Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch, Llŷr, am eich cefnogaeth chi i'r Bil, ac roeddwn i'n sicr yn croesawu'r sgwrs a gefais i gyda chi ac Andrew R.T. Davies cyn y datganiad hwn heddiw. O ran eich cwestiynau ynglŷn â'r amser y bydd hi'n ei gymryd i'r Bil ddod i rym, rwyf i'n rhagweld, gyda chefnogaeth, y bydd y Bil yn mynd rhagddo i gam lle y gallem ni gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Mai. Fel y dywedais, bydd y Bil yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2020. Erbyn hynny, bydd disgwyl i'r ddwy syrcas sy'n teithio ar hyn o bryd ac yn defnyddio anifeiliaid gwyllt fod wedi cwblhau eu taith ac yna wedi dychwelyd i'w cartref dros y gaeaf. Yn sicr, rwy'n agored iawn i symud y dyddiad hwnnw ymlaen pe bai modd ac rwy'n credu y gellid cael cyfle i wneud hynny pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad i gyflwyno gwaharddiad yn Lloegr erbyn i'w rheoliadau trwyddedu nhw ddod i ben. Oherwydd, yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am drwyddedu syrcasau, nid ni. Os byddan nhw'n gweithredu'r gwaharddiad cyn i'w rheoliadau trwyddedu ddod i ben ym mis Ionawr 2020, credaf y byddai'n bosib inni ddod â'r dyddiad hwnnw ymlaen. Felly, unwaith eto, unrhyw benderfyniad i wneud hynny, rwy'n hapus iawn i'w ystyried.
O ran eich cwestiwn ynghylch bylchau, yn sicr, os meddyliwch chi am y peth, ceir llawer iawn mwy o anifeiliaid yn cael eu defnyddio mewn arddangosfeydd o anifeiliaid nag, yn amlwg, mewn syrcasau. Felly, dyna pam mae'r cynllun arddangosfeydd o anifeiliaid mor bwysig, ac fe soniais i yn fy ateb i Andrew R.T. Davies y byddaf i'n ymgynghori cyn diwedd toriad yr haf ac yn sicr byddwn i'n hoffi gweld y cynllun hwnnw'n cael ei roi ar waith, fe ddywedwn i, mor gynnar yn 2020 ag sy'n bosib.
O ran, 'Pam mae'r drosedd hon yn berthnasol i anifeiliaid gwyllt yn unig ac nid i bob anifail?'—ac rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb sydd wedi cael ei chychwyn yn ddiweddar—nid oes yr un gwrthwynebiad sylfaenol, moesegol i ddefnyddio anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol neu mewn lleoliadau tebyg. Mae'r ddadl foesegol dros waharddiad yn achos anifeiliaid gwyllt, rwy'n credu, yn gryf iawn; rwy'n credu bod y ddadl dros waharddiad yn achos anifeiliaid dof yn fwy amwys. Ac os meddyliwch chi am y peth, mae yna lawer o weithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid dof yn teithio at ddibenion cynnal perfformiadau neu arddangosfeydd heb fawr o fanteision ehangach amlwg, sy'n cael eu hystyried yn gwbl dderbyniol gan y gymdeithas yn gyffredinol. Yr esiampl sy'n cael ei rhoi i mi bob tro—ac rwy'n credu inni drafod hyn—yw neidio ceffylau, a chredaf y byddai'n anodd iawn dadlau na ddylid eu defnyddio nhw i wneud gweithgaredd tebyg mewn syrcas deithiol.
Gofynnodd rhywun imi beth a fyddai'n digwydd yn achos syrcas sydd heb fod yn deithiol. Hyd y gwn i, roedd yna un syrcas fel hyn yn y DU, ac nid wyf i'n siŵr ei bod hi yno o hyd, ond unwaith eto, mae'n ymwneud â sicrhau nad oes yna unrhyw fylchau mewn unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, yn sicr, y cyngor cyfreithiol a roddwyd i mi oedd y byddai'n rhaid i honno wedyn gael trwydded sw yn ôl pob tebyg, er enghraifft, ond ceir deddfwriaeth i ymdrin â phethau o'r fath.
Roeddech chi'n fy holi i am y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, o ran y rhai a oedd yn dod o Gymru, ac yn sicr, byddwn i'n hapus iawn pe bai modd darparu'r wybodaeth honno. Serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud mai rhywbeth tebyg i 97 y cant o'r ymatebwyr oedd yn awyddus i weld y Bil hwn yn cael ei gyflwyno, felly nid wyf yn credu y byddai angen ichi wybod faint o bwys a roddir ar hyn yn yr un ffordd ag a fyddai'n angenrheidiol mewn deddfwriaeth arall.