Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Croesawn yr adolygiad annibynnol hefyd. Mae prinder tai fforddiadwy o safon yn arwain at deuluoedd yn byw mewn cartrefi gorlawn neu mewn llety gwely a brecwast, ac unigolion mewn hosteli neu ar y stryd. Rwyf wedi gweld pobl yn cael eu carcharu am grwydradaeth yn dweud wrthyf nad oedden nhw’n edrych ymlaen at gael eu rhyddhau oherwydd eu bod yn cael gwely a phrydau poeth. Gall teuluoedd, fel y gwyddom, aros sawl blwyddyn am lety addas, a dyna pam y mae cyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn mor bwysig. Yn anffodus, mae llai na hanner y tai fforddiadwy angenrheidiol wedi'u hadeiladu. Yn 2017-18, gwelwyd gostyngiad o 9 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Gobeithio y bydd argymhellion yr adolygiad annibynnol yn helpu i fynd i'r afael â'r diffygion ac yn helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Gweinidog, rwy'n falch bod eich Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adolygiad. Nid yw'r cyflenwad wedi bodloni'r galw, a chroesawaf argymhellion yr adolygiad sy'n ymwneud ag asesiadau o'r farchnad dai leol. Gweinidog, a wnewch chi ymhelaethu ar eich rhesymau dros newid yr argymhelliad i gynnal adolygiad bob dwy flynedd i un bob tair blynedd? Siawns nad ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hollbwysig cael gwybodaeth gywir a chyfredol yn y maes hwn.
Rwy'n ddiolchgar eich bod yn derbyn bod angen mwy o fanylder o ran y broses asesiadau o’r farchnad dai lleol. Gweinidog, pa ran ydych chi'n rhagweld fydd gan fyrddau iechyd lleol ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol wrth gasglu gwybodaeth am ofynion tai ar gyfer y rhai sydd ag anableddau, y rhai y mae angen rhyw lefel o ofal arnyn nhw a'r rhai sy'n bwriadu symud i gartref llai o faint ac efallai dod yn rhan o drefniant tai gwarchod? Mae llawer o achosion lle mae pobl hŷn wedi'u dal mewn tai tair a phedair ystafell wely, cartrefi a fyddai'n addas i deulu ifanc, ac eto ni allan nhw symud i gartref llai o faint gan nad adeiladwyd hanner digon o eiddo sy'n addas i bobl hŷn. Mae'n hawdd adeiladu cartrefi modiwlaidd.
Yn olaf, Gweinidog, er fy mod yn croesawu'r pwyslais sy'n cael ei roi ar leihau ôl troed carbon cartrefi newydd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw ganllawiau newydd ar adeiladu yn ystyried ein hinsawdd newidiol. Rydych yn sôn am systemau gwresogi carbon isel, ond beth am oeri carbon isel? Sut bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw adeiladau newydd a phresennol yn cael eu hinswleiddio mor drwm fel eu bod yn gorboethi yn ystod misoedd yr haf, gyda'r tebygolrwydd cynyddol o dymereddau uchel?
Croesawaf y cam cyntaf hwn i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai ac edrychaf ymlaen at fesurau pellach i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru—tai fforddiadwy y mae arnom eu hangen yn ddifrifol. Ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni'r nod hwn o ddarparu digon o dai fforddiadwy i bobl Cymru. Diolch yn fawr.