Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch ichi am y cyfraniad yna. Gan ddechrau gyda'r targed ar gyfer tai fforddiadwy, hoffwn sicrhau'r Aelod y byddwn yn cyrraedd y targed o 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor y Cynulliad hwn. Mae a wnelo hyn, fodd bynnag, â dweud nad yw hynny'n ddigon a bod angen i ni adeiladu llawer iawn mwy, os oes modd, a sicrhau ein bod yn dechrau adeiladu ar raddfa fwy ac ar garlam. Nid oedd yn bosibl gwneud hyn pan oeddem yn gosod y targed hwnnw, oherwydd roedd y cap tai ar gyfer cyfrifon refeniw tai yn dal i fodoli mewn awdurdodau lleol. Rwy'n mynd i ddewis fy ngeiriau'n ofalus, Dirprwy Lywydd: rwy'n credu fy mod wedi cael y fraint—rwy'n credu fy mod yn mynd i ddefnyddio'r gair hwnnw—o edrych ar y canllawiau drafft ar gyfer y cyfrif refeniw tai yn ddiweddar iawn. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n gelfyddyd gyfrin, y cyfrif refeniw tai, ac felly roedd y canllawiau—rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud eu bod yn fanwl. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gael adborth gan drysoryddion ledled Cymru ynghylch sut y maen nhw'n ymateb i'n canllawiau newydd. Mae'r canllawiau newydd wedi'u cynllunio i fanteisio i'r eithaf ar hyblygrwydd mewn cyfrifon refeniw tai i alluogi awdurdodau lleol yn benodol i gyflymu'r broses o adeiladu tai cyngor newydd wrth iddyn nhw ryddhau arian er mwyn gwneud hynny. Ac atebais mewn ymateb i Dawn Bowden ynghylch y mater yn ymwneud â chyflwyno tir y sector cyhoeddus er mwyn gallu gwneud hynny hefyd.
O ran yr angen a'r galw am dai, rwy'n derbyn argymhelliad y panel annibynnol o ran yr angen am dai. Maen nhw'n gywir i nodi bod llawer mwy o gysondeb ar lefel leol, ac y gall yr wybodaeth fod yn fwy manwl ac wedi ei chysylltu'n well â'r broses gynllunio yn hynny o beth. Rydym ni hefyd yn derbyn ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu'r wybodaeth gan awdurdodau a dadansoddi'r ymatebion ein hunain. Nid wyf eisiau cyflwyno'r newidiadau hynny'n gyflym, fodd bynnag, oherwydd ei bod hi'n bosib ansefydlogi'r system os gwnawn ni hynny. Rydym ni eisiau cymryd amser mewn partneriaeth i edrych yn union ar sut y dylid rhoi'r newidiadau hynny ar waith, er fy mod yn dweud yn glir iawn ein bod ni'n newid y system; y cyfan yr ydym ni eisiau ei wneud yw edrych ar hyn gyda'n partneriaid i ganfod beth yn union fydd ffurf y system wedyn. Ac, fel y dywedais mewn ymateb i Leanne Wood, mae'n bwysig cael camau cyfan y cynllun yn eu lle ar lefel genedlaethol, strategol a lleol wrth i ni weithio drwy'r newidiadau i wneud hynny. Ond rwy'n glir iawn bod angen i ni gael y newidiadau hynny.
O ran symud i gartref llai o faint, rwy'n credu ei bod yn hollol gywir nad ydym yn adeiladu digon o unedau o faint ystafell wely sengl neu un ystafell wely a hanner. Ond nid wyf eisiau i bobl gael eu twyllo gan y syniad ein bod ni'n credu y dylai pob teulu symud o'u cartref. Mae gan bobl wyrion ac wyresau ac maen nhw'n dymuno dod at ei gilydd fel teulu ac ati. Nid yw hi wastad yn ddelfrydol symud o dŷ mawr. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau bod pobl yn byw mewn tŷ sy'n addas iddyn nhw ac nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi i symud o unrhyw gartref teuluol os nad ydyn nhw'n dymuno hynny. Ac nid wyf yn credu bod y dreth ystafell wely wedi bod yn ddim byd heblaw modd gwarthus sy'n, wel, yn fwrn ar bobl. Felly, nid wyf eisiau bod yn gysylltiedig ag unrhyw beth sy'n ymdebygu mewn unrhyw ffordd i hynny. Fodd bynnag, derbyniaf, rwy'n credu, y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud sef bod angen inni adeiladu mwy o unedau llai ar gyfer pobl sydd eisiau symud i gartref llai o faint, ac rydym yn sicr yn edrych ar y cyfuniad o unedau yn hynny o beth.
O ran y pwyntiau am ddatgarboneiddio a wnaeth hi, nid wyf am ymateb. Mae'r demtasiwn i ymateb yn llethol, ond rwy'n mynd i'w wrthsefyll, oherwydd byddaf yn disgwyl i'r adroddiad ar ddatgarboneiddio gael ei gyflwyno. Mae'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau nesaf, felly edrychaf ymlaen at ymateb i hwnnw maes o law.