Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf. Dyma'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr.
Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf cul ei chwmpas, ac nid yw eleni'n eithriad. Mae'n cysoni nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn trosglwyddo rhwng portffolios. Mae'n cynnwys addasiadau i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae'n adlewyrchu newidiadau mewn rhagolygon gwariant a reolir yn flynyddol yn unol â'r manylion diweddaraf a roddwyd i Drysorlys ei Mawrhydi. Er hynny, mae'n cynrychioli rhan bwysig o'r gyllideb a'r broses graffu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth o'r gyllideb hon a byddaf yn ymateb i'r Cadeirydd ar adroddiad y Pwyllgor maes o law.
Mae cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn yn datblygu'r cynlluniau a nodwyd yn y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Fodd bynnag, mae cyllidebau atodol yn canolbwyntio mwy ar y pwysau a'r cyfleoedd sy'n codi yn ystod y flwyddyn. Ni fydd pob un wedi codi o ganlyniad i amcanion strategol Llywodraeth Cymru, ond gallant fod yn bethau sy'n gofyn am ymyriadau sy'n effeithio ar y gyllideb. Yn wir, mae'r dyraniad mwyaf o bell ffordd a wnaed yn y gyllideb atodol o £241 miliwn yn ymwneud â chwrdd â chostau ychwanegol cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Ymddangosodd y costau o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU a roddodd bwysau ariannol ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau eisoes o fis Ebrill 2019. Ar 7 Mawrth, cyhoeddais y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i sefydliadau yn y sector cyhoeddus y byddai'r newid yn effeithio arnynt. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd lefel y cyllid y bydd yn ei ddarparu yn llai na'r costau y bydd yn rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru eu talu. Rwyf wedi ysgrifennu ynghyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi ein pryderon dwys nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gosod ar eu cyfer eu hunain. Mae hyn yn annerbyniol ac mae'n tanseilio'r datganiad o bolisi ariannu a'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid yn y DU.
Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau cyfalaf o £85 miliwn i roi hyder a sicrwydd i fusnesau yng Nghymru ar adeg pan fo'r ddau yn brin o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i roi terfyn ar ansicrwydd ynghylch Brexit. Mae'n ariannu ystod o brosiectau y gellir eu darparu'n gyflym yn ystod y flwyddyn, gan ddarparu manteision economaidd sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau, a gall ysgogi galw economaidd ehangach ar adeg pan fo'i angen fwyaf. Caiff 50 miliwn o bunnau eu buddsoddi mewn rhaglenni tai cymdeithasol llywodraeth leol, gan ddarparu hyd at 650 o gartrefi ledled Cymru a gwneud cyfraniad sylweddol at ein blaenoriaeth allweddol o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da ledled Cymru. Dyrennir 20 miliwn o bunnau i gefnogi awdurdodau lleol, a byddwn yn cydweithio'n agos â nhw i drafod y defnydd gorau o arian i roi hwb economaidd i'r ardaloedd lleol. Bydd y £15 miliwn sy'n weddill yn cefnogi'r cynllun gweithredu economaidd drwy gronfa dyfodol yr economi a'r cyllid ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth.
Mae £11.4 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer 2019-20 o gronfa bontio'r UE. Trwy'r gronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ymyriadau sy'n ychwanegu gwerth ac sy'n ychwanegol at rwymedigaethau Llywodraeth y DU, yn unol â'n blaenoriaethau a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a bydd yn ein helpu i ganfod atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i helpu busnesau, sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector i baratoi ar gyfer Brexit.
O ganlyniad i'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon, mae'r gronfa refeniw wrth gefn yn £178 miliwn, gyda chronfeydd cyfalaf wrth gefn yn £100 miliwn ar gyfer cyfalaf cyffredinol a £191 miliwn ar gyfer cyfalaf trafodion ariannol. Dros y misoedd nesaf, byddaf, wrth gwrs, yn monitro ein sefyllfa ariannol yn ofalus ac yn parhau i archwilio, gyda chydweithwyr, yr achos dros ddyraniadau yn ystod y flwyddyn o'r cronfeydd wrth gefn. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb, lle bo angen, i bwysau pellach posibl ar y gyllideb a rheoli'r arian sy'n cael ei gario ymlaen drwy gronfa wrth gefn Cymru. Caiff unrhyw ddyraniadau pellach o'r cronfeydd wrth gefn eleni eu nodi yn yr ail gyllideb atodol.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am graffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi.