyn rhoi adloniant yn y lleoedd hynny, er y bydd cyfnodau pan na fydd yn teithio o un lle i'r llall.

O dan amgylchiadau arferol, fe ddylai'r diffiniadau hyn fod yn ddigonol ac maen nhw'n gydnaws â deddfwriaeth sefydledig arall ac ystyr y termau hyn yn ôl yr hyn sy'n cael ei ddeall yn gyffredinol. Eto i gyd, mae'n bosibl y bydd ansicrwydd neu safbwyntiau sy'n gwrthdaro pan ystyrir a yw math o anifail yn wyllt ai peidio, neu a yw'r math o sefydliad, perfformiad neu adloniant yn cael ei ystyried yn syrcas deithiol neu beidio. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, os byddant yn codi, mae'r Bil yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau i bennu'r hyn a ystyrir yn anifail gwyllt neu beidio a'r hyn a ystyrir yn syrcas deithiol neu beidio. Mae'r pwerau hyn i lunio is-ddeddfwriaeth yn ddewisol ac nid oes unrhyw gynlluniau i'w defnyddio nhw ar hyn o bryd.

Er mai diben y Mesur yw gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol, efallai y bydd syrcasau'n dal i gadw anifeiliaid gwyllt ar yr amod nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio mewn perfformiadau neu'n cael eu harddangos fel rhan o'r syrcas deithiol. Mae'r Bil yn gwneud newidiadau i'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer syrcasau drwy ddileu'r eithriadau sydd gan syrcasau ar hyn o bryd ynglŷn â gofynion Deddf Trwyddedu Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 a Deddf Trwyddedu Sŵau 1981. Bydd angen trwydded ar unrhyw syrcas, boed yn syrcas deithiol neu beidio, sy'n cadw anifeiliaid gwyllt peryglus ond heb eu defnyddio nhw, o dan ddeddf 1976, oni bai fod hynny wedi digwydd fel arall yn unol â darpariaethau Deddf 1981.

Fe nodir y pwerau gorfodi yn yr Atodlen. Bydd y Bil, pe daw yn gyfraith, yn cael ei orfodi gan arolygwyr yr awdurdodau lleol. Rwy'n disgwyl mai prin fydd yr achosion o dorri'r darpariaethau yn y Bil, un ai drwy dorri'r gwaharddiad neu drwy rwystro arolygwr yn fwriadol wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd. Bydd unrhyw drosedd yn gymharol hawdd ei chanfod, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â darpariaethau'r ddeddfwriaeth.

Rwyf wedi esbonio diben y Bil, ac mae'n bwysig fy mod i hefyd yn eglur ynghylch yr hyn na fydd y Bil yn ei wneud. Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol, ac ni fydd yn atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill chwaith. Er hynny, mae lles yr anifeiliaid hyn yn bwysig iawn i mi, a dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar fy mwriad i ymgynghori ar gynllun trwyddedu ar gyfer pob arddangosfa o anifeiliaid. Bydd y cynllun yn gyfle i osod safonau lles priodol a sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu harddangos mewn ffordd barchus a chyfrifol. Rwy'n disgwyl lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus cyn diwedd toriad yr haf.

Nid yw mwyafrif y syrcasau teithiol yn defnyddio unrhyw anifeiliaid. Mae'r lleihad yn nifer yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu cadw yn arwydd clir nad oes yna'r un awydd ag a fu ymhlith y cyhoedd am y math hwn o adloniant. Ni ellir cyfiawnhau cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ar gyfer adloniant yn unig. Ni fydd yr anifeiliaid hynny'n debygol o gael bywyd o ansawdd da, ond hefyd nid yw'n cyfrannu fawr ddim ychwaith at ein dealltwriaeth ni o anifeiliaid gwyllt na'u cadwraeth.

Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn 2018, ac fe gyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yn ddiweddar i wneud yr un peth yn Lloegr. Mae'r Bil hwnnw wedi gwneud ei ffordd drwy Dŷ'r cyffredin a bydd yn symud yn gyflym drwy Dŷ'r Arglwyddi. Os nad oes gwaharddiad cyfatebol yng Nghymru, Cymru fyddai'r unig wlad ym Mhrydain Fawr lle gallai syrcasau teithiol barhau i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt. Ni fyddai hyn yn dderbyniol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau a phwyllgorau'r Cynulliad i sicrhau bod y Bil yn cael ei basio ar y llyfr statud.