– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Lesley Griffiths.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) i'w ystyried gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae syrcasau teithiol wedi bod yn mynd o amgylch y Deyrnas Unedig ers dros ddwy ganrif. Mae nifer y syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt, a nifer yr anifeiliaid gwyllt yn y syrcasau hynny, wedi lleihau'n ddirfawr dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae cymdeithas wedi newid ac nid yw'r galw yno mwyach. Mae anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol ac nid yw'r rhan fwyaf ohonom ni'n credu erbyn hyn ei bod hi'n dderbyniol defnyddio anifeiliaid gwyllt yn y fath fodd. Bellach, nid oes ond dwy syrcas yn unig yn teithio'r DU gydag anifeiliaid gwyllt. Mae'r anifeiliaid gwyllt a gedwir yn cynnwys camelod, sebras a cheirw Llychlyn. Yn Lloegr y mae'r ddwy syrcas wedi eu lleoli ond maen nhw'n ymweld â Chymru yn rheolaidd. Bob tro y byddan nhw'n dod yma, ceir galwadau o'r newydd i wahardd yr arfer.
Y llynedd, fe wnes i ymgynghori ar Fil drafft a oedd â'r amcan o fynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Cafodd yr ymgynghoriad dros 6,500 o ymatebion gyda mwyafrif llethol yr ymatebwyr o blaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Diben deublyg sydd i'r Bil byr, pwysig hwn. Yn gyntaf oll, bydd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru, sy'n arfer o'r oes a fu nad oes lle iddo yn y gymdeithas gyfoes. Yn ail, bydd yn gwneud rhai newidiadau pwysig i'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thrwyddedu syrcasau.
Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n drosedd i weithredydd syrcas deithiol ddefnyddio anifail gwyllt, neu beri neu ganiatáu i rywun arall ei ddefnyddio, mewn syrcas deithiol. Bydd anifail gwyllt yn cael ei 'ddefnyddio' os yw'r anifail yn perfformio neu'n cael ei arddangos. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys, er enghraifft, rhoi anifail gwyllt yn fwriadol mewn sefyllfa sydd mewn unrhyw ffordd wedi ei bwriadu i hyrwyddo syrcas deithiol. Os canfyddir bod gweithredydd yn euog o drosedd, gall y llys bennu dirwy ddigyfyngiad. Yn y Bil, ystyr 'anifail gwyllt' yw anifail o rywogaeth nad oes neb fel arfer yn ei ddofi yn Ynysoedd Prydain. Mae'r diffiniad yn debyg i'r dehongliad o 'anifail gwyllt' yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981. Mae hyn yn osgoi sefyllfa lle gellid ystyried un rhywogaeth yn 'wyllt' mewn sw ond yn 'ddof' pan gaiff ei chadw mewn syrcas. Mae i 'anifail' yr ystyr a roddir iddo gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac mae'n berthnasol yn unig i anifeiliaid fertebraidd. Mae 'syrcas deithiol' yn golygu syrcas sy'n teithio o un lle i'r llall er mwyn rhoi adloniant yn y lleoedd hynny, er y bydd cyfnodau pan na fydd yn teithio o un lle i'r llall.
O dan amgylchiadau arferol, fe ddylai'r diffiniadau hyn fod yn ddigonol ac maen nhw'n gydnaws â deddfwriaeth sefydledig arall ac ystyr y termau hyn yn ôl yr hyn sy'n cael ei ddeall yn gyffredinol. Eto i gyd, mae'n bosibl y bydd ansicrwydd neu safbwyntiau sy'n gwrthdaro pan ystyrir a yw math o anifail yn wyllt ai peidio, neu a yw'r math o sefydliad, perfformiad neu adloniant yn cael ei ystyried yn syrcas deithiol neu beidio. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, os byddant yn codi, mae'r Bil yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau i bennu'r hyn a ystyrir yn anifail gwyllt neu beidio a'r hyn a ystyrir yn syrcas deithiol neu beidio. Mae'r pwerau hyn i lunio is-ddeddfwriaeth yn ddewisol ac nid oes unrhyw gynlluniau i'w defnyddio nhw ar hyn o bryd.
Er mai diben y Mesur yw gwahardd anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol, efallai y bydd syrcasau'n dal i gadw anifeiliaid gwyllt ar yr amod nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio mewn perfformiadau neu'n cael eu harddangos fel rhan o'r syrcas deithiol. Mae'r Bil yn gwneud newidiadau i'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer syrcasau drwy ddileu'r eithriadau sydd gan syrcasau ar hyn o bryd ynglŷn â gofynion Deddf Trwyddedu Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 a Deddf Trwyddedu Sŵau 1981. Bydd angen trwydded ar unrhyw syrcas, boed yn syrcas deithiol neu beidio, sy'n cadw anifeiliaid gwyllt peryglus ond heb eu defnyddio nhw, o dan ddeddf 1976, oni bai fod hynny wedi digwydd fel arall yn unol â darpariaethau Deddf 1981.
Fe nodir y pwerau gorfodi yn yr Atodlen. Bydd y Bil, pe daw yn gyfraith, yn cael ei orfodi gan arolygwyr yr awdurdodau lleol. Rwy'n disgwyl mai prin fydd yr achosion o dorri'r darpariaethau yn y Bil, un ai drwy dorri'r gwaharddiad neu drwy rwystro arolygwr yn fwriadol wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd. Bydd unrhyw drosedd yn gymharol hawdd ei chanfod, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â darpariaethau'r ddeddfwriaeth.
Rwyf wedi esbonio diben y Bil, ac mae'n bwysig fy mod i hefyd yn eglur ynghylch yr hyn na fydd y Bil yn ei wneud. Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol, ac ni fydd yn atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill chwaith. Er hynny, mae lles yr anifeiliaid hyn yn bwysig iawn i mi, a dyna pam y cyhoeddais yn ddiweddar fy mwriad i ymgynghori ar gynllun trwyddedu ar gyfer pob arddangosfa o anifeiliaid. Bydd y cynllun yn gyfle i osod safonau lles priodol a sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu harddangos mewn ffordd barchus a chyfrifol. Rwy'n disgwyl lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus cyn diwedd toriad yr haf.
Nid yw mwyafrif y syrcasau teithiol yn defnyddio unrhyw anifeiliaid. Mae'r lleihad yn nifer yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu cadw yn arwydd clir nad oes yna'r un awydd ag a fu ymhlith y cyhoedd am y math hwn o adloniant. Ni ellir cyfiawnhau cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ar gyfer adloniant yn unig. Ni fydd yr anifeiliaid hynny'n debygol o gael bywyd o ansawdd da, ond hefyd nid yw'n cyfrannu fawr ddim ychwaith at ein dealltwriaeth ni o anifeiliaid gwyllt na'u cadwraeth.
Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn 2018, ac fe gyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yn ddiweddar i wneud yr un peth yn Lloegr. Mae'r Bil hwnnw wedi gwneud ei ffordd drwy Dŷ'r cyffredin a bydd yn symud yn gyflym drwy Dŷ'r Arglwyddi. Os nad oes gwaharddiad cyfatebol yng Nghymru, Cymru fyddai'r unig wlad ym Mhrydain Fawr lle gallai syrcasau teithiol barhau i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt. Ni fyddai hyn yn dderbyniol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau a phwyllgorau'r Cynulliad i sicrhau bod y Bil yn cael ei basio ar y llyfr statud.
Diolch. Mae yna nifer o siaradwyr yn y datganiad, ac rwy'n erfyn ar bawb i roi ychydig o ystyriaeth i hynny, a'r gobaith yw y caiff pawb gyfle i siarad. Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth, er mai darn bychan o ddeddfwriaeth ydyw o ystyried rhai o'r Deddfau y mae'r Llywodraeth a'r meincwyr cefn wedi eu cyflwyno cyn hyn. Ond mae'n un pwysig iawn. Fel y nodwch yn eich datganiad, mae'r 6,500 sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad am dystiolaeth yn dangos bod i hyn ran bwysig ym mlaenoriaethau llawer, ac rydym yn eich cefnogi chi'n llwyr yn yr ymdrechion y mae'r Llywodraeth yn ceisio eu cyflawni gyda'r darn hwn o ddeddfwriaeth, gan ei fod yn rhan o'n maniffesto ni yn ôl yn 2016.
Dim ond un neu ddau o gwestiynau, os caf i. Rwyf ychydig yn bryderus am yr agwedd is-ddeddfwriaethol yr ydych chi'n tynnu sylw ati yn eich datganiad, a'r gallu i gael hynny fel pŵer dewisol. Rwy'n sylweddoli nad ydych chi, fel Gweinidog, yn rhagweld defnyddio'r pwerau hyn ar hyn o bryd. Ond, o ran diffiniad a dehongliadau eraill, ceir ystod eang o senarios y gallech chi feddwl amdanyn nhw lle gallai Gweinidog yn y dyfodol mewn amgylchedd arall ddewis ehangu cwmpas y Bil hwn o'r hyn yr ydych chi'n bwriadu ei gyflawni gyda'r Bil hwn fel Gweinidog ar hyn o bryd. Fel yr oeddech chi'n dweud, dim ond dwy syrcas sy'n teithio gydag anifeiliaid gwyllt ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon, os nad pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yn gallu deall hynny'n burion. Ond a wnewch chi egluro inni pam rydych chi o'r farn ei bod hi'n bwysig cynnwys y ddarpariaeth honno yn y Bil, oherwydd byddai'n well o lawer gennyf i weld cyfeirio'n ôl i'r Cynulliad, a'r Cyfarfod Llawn yn benodol, pe byddai newid o'r fath, yn arbennig o ran cwmpas y Bil, a phe byddai'r dehongliad ohono'n cael ei ystyried gan Weinidog yn y dyfodol?
Rydych chi yn llygad eich lle pan ddywedwch y bydd Cymru, yn amlwg, yn ymuno â gweddill y Deyrnas Unedig yn y ffordd y maen nhw wedi deddfu yn y maes arbennig hwn—yr Alban, a Senedd y DU nawr, a'r Cynulliad. A wnewch chi roi syniad inni a yw hyn o fewn cwmpas y Biliau eraill a basiwyd yn seneddau eraill y Deyrnas Unedig, neu a oes meysydd yr ydych chi wedi edrych arnyn nhw na chawsant eu cynnwys yn y Bil yng Nghymru neu, yn wir, lle'r ydych wedi cynyddu cwmpas y Bil yng Nghymru i gwmpasu llawer mwy na'r hyn yr edrychodd yr Alban arno o bosibl, neu'r hyn yr edrychodd Senedd y DU arno hefyd?
Y cynllun trwyddedu yr oeddech chi'n sôn amdano yn eich datganiad ynglŷn ag anifeiliaid anwes—neu anifeiliaid dof, fe ddylwn i ddweud, mae'n ddrwg gen i—yr ydych chi'n bwriadu ei gyflwyno yn y dyfodol, a wnewch chi roi argoel inni o'r hyn yr ydych chi'n gobeithio ei gael yn sgil yr ymgynghoriad hwnnw, a'r meysydd y credwch fod angen eu cynnwys yn yr ymarfer penodol hwnnw na ellir ymdrin â nhw yn rhai o'r agweddau sydd gennych yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd? Oherwydd mae hwnnw'n ddarn sylweddol iawn o waith, fe fyddwn i'n awgrymu, gan dreiddio i feysydd o bob math.
Ac i gloi, byddwn i'n ddiolchgar pe byddech yn cadarnhau mai ymwneud â syrcasau teithiol ac anifeiliaid gwyllt y mae hyn, ac nad yw'n fwriad o gwbl gan y Llywodraeth i gynyddu cwmpas y Bil y tu hwnt i'r hyn yr ydych wedi ei ddweud heddiw. Oherwydd rwy'n sylweddoli, o safbwynt rhai, yn wir, fe ddylai'r darn hwn o ddeddfwriaeth gynnwys arddangos unrhyw fath o anifail, boed hwnnw'n anifail fferm neu'n anifail dof. Ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac yn sicr o'r sgyrsiau sydd wedi arwain at y Bil hwn heddiw, mae o fewn awdurdod y Llywodraeth yn gyfan gwbl i gwmpasu'r syrcasau teithiol ar hyn o bryd a'r anifeiliaid gwyllt sy'n perfformio, ac mae'r diffiniad o anifeiliaid gwyllt hefyd, yn ôl a ddeallaf, i'w ddeall yn gwbl glir. Diolch.
Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y sylwadau a'r cwestiynau hynny, ac rwy'n ddiolchgar am eich cefnogaeth chi a'ch plaid i'r Bil. Rwyf am fod yn glir iawn wrth ateb eich cwestiwn olaf: amcan y Bil hwn yw atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol ar sail foesegol. Dyna yn bendant yw diben ac amcan y Bil.
Roeddech chi'n holi am reoliadau, ac mae'n debyg bod hynny i ryw raddau yn cysylltu â'ch ail gwestiwn ynglŷn â'r Bil yn yr Alban a'r Bil sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae ein Bil ni'n debyg iawn i'r Bil yn yr Alban. Un gwahaniaeth mawr yw'r ffaith fod gennym ni'r gallu i gyflwyno is-ddeddfwriaeth a rheoliadau. Un o'r rhesymau pam roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig cael hynny yn y Bil oedd, er enghraifft, oherwydd gofynnwyd i mi, 'Pam na chawn ni restr o anifeiliaid gwyllt ar wyneb y Bil?' Fe fyddai honno'n rhestr faith iawn, iawn. Os edrychwch chi ar yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu defnyddio yn y ddwy syrcas ar hyn o bryd, nid wyf i'n credu bod angen rhestr, ond rwyf i yn credu, gyda threigl amser, y gallai fod angen rhestru anifeiliaid eraill—anifeiliaid gwyllt eraill—ac felly fe ddylem ni gael y rheoliadau hynny ar waith. Felly, mae hwnnw'n wahaniaeth mawr rhyngom ni a Bil Llywodraeth y DU. Mae'r gallu hwnnw gan yr Alban.
Roeddech chi'n gofyn am drwyddedu arddangosfeydd o anifeiliaid ac, fel y dywedais yn fy natganiad gwreiddiol, y llynedd fe es i ati i ymgynghori ar drwyddedu arddangosfeydd o anifeiliaid, a chysylltwyd hynny â'r broblem ynghylch gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n llenwi'r bylchau i gyd a all fodoli o ran darnau eraill o ddeddfwriaeth. Felly, fel y dywedais i, ni fydd y Bil, er enghraifft, yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol, ac nid yw'n atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ychwaith ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, er enghraifft. Felly, mae lles yr anifeiliaid hyn yn bwysig iawn a dyna pam yr wyf wedi cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno'r cynllun trwyddedu ar gyfer yr holl arddangosfeydd o anifeiliaid sy'n bodloni'r meini prawf penodol o dan y gyfraith. Byddaf yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach cyn diwedd toriad yr haf. Yn sicr, mae nifer yr ymatebion a gawsom ni i'r ymgynghoriad gwreiddiol y llynedd, o'r lle y tarddodd y Bil hwn, yn dangos y teimlad sydd gan bobl o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y cynllun hwn gennym wrth symud ymlaen.
Nid yw hyn yn cael ei wneud ar wahân; mae'n cael ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid ac asiantaethau gorfodi eraill ac wrth gydweithio â'm cymheiriaid yn Lloegr ac yn yr Alban. Bydd dull cyflawni'r cynllun yn cael effaith barhaol ar les anifeiliaid sy'n cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd, ac roeddech chi'n sôn am rai enghreifftiau. Mae'n debyg nad ydym ni'n gwybod am nifer sylweddol o anifeiliaid sy'n mynd o amgylch ysgolion, er enghraifft, ac rydym ni'n eu gweld nhw mewn sioeau amaethyddol ac mewn lleoliadau eraill yn aml. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn inni gael y cynllun hwn. Ond rwy'n credu hefyd bod hyn yn bwysig o ran ein hagwedd barhaus ni a chenedlaethau'r dyfodol tuag at les anifeiliaid.
Gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? Dwi’n croesawu’r datganiad—a dyw hwnna ddim yn rhywbeth dwi wedi bod yn ei ddweud yn aml iawn yn y misoedd diwethaf—ond mi oedd deddfwriaeth o’r fath, wrth gwrs, yn ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru hefyd yn 2016, felly rŷm ni’n sicr yn cefnogi’r egwyddor i ddeddfu yn y maes yma.
Mae e’n siomedig, neu mae’n rhwystredig efallai, ei bod hi wedi cymryd gymaint o amser i ni gyrraedd y pwynt yma lle mae’r Bil yn cael ei osod yr wythnos yma. Dwi’n gwybod fe gollon ni amser yn aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu yn y maes yma ac efallai bod yna wers i ni yn fanna hefyd: os ydym ni wir yn teimlo bod angen gweithredu mewn maes penodol, yna mae angen i ni edrych i wneud hynny ein hunain, fuaswn i’n dweud, yn y dyfodol.
Gaf i ofyn—? Rŷch chi’n cyfeirio, o beth welaf i, at weithredu’r Ddeddf yma o 1 Rhagfyr 2020 ymlaen. Hynny yw, mae hynny’n golygu bod yna bosibilrwydd y bydd yna haf arall, felly, flwyddyn nesaf, o syrcasys teithiol ac anifeiliaid gwyllt yn ymweld â Chymru. Ple sydd gen i i’r Gweinidog i weld os oes unrhyw bosibilrwydd y gellid cyflymu’r broses honno, oherwydd byddwn i wrth fy modd yn gweld y ddeddfwriaeth yma yn cael ei phasio cyn hynny, fel ein bod ni’n gallu bod mewn sefyllfa lle’r haf yma yw’r haf olaf lle rŷm ni’n gweld y syrcasys yma yn teithio ac yn ymweld â Chymru.
Dwi wedi cyfeirio at y ffaith, mewn egwyddor, ein bod ni’n gefnogol o’r hyn mae’r Llywodraeth yn ei wneud. Mae’n bosib, fel rŷm ni eisoes wedi clywed, efallai y bydd yna drafodaeth angenrheidiol o gwmpas y diffiniadau o wahanol dermau yn y ddeddfwriaeth a hefyd, efallai, pwerau, neu i ba raddau y mae pwerau’n cael eu rhoi i Weinidogion i ddehongli ac i amlinellu. Rheini, dwi'n weddol ymlaciedig ynglŷn â hynny ar hyn o bryd ond dwi yn tybio efallai mai yn fanna y bydd tipyn o'r drafodaeth yn digwydd.
Fe wnaethoch chi sôn am fylchau'n gynharach, ac un bwlch amlwg sydd wedi dod i'r amlwg yw y gallai syrcasau teithiol gael eu hailfrandio yn rhyw fath o arddangosfa anifeiliaid symudol. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o hynny ac fe hoffwn i glywed eich bod chi am ymdrin â'r materion hynny drwy eich cynllun trwyddedu arfaethedig. Y peth arall yr hoffwn ei wybod, wrth gwrs, yw pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd y cynllun trwyddedu yn cael ei weithredu. Nid wyf i'n galw'n unig am weithredu'r ddeddfwriaeth hon yn gyflymach, ond hoffwn i sicrhau hefyd fod y cynllun trwyddedu yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosib.
Rydych chi eisoes wedi cyffwrdd â hyn, mewn gwirionedd. Hynny yw, mae galwadau wedi bod, wrth gwrs, i wahardd gorfodi unrhyw anifail i berfformio, ac yn sicr nid wyf wedi cael fy narbwyllo ynglŷn â hynny. Ond rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol. Felly, hoffwn i wybod pam rydych chi'n gwahaniaethu rhwng anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid eraill ac a yw'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle, efallai, i ehangu'r cynnig hwnnw.
Ac, yn olaf, wrth gwrs, rydych yn nodi, rwy'n credu mai yn y memorandwm esboniadol a gyhoeddwyd gyda'r Mesur yr oedd hynny, fod bron dwy ran o dair o'r ymatebion i ymgynghoriad blaenorol drwy ymgyrch ar-lein. Rwyf i wedi codi hyn mewn cyd-destunau eraill o'r blaen a hoffwn ofyn i chi a fyddech chi'n fodlon cyhoeddi faint—nid gwybodaeth am ymatebion unigol, ond pa ganran o'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad blaenorol a ddaeth mewn gwirionedd o Gymru oherwydd credaf fod honno'n ystyriaeth bwysig i ni wrth ymdrin â'n holl ymgynghoriadau. Ac er y bydd rhesymau dilys iawn, mewn rhai amgylchiadau, dros ystyried ymatebion i ymgynghoriadau o wledydd eraill, hoffwn i ddeall faint o bwys yn y cyd-destun penodol hwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ymatebion hynny o'r tu allan i Gymru. Ac, yn fy marn i, fel mater o arfer a threfn, rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn sicrhau bod yr ystadegau hyn ar gael. Ni ddylai hon fod yn dasg feichus oherwydd rwy'n cymryd bod cronfa ddata yn rhywle gan eich bod chi'n cyfathrebu â'r rhai sydd wedi cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau. Felly, ni ddylai honno fod yn dasg rhy feichus.
Diolch, Llŷr, am eich cefnogaeth chi i'r Bil, ac roeddwn i'n sicr yn croesawu'r sgwrs a gefais i gyda chi ac Andrew R.T. Davies cyn y datganiad hwn heddiw. O ran eich cwestiynau ynglŷn â'r amser y bydd hi'n ei gymryd i'r Bil ddod i rym, rwyf i'n rhagweld, gyda chefnogaeth, y bydd y Bil yn mynd rhagddo i gam lle y gallem ni gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Fel y dywedais, bydd y Bil yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2020. Erbyn hynny, bydd disgwyl i'r ddwy syrcas sy'n teithio ar hyn o bryd ac yn defnyddio anifeiliaid gwyllt fod wedi cwblhau eu taith ac yna wedi dychwelyd i'w cartref dros y gaeaf. Yn sicr, rwy'n agored iawn i symud y dyddiad hwnnw ymlaen pe bai modd ac rwy'n credu y gellid cael cyfle i wneud hynny pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno gwaharddiad yn Lloegr erbyn i'w rheoliadau trwyddedu nhw ddod i ben. Oherwydd, yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am drwyddedu syrcasau, nid ni. Os byddan nhw'n gweithredu'r gwaharddiad cyn i'w rheoliadau trwyddedu ddod i ben ym mis Ionawr 2020, credaf y byddai'n bosib inni ddod â'r dyddiad hwnnw ymlaen. Felly, unwaith eto, unrhyw benderfyniad i wneud hynny, rwy'n hapus iawn i'w ystyried.
O ran eich cwestiwn ynghylch bylchau, yn sicr, os meddyliwch chi am y peth, ceir llawer iawn mwy o anifeiliaid yn cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd o anifeiliaid nag, yn amlwg, mewn syrcasau. Felly, dyna pam mae'r cynllun arddangosfeydd o anifeiliaid mor bwysig, ac fe soniais i yn fy ateb i Andrew R.T. Davies y byddaf i'n ymgynghori cyn diwedd toriad yr haf ac yn sicr byddwn i'n hoffi gweld y cynllun hwnnw'n cael ei roi ar waith, fe ddywedwn i, mor gynnar yn 2020 ag sy'n bosib.
O ran, 'Pam mae'r drosedd hon yn berthnasol i anifeiliaid gwyllt yn unig ac nid i bob anifail?'—ac rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb sydd wedi cael ei chychwyn yn ddiweddar—nid oes yr un gwrthwynebiad sylfaenol, moesegol i ddefnyddio anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol neu mewn lleoliadau tebyg. Mae'r ddadl foesegol dros waharddiad yn achos anifeiliaid gwyllt, rwy'n credu, yn gryf iawn; rwy'n credu bod y ddadl dros waharddiad yn achos anifeiliaid dof yn fwy amwys. Ac os meddyliwch chi am y peth, mae yna lawer o weithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid dof yn teithio at ddibenion cynnal perfformiadau neu arddangosfeydd heb fawr o fanteision ehangach amlwg, sy'n cael eu hystyried yn gwbl dderbyniol gan y gymdeithas yn gyffredinol. Yr esiampl sy'n cael ei rhoi i mi bob tro—ac rwy'n credu inni drafod hyn—yw neidio ceffylau, a chredaf y byddai'n anodd iawn dadlau na ddylid eu defnyddio nhw i wneud gweithgaredd tebyg mewn syrcas deithiol.
Gofynnodd rhywun imi beth a fyddai'n digwydd yn achos syrcas sydd heb fod yn deithiol. Hyd y gwn i, roedd yna un syrcas fel hyn yn y DU, ac nid wyf i'n siŵr ei bod hi yno o hyd, ond unwaith eto, mae'n ymwneud â sicrhau nad oes yna unrhyw fylchau mewn unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, yn sicr, y cyngor cyfreithiol a roddwyd i mi oedd y byddai'n rhaid i honno wedyn gael trwydded sw yn ôl pob tebyg, er enghraifft, ond ceir deddfwriaeth i ymdrin â phethau o'r fath.
Roeddech chi'n fy holi i am y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, o ran y rhai a oedd yn dod o Gymru, ac yn sicr, byddwn i'n hapus iawn pe bai modd darparu'r wybodaeth honno. Serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud mai rhywbeth tebyg i 97 y cant o'r ymatebwyr oedd yn awyddus i weld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno, felly nid wyf yn credu y byddai angen ichi wybod faint o bwys a roddir ar hyn yn yr un ffordd ag a fyddai'n angenrheidiol mewn deddfwriaeth arall.
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr. Bu'r ymgyrch yn un faith, ond rwyf i wedi rhoi cefnogaeth lawn iddi dros nifer o flynyddoedd er mwyn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae gwaharddiad yn bodoli eisoes yn yr Alban.
Yn 2006, sy'n amser maith yn ôl erbyn hyn, mewn ymgynghoriad cyhoeddus ledled y DU, roedd 94.5 y cant o'r rhai a ymatebodd o'r farn mai gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau fyddai'r ffordd orau o sicrhau lles anifeiliaid. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r Gweinidog wedi dweud hynny, 97 y cant, a'r llynedd roedd Cymru yn cefnogi'r gwaharddiad. Un peth y gallwn ni fod yn sicr ohono: mae'r cyhoedd ar ein hochr ni. Rwy'n croesawu'r gwaharddiad arfaethedig ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol; rwy'n credu bod ei amser wedi dod. Rydym yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain, nid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dau gwestiwn: pam mae'n fwriad caniatáu i syrcas barhau i gadw anifeiliaid gwyllt ar yr amod na fyddan nhw'n eu harddangos neu'n eu defnyddio mewn perfformiadau? Yn fy marn i, dyna'r hyn sydd fel rheol yn cael ei ddisgrifio fel bwlch. A'r ail gwestiwn yw: a fydd defnyddio adar ysglyfaethus ar gyfer arddangosfeydd awyr agored yn parhau i gael ei ganiatáu?
Diolch ichi, Mike Hedges, am y ddau gwestiwn hynny. Felly, gan ateb eich ail gwestiwn yn gyntaf: byddai adar ysglyfaethus wedyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid yr wyf yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
O ran pam na allwn ni wahardd syrcasau rhag cadw anifeiliaid gwyllt na fydden nhw'n eu defnyddio nac yn eu harddangos, byddai hynny'n gofyn am golli perchnogaeth—byddai hynny'n golygu amddifadu o eiddo. Nid ydym o'r farn y byddai hynny er budd y cyhoedd a byddai'n anodd iawn ei gyfiawnhau. Pe byddai'r unigolyn hwnnw'n gofalu am yr anifail yn iawn, a phe na fyddai'r unigolyn hwnnw'n gofalu am yr anifail gwyllt hwnnw'n iawn, byddai hynny'n cael ei gynnwys dan ddeddfwriaeth arall. Mae'n amlwg yn anodd iawn, felly, i gyfiawnhau hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Hoffwn i groesawu eich datganiad yn fawr, a gwn y bydd llawer iawn o'm hetholwyr yn ei groesawu hefyd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â'r gofynion ychwanegol sydd ar arolygwyr yr awdurdodau lleol. Rwy'n derbyn eich pwynt dilys iawn y bydd troseddau'n rhwydd eu canfod. Ond pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael ynghylch capasiti arolygiaethau awdurdodau lleol, ac a oes yna unrhyw hyfforddiant a chymorth y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi? Er enghraifft, rwyf wedi cynnal trafodaeth ag un elusen lles anifeiliaid ynghylch creu arolygiaeth lles anifeiliaid ganolog. Felly, hoffwn glywed eich chi barn chi am hynny ac a ydych chi'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol.
Yn ogystal â hynny, hoffwn drafod rhai syniadau newydd hefyd. Er enghraifft, bu llawer o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar i Syrcas Roncalli, sef syrcas o'r Almaen sy'n defnyddio hologramau o anifeiliaid gwyllt yn rhan o'u sioe nhw. Mae hyn yn eu galluogi nhw i efelychu perfformiadau syrcas draddodiadol, ond golygfeydd mwy ffantasïol hefyd, a gwneud hynny ar gost sy'n llai o lawer na'r hyn sy'n gysylltiedig â chludo anifeiliaid byw. Nawr, hyd y gwn i, ni ddaethpwyd â hyn i'r DU eto, felly a fyddech chi'n croesawu defnyddio technoleg o'r fath, sy'n rhydd o unrhyw greulondeb, yma yng Nghymru?
Ac yn olaf, mae'n ymddangos i mi y gallai'r cyhoeddusrwydd ynghylch cyflwyno'r Ddeddf hon fod yn gyfle da i Lywodraeth Cymru hyrwyddo'r nifer fawr o atyniadau twristaidd rhagorol sy'n seiliedig ar anifeiliaid yma yng Nghymru. Un enghraifft o hyn yw Fferm Folly lle gall pobl edrych ar anifeiliaid mewn cynefin lled naturiol yng nghyd-destun gwaith cadwraeth. Felly, byddai'n dda gennyf i gael gwybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael neu y byddech chi'n ystyried eu cael gyda'ch cydweithwyr yn y Llywodraeth ynglŷn â hynny, ac wrth gwrs fe allai hynny roi hwb economaidd i Gymru, yn enwedig wrth i wyliau haf yr ysgolion agosáu.
Diolch, Vikki Howells. O ran yr effaith ar awdurdodau lleol, wrth gwrs, cafwyd sgyrsiau gydag awdurdodau lleol. Pe byddai'r Bil yn dod yn gyfraith, caiff ei orfodi gan arolygwyr yr awdurdodau lleol, ac yn sicr roedden nhw'n rhan o'r ymgynghoriad a gawsom ni. Ni fydd yna fawr o effaith ar awdurdodau lleol. Credaf na fydd torri rheolau'n digwydd yn aml iawn, os o gwbl, ac rwy'n disgwyl i syrcasau teithiol gydymffurfio â'r gwaharddiad, oherwydd bydd yn amlwg iawn os na wnânt hynny. Yn sicr, os bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn Lloegr, ni fydd unman ar gael ym Mhrydain Fawr lle caiff anifeiliaid gwyllt eu defnyddio mewn syrcasau teithiol. Felly, yn sicr, ni fyddai unrhyw gost ychwanegol yn ôl y trafodaethau a gafodd fy swyddogion i ag awdurdodau lleol, er enghraifft, ac fe fyddai hyn yn digwydd ar yr un pryd â'r gweithgareddau gorfodi presennol, sydd eisoes yn cael eu cynnal o ran y ddwy syrcas, un ohonyn nhw y gwnaethoch chi ei henwi. O ran yr hologramau, nid yw hwnnw'n rhywbeth yr wyf i wedi ei ystyried. Mae'n debyg ei bod yn dibynnu ar yr hyn y mae'r hologramau yn darlunio'r anifeiliaid yn ei wneud. Byddai gennyf ddiddordeb mawr i edrych ar hynny, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno wrth i'r Bil fynd drwy'r Cynulliad. Rwy'n credu eich bod yn iawn ynglŷn â hyrwyddo atyniadau i dwristiaid. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r atyniadau i dwristiaid—roeddech chi'n cyfeirio at Folly Farm—unwaith eto, yn cael eu rheoleiddio, bu deddfu ar eu cyfer, ac fe ddylem ni annog pobl i fynd i weld anifeiliaid o fewn pellter agos iawn.
Dwi hefyd yn croesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog ac yn croesawu'r Bil. Mae hi'n bechod ei fod o wedi cymryd cymaint o amser i'r Llywodraeth ei weithredu. Mae'n flwyddyn gyfan ers i'r cyn Brif Weinidog ddatgan y byddai'r Llywodraeth yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasys sy'n teithio. Ond gwell hwyr na hwyrach. Dwi'n falch bod Cymru, o'r diwedd, yn dal i fyny efo'r Alban a Lloegr. Mae nifer o'r cwestiynau a oedd gen i wedi cael eu gofyn a'u hateb, ond fe wna i jest gloi drwy ddweud hyn: ni fyddai newid gwleidyddol fel hyn yn bosib heb ymgyrchwyr brwd, ac un ymgyrchydd sydd wedi bod yn allweddol yn hyn i gyd ydy Linda Joyce-Jones o Nantlle ger Caernarfon yn fy etholaeth i. Mae hi wedi bod yn ymgyrchu am y newid yn y ddeddfwriaeth ers blynyddoedd. Mi wnaeth hi gyflwyno deiseb i'r Cynulliad nôl yn Chwefror 2017 yn galw am waharddiad, ac mae hi wedi ein lobïo ni gyd, dwi'n meddwl. Pawb ohonom ni fan hyn, rydym ni wedi cyfarfod Linda ar ryw bwynt neu'i gilydd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddi hi am ei gwaith a hefyd i'r ymgyrchwyr eraill sydd wedi gweithio mor galed am hyn? Mae'r ffaith bod yna 6,500 o ymatebion a'r mwyafrif mawr o blaid y ddeddfwriaeth yn dweud cyfrolau, dwi'n meddwl. Mae o'n arwydd clir o'r newid agwedd gyhoeddus, ac mae ymgyrchwyr fel Linda wedi llwyddo'n rhyfeddol i newid y farn honno. Mae angen inni eu llongyfarch a dwi'n gobeithio y gwnewch chi ymuno efo fi.
Diolch, Siân Gwenllian. Rwy'n ymuno â chi i ddiolch i Linda Joyce-Jones a'r 6,500 o bobl eraill a wnaeth ymateb i'n hymgynghoriad ni. Rwy'n credu bod hynny'n dangos bod Cymru yn wlad sy'n hoff iawn o anifeiliaid. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn y tymor Llywodraeth hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi ac aelodau eraill wrth i'r Bil fynd rhagddo.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am roi copi ymlaen llaw inni o'r Bil a'r memorandwm esboniadol. Mae'n hen bryd inni roi diwedd ar gamddefnyddio anifeiliaid gwyllt i blesio'r cyhoedd sy'n gwylio, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno deddfwriaeth i wneud hynny o ran syrcasau teithiol. Bydd Cymru cyn bo hir yn ymuno â'r rhestr gynyddol o wledydd sy'n gwahardd perfformiadau sy'n gorfodi anifeiliaid gwyllt i wneud campau ar gyfer adloniant. Yn wahanol i un o'r ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog nesaf arnom, Jeremy Hunt, sy'n dymuno cymryd amser oddi wrth negodi ein hymadawiad taclus â'r UE er mwyn codi'r gwaharddiad ar hela llwynogod, rwyf innau, fel un sy'n casáu cam-fanteisio ar anifeiliaid a chreulondeb, yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon.
Fodd bynnag, rwy'n holi pam nad yw hyn wedi mynd un cam ymhellach, Gweinidog. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, ac, fel y cyfryw, nid yw'n cynnwys rhai arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Fe ddywedaf i 'rai' oherwydd mae'n amlwg nad yw triniaeth rhai o'r anifeiliaid sy'n cael eu symud yn greulon nac yn ddideimlad. Felly, a wnewch chi amlinellu pam rydych chi wedi dewis cadw at syrcasau teithiol, a phryd y gallwn ni ddisgwyl gweld rhai mesurau i ddiogelu anifeiliaid gwyllt mewn rhai arddangosfeydd symudol?
Gweinidog, a ydych chi'n cytuno y dylai lles anifeiliaid fod yn hollbwysig ac y dylid gwahardd cam-fanteisio ar anifeiliaid gwyllt er elw ariannol dan unrhyw amgylchiadau? Os felly, a wnewch chi ymhelaethu ar unrhyw gamau eraill y bydd eich Llywodraeth chi yn eu cymryd i ddiogelu anifeiliaid gwyllt a dof rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant? Yn olaf, Gweinidog, pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â chyfundrefnau trwyddedu mwy cadarn ar gyfer defnyddio anifeiliaid dof mewn sioeau teithiol? Oherwydd mae rhai anifeiliaid dof wedi marw oherwydd gwres enbyd ac ati, wrth deithio. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn mynd rhagddo'n gyflym drwy'r Cynulliad ac at y diwrnod pan na ellir manteisio ar anifeiliaid gwyllt ar dir a daear Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ateb yn gryno iawn sut y bydd y cynllun newydd i drwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid y byddaf yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad, yn sicrhau na fydd unrhyw fylchau, ac y bydd pob anifail yn cael ei ddal—maddeuwch y chwarae ar eiriau—yn hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag Arglwydd Gardiner sef Gweinidog Llywodraeth y DU o ran trwyddedau eraill i syrcasau ac, unwaith eto, mae hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth i sicrhau bod pob anifail yn dod dan ddeddfwriaeth a/neu reoliadau.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â hela llwynogod. Mae'n warthus o beth, ac mae'r Llywodraeth hon yn gwrthwynebu hela llwynogod yn llwyr.
Byddwn yn ymuno â rhestr gynyddol o wledydd, ac fel y dywedais i yn fy natganiad gwreiddiol, pe na fyddem yn cyflwyno'r Bil hwn, Cymru fyddai'r unig wlad ym Mhrydain Fawr i ganiatáu defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac nid oeddwn i'n dymuno i Gymru fod yn hafan i syrcasau teithiol yn y ffordd honno.
Rwy'n croesawu'r Bil, ac rydych chi yn llygad eich lle, ni ddylem fod yr unig wlad i ganiatáu i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau gael eu harddangos fel adloniant i bobl, heb gredu bod hynny'n gyfeiliornus yn ei hanfod. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn dod yn ei flaen. Nid wyf am ofyn yr holl gwestiynau sydd wedi cael eu gofyn yn barod, ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn a ystyrir yn wyllt a'r hyn nad yw'n wyllt, a sut y caiff hynny ei bennu. Yn fy marn i, credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried anifeiliaid gwyllt fel rhai egsotig, ac eto i gyd mae gennym anifeiliaid brodorol sy'n amlwg yn wyllt, ac felly mae gennyf ddiddordeb mewn sut y bydd hynny'n symud yn ei flaen.
O ran y cynllun trwyddedu, byddai'n dda gennyf gael gwybod hefyd sut y bydd hynny'n datblygu. Rydych yn mynd allan, fel y dywedasoch, i ymgynghoriad pellach. Y diben yw canfod yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cynllun trwyddedu hwnnw. Rhoddaf un awgrym i chi: mae bridio'n digwydd ar hyn o bryd ar gyfer allforio anifeiliaid gwyllt, ac mae hynny'n digwydd i adar ysglyfaethus, ac maen nhw'n cael eu hallforio i'r dwyrain pell. Wel, yn hollol amlwg, nid ydyn nhw'n byw yn y dwyrain pell am resymau da iawn: nid oes unrhyw ffynhonnell bwyd yno ar eu cyfer, ac nid yw'r hinsawdd yn iawn iddyn nhw. Felly, yn y lle cyntaf, a ddylem ni fod yn trwyddedu'r broses o fridio anifeiliaid i'w hallforio i fynd ar y fath daith dan orfodaeth, ac yn ail, mewn amodau nad ydynt yn amlwg yn ffafriol i'w llesiant? Felly, hoffwn i ychwanegu hynny at eich cynllun trwyddedu.
Hoffwn gael gwybod pa mor hir y byddai'r trwyddedau hynny'n para ar ôl i bobl eu cael nhw, a pha mor hawdd yw dirymu trwyddedau, pe byddech chi'n canfod bod pobl wedi bod yn euog o greulondeb eisoes. Rwy'n codi hynny oherwydd bod gennym ni rai sefydliadau sy'n bridio cŵn ar hyn o bryd, a chafwyd eu bod nhw'n euog o greulondeb, ac eto mae'r drwydded yn cael ei throsglwyddo i aelod arall o'r teulu os caiff ei dirymu. Ac os ydym yn sôn am drwyddedau a phobl o gymeriad da, dylem hefyd fod yn edrych ar y ddeddfwriaeth sy'n dilyn hynny, a'r cosbedigaethau sy'n dilyn. Ar hyn o bryd, mae'n debyg y gallwch fod mor greulon ag y mynnwch i anifail, ac ni chewch ddim mwy na chwe mis dan ddeddfwriaeth Cymru, ac eto i gyd gallech gael pum mlynedd pe byddem ni'n gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Felly, rwy'n credu, pan fyddwn ni'n edrych ar drwyddedau, fod angen inni edrych ar y cosbedigaethau sy'n dilyn hefyd. Felly, dyna'r pethau yr hoffwn eu hychwanegu, yn dilyn yr holl gwestiynau a ofynnwyd eisoes.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n holi am ystyr neu ddiffiniad o anifail gwyllt. Mae'n debyg i'r dehongliad o anifail gwyllt yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981. Mae hyn yn osgoi'r sefyllfa lle gellid ystyried yr un rhywogaeth yn wyllt mewn sw ond wedyn yn ddof pan gânt eu cadw mewn syrcas. Felly, dyna'r diffiniad cyfreithiol yr ydym ni'n ei ddefnyddio. Ond rydych chi'n llygad eich lle. Yn fy nhrafodaeth ag Andrew R.T. Davies, cofiaf ein bod yn sôn am geirw, na fyddai pobl efallai'n meddwl eu bod yn anifeiliaid gwyllt ar unwaith, ond maen nhw. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn ymwybodol y defnyddir ceirw weithiau—yn amlwg adeg y Nadolig—mewn gwahanol ffyrdd, mewn canolfannau garddio neu mewn gorymdeithiau. Yna byddent yn cael eu cynnwys yn y cynllun trwyddedu arddangos anifeiliaid. Dyna pam ei bod mor bwysig rhoi'r cynllun hwnnw ar waith hefyd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am adar ysglyfaethus. Mae angen inni sicrhau bod yr ymgynghoriad yn sôn am hynny'n benodol.
Rydych yn holi ynghylch pa mor hir y mae trwyddedau'n para. Yn sicr, mae Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sy'n hyfforddi neu'n arddangos anifeiliaid gofrestru gydag awdurdod lleol, ond mae'n gofrestriad oes. Felly, does dim gofyniad arolygu penodol. Fel y cyfryw, mae'n annhebygol y byddai safonau lles anifail yn cael eu hasesu na'u gwirio'n rheolaidd. Felly, dyma'r hyn a olygaf wrth ddweud bod angen inni sicrhau ein bod yn cau'r bylchau. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle ceir man gwan sydd angen ei gywiro. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr ymgynghoriad ar y cynllun. Fel y dywedais yn fy ateb i Llŷr, rwy'n gobeithio ei gyflwyno yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Rwyf wedi sôn o'r blaen am ymweliad syrcas Mondao â'm hetholaeth i ychydig fisoedd yn ôl. Hoffwn ddweud wrth Siân Gwenllian fy mod wedi dod i adnabod Linda Joyce-Jones am y tro cyntaf pan oeddwn yn gynghorydd sir a phan ymwelodd arddangosfa anifeiliaid gwyllt â'm ward cyngor i. Bryd hynny, ysgrifennais at Rebecca Evans, sef y Gweinidog cyfrifol ar y pryd, ac fe gawsom ni rywfaint o drafodaeth am hyn. Felly, mae'n wirioneddol dda gweld y ddeddfwriaeth hon yn cyrraedd y llyfr statud. Syrcas Thomas Chipperfield oedd honno, cyn i mi gael fy ethol yma. Diddymwyd eu trwydded syrcas yn Lloegr am nad oedd DEFRA yn hapus gydag amodau cadw rhai o'u hanifeiliaid, ond roedden nhw'n dal i allu arddangos yn Nhir-y-berth. Felly, bydd hyn yn cau pen y mwdwl ar y mater penodol hwnnw hefyd. Gwyddom fod y syrcasau yn ymweld gan eu bod yn gosod posteri'n anghyfreithlon. Nid ydynt yn cadw at reolau gosod posteri'n anghyfreithlon, felly, tybed i ba raddau maen nhw'n mynd i gadw at y gyfraith hon. Cafwyd dau ymweliad yn etholaeth Caerffili, yn Nhir-y-berth. A allwn ni gael sicrwydd y bydd y Ddeddf hon yn gwneud yn siŵr na fydd trydydd ymweliad?
Diolch. Roeddwn yn ymwybodol fod trwydded y syrcas y soniasoch chi amdani wedi cael ei diddymu. Fel y dywedais, nid oes gennym ni bwerau i drwyddedu syrcasau. Mater i Lywodraeth y DU yw hynny. Yn sicr, fel y crybwyllais yn fy ateb i Llŷr, bydd y Mesur hwn, gobeithio, gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn, yn cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Rwy'n fodlon iawn ystyried ei orfodi'n gynharach nag a ddywedwyd ar 1 Rhagfyr, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud hynny gyda'r gyfundrefn drwyddedu, fel yr eglurais. Ond, rwy'n fodlon iawn ystyried gwneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.