Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am roi copi ymlaen llaw inni o'r Bil a'r memorandwm esboniadol. Mae'n hen bryd inni roi diwedd ar gamddefnyddio anifeiliaid gwyllt i blesio'r cyhoedd sy'n gwylio, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno deddfwriaeth i wneud hynny o ran syrcasau teithiol. Bydd Cymru cyn bo hir yn ymuno â'r rhestr gynyddol o wledydd sy'n gwahardd perfformiadau sy'n gorfodi anifeiliaid gwyllt i wneud campau ar gyfer adloniant. Yn wahanol i un o'r ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog nesaf arnom, Jeremy Hunt, sy'n dymuno cymryd amser oddi wrth negodi ein hymadawiad taclus â'r UE er mwyn codi'r gwaharddiad ar hela llwynogod, rwyf innau, fel un sy'n casáu cam-fanteisio ar anifeiliaid a chreulondeb, yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon.
Fodd bynnag, rwy'n holi pam nad yw hyn wedi mynd un cam ymhellach, Gweinidog. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, ac, fel y cyfryw, nid yw'n cynnwys rhai arddangosfeydd symudol o anifeiliaid. Fe ddywedaf i 'rai' oherwydd mae'n amlwg nad yw triniaeth rhai o'r anifeiliaid sy'n cael eu symud yn greulon nac yn ddideimlad. Felly, a wnewch chi amlinellu pam rydych chi wedi dewis cadw at syrcasau teithiol, a phryd y gallwn ni ddisgwyl gweld rhai mesurau i ddiogelu anifeiliaid gwyllt mewn rhai arddangosfeydd symudol?
Gweinidog, a ydych chi'n cytuno y dylai lles anifeiliaid fod yn hollbwysig ac y dylid gwahardd cam-fanteisio ar anifeiliaid gwyllt er elw ariannol dan unrhyw amgylchiadau? Os felly, a wnewch chi ymhelaethu ar unrhyw gamau eraill y bydd eich Llywodraeth chi yn eu cymryd i ddiogelu anifeiliaid gwyllt a dof rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant? Yn olaf, Gweinidog, pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â chyfundrefnau trwyddedu mwy cadarn ar gyfer defnyddio anifeiliaid dof mewn sioeau teithiol? Oherwydd mae rhai anifeiliaid dof wedi marw oherwydd gwres enbyd ac ati, wrth deithio. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y Bil yn mynd rhagddo'n gyflym drwy'r Cynulliad ac at y diwrnod pan na ellir manteisio ar anifeiliaid gwyllt ar dir a daear Cymru. Diolch yn fawr.