Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Dwi hefyd yn croesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog ac yn croesawu'r Bil. Mae hi'n bechod ei fod o wedi cymryd cymaint o amser i'r Llywodraeth ei weithredu. Mae'n flwyddyn gyfan ers i'r cyn Brif Weinidog ddatgan y byddai'r Llywodraeth yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasys sy'n teithio. Ond gwell hwyr na hwyrach. Dwi'n falch bod Cymru, o'r diwedd, yn dal i fyny efo'r Alban a Lloegr. Mae nifer o'r cwestiynau a oedd gen i wedi cael eu gofyn a'u hateb, ond fe wna i jest gloi drwy ddweud hyn: ni fyddai newid gwleidyddol fel hyn yn bosib heb ymgyrchwyr brwd, ac un ymgyrchydd sydd wedi bod yn allweddol yn hyn i gyd ydy Linda Joyce-Jones o Nantlle ger Caernarfon yn fy etholaeth i. Mae hi wedi bod yn ymgyrchu am y newid yn y ddeddfwriaeth ers blynyddoedd. Mi wnaeth hi gyflwyno deiseb i'r Cynulliad nôl yn Chwefror 2017 yn galw am waharddiad, ac mae hi wedi ein lobïo ni gyd, dwi'n meddwl. Pawb ohonom ni fan hyn, rydym ni wedi cyfarfod Linda ar ryw bwynt neu'i gilydd. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddi hi am ei gwaith a hefyd i'r ymgyrchwyr eraill sydd wedi gweithio mor galed am hyn? Mae'r ffaith bod yna 6,500 o ymatebion a'r mwyafrif mawr o blaid y ddeddfwriaeth yn dweud cyfrolau, dwi'n meddwl. Mae o'n arwydd clir o'r newid agwedd gyhoeddus, ac mae ymgyrchwyr fel Linda wedi llwyddo'n rhyfeddol i newid y farn honno. Mae angen inni eu llongyfarch a dwi'n gobeithio y gwnewch chi ymuno efo fi.