9. Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020

– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:51, 9 Gorffennaf 2019

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2019-20. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM7096 Rebecca Evans

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 18 Mehefin 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:51, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf. Dyma'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr.

Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf cul ei chwmpas, ac nid yw eleni'n eithriad. Mae'n cysoni nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn trosglwyddo rhwng portffolios. Mae'n cynnwys addasiadau i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae'n adlewyrchu newidiadau mewn rhagolygon gwariant a reolir yn flynyddol yn unol â'r manylion diweddaraf a roddwyd i Drysorlys ei Mawrhydi. Er hynny, mae'n cynrychioli rhan bwysig o'r gyllideb a'r broses graffu. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth o'r gyllideb hon a byddaf yn ymateb i'r Cadeirydd ar adroddiad y Pwyllgor maes o law.

Mae cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn yn datblygu'r cynlluniau a nodwyd yn y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Fodd bynnag, mae cyllidebau atodol yn canolbwyntio mwy ar y pwysau a'r cyfleoedd sy'n codi yn ystod y flwyddyn. Ni fydd pob un wedi codi o ganlyniad i amcanion strategol Llywodraeth Cymru, ond gallant fod yn bethau sy'n gofyn am ymyriadau sy'n effeithio ar y gyllideb. Yn wir, mae'r dyraniad mwyaf o bell ffordd a wnaed yn y gyllideb atodol o £241 miliwn yn ymwneud â chwrdd â chostau ychwanegol cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Ymddangosodd y costau o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU a roddodd bwysau ariannol ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau eisoes o fis Ebrill 2019. Ar 7 Mawrth, cyhoeddais y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i sefydliadau yn y sector cyhoeddus y byddai'r newid yn effeithio arnynt. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd lefel y cyllid y bydd yn ei ddarparu yn llai na'r costau y bydd yn rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru eu talu. Rwyf wedi ysgrifennu ynghyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi ein pryderon dwys nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gosod ar eu cyfer eu hunain. Mae hyn yn annerbyniol ac mae'n tanseilio'r datganiad o bolisi ariannu a'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid yn y DU.

Mae'r gyllideb hon yn cynnwys dyraniadau cyfalaf o £85 miliwn i roi hyder a sicrwydd i fusnesau yng Nghymru ar adeg pan fo'r ddau yn brin o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i roi terfyn ar ansicrwydd ynghylch Brexit. Mae'n ariannu ystod o brosiectau y gellir eu darparu'n gyflym yn ystod y flwyddyn, gan ddarparu manteision economaidd sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau, a gall ysgogi galw economaidd ehangach ar adeg pan fo'i angen fwyaf. Caiff 50 miliwn o bunnau eu buddsoddi mewn rhaglenni tai cymdeithasol llywodraeth leol, gan ddarparu hyd at 650 o gartrefi ledled Cymru a gwneud cyfraniad sylweddol at ein blaenoriaeth allweddol o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da ledled Cymru. Dyrennir 20 miliwn o bunnau i gefnogi awdurdodau lleol, a byddwn yn cydweithio'n agos â nhw i drafod y defnydd gorau o arian i roi hwb economaidd i'r ardaloedd lleol. Bydd y £15 miliwn sy'n weddill yn cefnogi'r cynllun gweithredu economaidd drwy gronfa dyfodol yr economi a'r cyllid ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth.

Mae £11.4 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer 2019-20 o gronfa bontio'r UE. Trwy'r gronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ymyriadau sy'n ychwanegu gwerth ac sy'n ychwanegol at rwymedigaethau Llywodraeth y DU, yn unol â'n blaenoriaethau a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a bydd yn ein helpu i ganfod atebion Cymreig i broblemau Cymreig. Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i helpu busnesau, sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector i baratoi ar gyfer Brexit.

O ganlyniad i'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon, mae'r gronfa refeniw wrth gefn yn £178 miliwn, gyda chronfeydd cyfalaf wrth gefn yn £100 miliwn ar gyfer cyfalaf cyffredinol a £191 miliwn ar gyfer cyfalaf trafodion ariannol. Dros y misoedd nesaf, byddaf, wrth gwrs, yn monitro ein sefyllfa ariannol yn ofalus ac yn parhau i archwilio, gyda chydweithwyr, yr achos dros ddyraniadau yn ystod y flwyddyn o'r cronfeydd wrth gefn. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb, lle bo angen, i bwysau pellach posibl ar y gyllideb a rheoli'r arian sy'n cael ei gario ymlaen drwy gronfa wrth gefn Cymru. Caiff unrhyw ddyraniadau pellach o'r cronfeydd wrth gefn eleni eu nodi yn yr ail gyllideb atodol.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am graffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi.  

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:56, 9 Gorffennaf 2019

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyfrannu—Llyr Gruffydd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i siarad yn y ddadl yma, wrth gwrs, ar ran y Pwyllgor Cyllid, ac mi gafodd y pwyllgor gyfle i gyfarfod ar 27 Mehefin i drafod cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni, 2019-20. Roedden ni'n falch iawn o allu cynnal y sesiwn honno, wrth gwrs, yn Aberystwyth, a hefyd yn falch o ddweud bod y Gweinidog wedi dod atom ni i'r cyfarfod hwnnw, a dwi'n diolch iddi hi am ddod i gynnal y sesiwn gyda ni yn Aberystwyth.

Nawr, y prif bryder i ni fel pwyllgor am y gyllideb atodol yma yw gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, fel rŷn ni wedi ei glywed, benderfyniad mewn perthynas â phensiynau sector cyhoeddus, ond dydyn nhw ddim yn ariannu'r penderfyniad hwn yn llawn yng Nghymru. Mae'r datganiad polisi ariannu yn nodi, lle mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at gostau ychwanegol, lle nad oes trefniadau eraill yn bodoli i addasu ar gyfer costau ychwanegol o'r fath, yna mi gaiff y costau ychwanegol hynny eu talu gan y Llywodraeth honno.

Roedd hi'n amlwg i'r pwyllgor nad yw'r datganiad polisi ariannu wedi cael ei weithredu'n gywir yn yr achos hwn, ac fel pwyllgor byddwn ni hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynegi ein pryderon difrifol ni ynghylch y mater yma. Mae Llywodraeth Cymru, fel rŷn ni wedi ei glywed, wrth gwrs, wedi cytuno i wneud yn iawn am y diffyg cyllid ar gyfer cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru eleni, ond mae'r pwyllgor, fel y gallwch chi ddychmygu, yn gofidio am y ffaith nad oes cadarnhad y bydd cyllid yn y dyfodol, ac mae angen sicrwydd felly gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn ar fyrder.

Rhywbeth arall a oedd yn peri pryder i ni fel pwyllgor yw'r cyllid yn ymwneud â ffordd liniaru'r M4. Fe gadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r Llywodraeth yn benthyca i gynyddu capasiti gwario, ond, gan na fydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn ei blaen, doedd y Gweinidog ddim yn gallu cadarnhau at beth y byddai'r arian a godwyd drwy fenthyca yn cael ei ddefnyddio. Mae Aelodau am ddeall pa brojectau fydd yn cael eu hariannu a allai olygu y bydd angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chapasiti gwario. Doedd hi chwaith ddim yn glir yn y dystiolaeth sut y byddai comisiwn yr M4 yn mynd rhagddo. Mae'r Llywodraeth wedi dweud wrthym ni mai comisiwn yr M4 fydd yn cael y 'cynnig cyntaf' ar gyllid a oedd i fod ar gael ar gyfer project y llwybr du, ond eto fe gawson ni ar ddeall bod yr £20 miliwn a gafodd ei ddyrannu ar gyfer ffordd liniaru bosib yr M4 bellach mewn cronfeydd wrth gefn. 

Does dim manylion yn y gyllideb atodol hon am sut y bydd y camau nesaf ynghylch yr M4 yn symud ymlaen. Mae'r pwyllgor wedi gofyn felly am fanylion am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddarparu ar gyfer comisiwn yr M4, ac am ragor o fanylion am y blaenoriaethau cyllido yn rhaglen gyfalaf 2019-20 y Llywodraeth yng ngoleuni, wrth gwrs, y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â phroject yr M4, yn enwedig o ran sut mae hyn wedi effeithio ar ei strategaeth fenthyca.

Nawr, yn y Siambr hon ar 29 Ebrill, fe ddatganodd y Llywodraeth argyfwng hinsawdd. Eto, er gwaethaf y datganiad hwnnw, dydy'r gyllideb hon ddim yn nodi unrhyw newid ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth. Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth o sut mae'r datganiad o argyfwng wedi dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Rŷn ni wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y Llywodraeth am sut y bydd cyllidebau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd hwnnw.

Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon yn cael ei chyflwyno, wrth gwrs, yng nghyd-destun y ffaith nad oes cytundeb Brexit sydd wedi cael ei dderbyn. Ar y diwrnod y cafodd y gyllideb atodol ei gosod, fe gyhoeddodd y Gweinidog becyn buddsoddi cyfalaf gwerth cyfanswm o £85 miliwn, ac fe'i cyflwynwyd, wrth gwrs, yng nghyd-destun Brexit. Er ein bod ni’n croesawu'r buddsoddiad hwn, wrth gwrs, dyw hi ddim yn glir i ni sut mae'r arian hwn yn bodloni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran ei strategaeth Brexit, ac rydyn ni wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol am hyn. Mae'r pecyn ariannu hwn, er enghraifft, yn dyrannu £20 miliwn i awdurdodau lleol, ond dyw hi ddim yn glir sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid hwn, ac mi fyddem ni'n croesawu eglurder yn hyn o beth, fel y byddem ni'n ei groesawu e ar y materion eraill dwi wedi'u codi. Diolch.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 6:00, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf hefyd yn falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar y gyllideb atodol gyntaf, a minnau'n Weinidog Cyllid yr wrthblaid ar yr ochr hon i'r Siambr a hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog na fyddwn ni, yn ôl traddodiad y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r gyllideb atodol hon. Ar y sail na wnaethom ni gefnogi'r gyllideb wreiddiol y mae'n atodol iddi, byddwn yn ymatal.

Nawr, fel y dywedodd y Gweinidog, mae nifer o newidiadau a throsglwyddiadau technegol ac ati yn y gyllideb hon, sydd i'w disgwyl. Wedi dweud hynny, mae rhai materion sy'n peri pryder ynglŷn â'r gyllideb hon, ac mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi cyfeirio at lawer ohonyn nhw. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, roedd y pwyllgor yn arbennig o bryderus ynglŷn â'r diffyg eglurder ynghylch y gyllideb, yn enwedig o ran yr uchelgeisiau a'r cyllid ar gyfer comisiwn yr M4. Gwyddom fod yr £20 miliwn hwnnw a ddyrannwyd i lwybr du'r M4 bellach wedi'i drosglwyddo'n ôl, neu wedi'i drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn. Ond nid yw hi'n glir sut yn union y bydd y comisiwn yn cael y dewis cyntaf o ran yr arian hwnnw. Mae'n debyg nad yw'r arian hwnnw wedi'i glustnodi. Efallai y gall y Gweinidog roi atebion inni i'r cwestiynau hynny. Ni chawsom yr holl atebion hynny y byddem wedi hoffi eu cael yn ystod ein sesiynau tystiolaeth.

Nawr, o'r gorau, mae'r llwybr du wedi mynd i'r gwellt, ond siawns na ddylid cael fframwaith ariannol llawer cryfach ar hyn o bryd i roi rhwydd hynt i'r comisiwn argymell yr ateb gorau o blith y dewisiadau eraill, boed hynny ar ffurf trafnidiaeth gyhoeddus well, y metro neu ddatrysiad peirianyddol, fel twneli newydd ym Mryn-glas, adlinio'r briffordd ac ati neu, yn wir, yn fwy tebygol, cyfuniad o rai o'r dewisiadau hyn.

Mae cwestiwn hefyd ynglŷn â benthyca. Nid dim ond cyfalaf sy'n cael ei ddefnyddio yn hyn o beth neu y bwriedir ei ddefnyddio. Yn ôl pob tebyg, mae benthyca yn mynd i barhau ar lefelau blaenorol angenrheidiol i ariannu'r llwybr du yn absenoldeb y ffordd ac yn absenoldeb unrhyw brosiectau diriaethol yn ei lle. Felly, efallai y gall y Gweinidog egluro'r sefyllfa yn hynny o beth o ran beth yw ei bwriadau gyda'r lefel honno o fenthyca. Yn sicr, nid oedd y Pwyllgor Cyllid yn teimlo ein bod wedi mynd at wraidd y peth. Am ba hyd fydd y comisiwn yn ei le? Pryd gaiff y camau nesaf, y sonnir amdanyn nhw, eu rhoi ar waith? Pryd gaiff y trefniadau ariannol eu rhoi ar waith ar gyfer hynny? Mae pobl y de-ddwyrain yn amlwg yn edrych at Lywodraeth Cymru nawr i ddarparu ateb i'r tagfeydd ar yr M4.

Yn y cyfamser, byddai wedi bod yn braf gweld mwy o waith yn cael ei wneud yn niffyg y cynllun ffordd hwnnw, gan edrych ar gynlluniau posib eraill i liniaru tagfeydd yn ardal y de-ddwyrain—fy rhestr siopa i, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati unwaith: ffordd osgoi Cas-gwent, cyffordd newydd ar yr M48 o bosib, adnewyddu arwyneb y ffordd rhwng y Fenni a Rhaglan ar yr A40—. Rwyf wedi bod drwyddynt lawer gwaith o'r blaen. Ond mae cynlluniau posib eraill hefyd, y gwn i fod gan Aelodau eraill ddiddordeb ynddynt.

Felly, ydym, rydym ni'n derbyn bod llawer o'r newidiadau hyn yn dechnegol ac yn angenrheidiol, ond credaf y gellid bod wedi cael ychydig mwy o gyfeiriad yn y gyllideb hon a thynnu sylw at y dyfodol. O ran y materion eraill yr ymdriniwyd â nhw ac y cyffyrddwyd â nhw gan yr adroddiad ar y gyllideb atodol a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, roeddem yn gyffredinol yn cefnogi'r cynnydd yng nghyllideb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019-20, cyllideb Comisiwn y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru—y cynnydd mewn refeniw.

Fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gyllideb hon. Byddwn yn ymatal am y rhesymau a nodwyd gennyf o'r blaen.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:04, 9 Gorffennaf 2019

Mi ddywedodd y Gweinidog mai sgôp digon cul sydd yna i gyllideb atodol fel arfer, ond dwi’n meddwl bod yna fwy, efallai, i'w ddweud am y gyllideb atodol na sydd yna am lawer ohonyn nhw. Mae yna lawer o ffactorau allanol o ran gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhai o weithredoedd, neu ddiffyg gweithredoedd, o bosib, Llywodraeth Cymru, y mae angen rhoi sylw iddyn nhw. O ran diffyg gweithredu, y cam gwleidyddol mawr sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r gyllideb ei hun, wrth gwrs, ydy bod y Cynulliad yma a Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd. Roeddwn i'n edrych ar ddiffiniad 'emergency' yng ngeiriadur Rhydychen:

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:05, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Sefyllfa ddifrifol, annisgwyl, ac yn aml yn beryglus yn gofyn am weithredu ar unwaith.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Mi fyddwn i, felly, wedi disgwyl a gobeithio gweld y gweithredu ar unwaith yn digwydd ar y datganiad argyfwng newid hinsawdd yna, ond dydy hynny ddim yn gyfle sydd wedi ei gymryd gan y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n gresynu yn ei gylch.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod materion amgylcheddol yn ffactor yn y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â llwybr du'r M4. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad oedd hynny fwy nag ymateb go iawn i'r datganiad argyfwng hinsawdd. Ond, eto, beth sydd ddim yn y gyllideb atodol yma sydd yn fy nharo i fel bod yn fwyaf diddorol, a fy nghyd Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid hefyd—hynny ydy, iawn, o ganlyniad, o bosib, i'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r llwybr du, o bosib nad oes yna ymrwymiadau ariannol y mae'n rhaid i ni eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ond siawns ei bod hi'n rhesymol ar y pwynt yma i ddisgwyl gweld yn y gyllideb atodol arwydd o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb o ran gosod ei chyllideb, o ran beth fydd ei hagwedd hi tuag at ei lefelau benthyca hi a'r arian y bydd hi ei angen maes o law i dalu'r benthyciadau hynny yn ôl. Felly, unwaith eto, rhywbeth sydd ddim yn y gyllideb yma.

O ran Brexit, rydw innau'n croesawu'r £85 miliwn yma sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer paratoadau Brexit. Fel y clywsom ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw innau'n bryderus bod yna ddiffyg eglurder yn union o beth ydy strategaeth y Llywodraeth wrth wario'r arian yna, er bod yna nifer o benawdau wedi cael eu gosod. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid rhoi sylw i'r hyn sy'n digwydd ar lefel y Deyrnas Unedig yma, ac mae'r cwestiwn a'r bygythiad o Brexit heb gytundeb yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried fel bod â goblygiadau cyllidol difrifol tu hwnt ar ei gyfer o. Mi fyddwn ni'n sicr mewn cyllidebau a chyllidebau atodol y dyfodol yn gorfod rhoi sylw mawr i hyn oherwydd y twll dŷn ni wedi tyllu i'n hunain iddo fo o ran Brexit.

Sylw arall ynglŷn â gweithredoedd Llywodraeth Prydain: mae o'n rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus iawn yn ei gylch o fod y £36 miliwn yn fyr yma wedi cael ei neilltuo ar gyfer ymateb i sefyllfa pensiynau sector gyhoeddus. Dwi'n bryderus mai dechrau patrwm ydy hyn ac mi ydw i'n gefnogol iawn ac yn mynd i fod yn gefnogol iawn i unrhyw gamau cadarn y gwelwn ni gan Lywodraeth Cymru i ymateb, o bosib ar y cyd efo llywodraethau a seneddau datganoledig eraill, i sicrhau nad dechrau patrwm ydy hyn gan Lywodraeth Prydain, sydd, i bob pwrpas, wedi trin ein Senedd genedlaethol ni fel adran o Lywodraeth yn Whitehall yn hyn o beth.

Felly, i gloi, mi fyddwn ni'n ymatal ar y gyllideb yma, a hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod y gyllideb atodol yma'n rhan o gytundeb ddwy flynedd. Cyllideb Llywodraeth Lafur ydy hon, ac mi fyddwn ni ar y meinciau yma'n dal y Llywodraeth Lafur i gyfrif arni hi, ond mi rydym ni'n credu, drwy ein cytundeb ni ar arian ychwanegol at yr economi sylfaenol, at addysg feithrin, at iechyd meddwl, at grant ffermwyr ifanc, at ofal diwedd oes, at fuddsoddi mewn celfyddyd a threftadaeth chwaraeon a thwristiaeth, ac yn y blaen, ac yn blaen, ein bod ni, drwy hynny, wedi gallu gwneud gwahaniaeth ar ran pobl Cymru o feinciau'r gwrthbleidiau yma yn y Cynulliad, ac yn edrych ymlaen, wrth reswm, at allu gwneud gwahaniaeth llawer mwy fel Llywodraeth yma. 

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:09, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ddatgan yn glir nawr. Byddaf yn pleidleisio o blaid y gyllideb. Yn gefndir i'r gyllideb atodol hon mae cyni parhaus ac ansicrwydd Brexit. Gwyddom y dylem ni fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy y flwyddyn nag yr ydym ni'n ei gael ar hyn o bryd, sydd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn cyfateb i faint y gyllideb atodol hon. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid polisi economaidd yw cyni, ond ideoleg: dull deublyg o dorri a phreifateiddio.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:10, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Ar hyn o bryd mae gennym ni sefyllfa lle mae gan Jeremy Corbyn fwy yn gyffredin o ran polisi, â llywodraethau Churchill, Eden a Macmillan yn syth ar ôl y rhyfel nag â Boris Johnson neu Jeremy Hunt wrth i Geidwadwyr San Steffan newid i fersiwn Brydeinig o'r Blaid Weriniaethol.

O ran y gyllideb atodol gyntaf hon ar dai, rwy'n croesawu'r ffaith bod £50 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyd at 650 o gartrefi fforddiadwy, er bod cost o £67,000 i bob cartref yn ymddangos i mi, o leiaf, braidd yn isel. Ond rwy'n croesawu'r datganiad canlynol gan y Gweinidog Cyllid yn y Pwyllgor Cyllid—i ddyfynnu:

Felly, caiff yr arian ar gyfer tai fforddiadwy ei ddyrannu gan ddefnyddio'r fformiwla grant tai cymdeithasol safonol, sy'n golygu y bydd pob awdurdod lleol yn cael eu cyfran o'r arian ychwanegol, ac, unwaith eto, penderfynwyd bod yr arian hwn yn flaenoriaeth oherwydd roedd prosiectau y gellid eu dechrau yn ystod y flwyddyn, a byddem yn disgwyl cynlluniau o raglenni awdurdodau lleol.

Ac yn benodol, y peth roeddwn i'n fwyaf balch ohono—yr ymateb i'r cwestiwn canlynol:

A all awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian hwn i adeiladu tai cyngor?

Ymateb y Gweinidog Cyllid oedd:

Gallant, a byddwn i'n hoffi iddyn nhw wneud hynny.

Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y caiff ei groesawu gan awdurdodau lleol a chan bob un ohonom ni sy'n credu mai dim ond drwy adeiladu tai cyngor y gellir datrys yr argyfwng tai presennol.

A gaf i hefyd groesawu'r ffaith y caiff yr arian ychwanegol ar gyfer pensiynau a dderbynnir o San Steffan ei drosglwyddo i bortffolios Gweinidogol? Rwy'n ategu pryder pawb arall ei fod £36 miliwn yn llai nag yr oedd ei angen arnom ni, ac mae hynny'n peri imi ddeall yn rhannol amharodrwydd y Llywodraeth i gymryd pethau oddi ar San Steffan, lle, oni bai y trosglwyddir y swm o arian i'w cynnal a swm yr arian sydd ei angen, rydym ni ar ein colled yn rheolaidd o ran y rhain diolch i San Steffan.

Ond cytunwyd, pan oedd Mark Drakeford yn Weinidog Cyllid, ar drefn apelio pryd, os oeddem yn credu ein bod wedi cael ein trin yn wael gan y Trysorlys, roedd yna weithdrefn apelio annibynnol ac nid dim ond mynd yn ôl i'r Trysorlys gan ddweud, 'Nid ydym yn fodlon' a byddan nhw'n dweud, 'Wel, hen dro; dyna'r sefyllfa' Mae gweithdrefn apelio annibynnol i fod yn ei lle, a byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn defnyddio honno.

Mae gwir angen cymorth o ran pensiwn athrawon. Hebddo, buasai argyfwng yn yr ysgolion. Gydag ef, mae problemau mewn ysgolion; hebddo, buasai argyfwng yn yr ysgolion. Ond cofiwch, mae'r flwyddyn ysgol a'r flwyddyn ariannol yn wahanol ac mae'r flwyddyn ysgol yn mynd, fel mae pawb yn gwybod, o fis Medi hyd at ganol mis Gorffennaf, ac mae'r flwyddyn ariannol yn mynd o fis Ebrill. Felly, mae angen cael arwydd gan y Llywodraeth y byddan nhw'n parhau i gefnogi hyn am weddill y flwyddyn ysgol, neu fel arall bydd problem gydag ysgolion o ran eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn. Ac rwy'n credu bod nifer o bobl yma naill ai wedi bod, neu yn llywodraethwyr, ac yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n gallu digwydd yn ystod y flwyddyn os, ym mis Ebrill, na fydd yr arian a gafwyd eleni ar gael y flwyddyn nesaf, ac wedyn, yn sydyn iawn, mae gennych chi gyfle cyfyngedig i ddechrau gwneud arbedion yn y flwyddyn honno, ac mae'n achosi problemau ariannol enfawr.

Rwy'n siomedig iawn yn bersonol am y methiant i gefnogi'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu mewn ysgolion. Mae hynny'n gost arall a ddaeth i ran ysgolion, nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosti. Weithiau, rydych chi yn credu eu bod yn cyflogi mwy o staff neu fod y cyflogwr yn negodi codiadau cyflog—'Wel, chi wnaeth hynny, talwch chi.' Ond mae hyn yn rhywbeth nad oedd ganddyn nhw unrhyw reolaeth o gwbl drosto, ac rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu ymdrin â hynny oherwydd ei fod yn sylweddol is na chyflogau'r athrawon. Mae'n briodol talu cyfraniadau pensiwn gan y cyflogwr, ond mae £5,000, £10,000, £15,000 yr ysgol yn gwneud llawer o wahaniaeth. Felly, rwy'n poeni'n fawr am hynny.

A gaf i yn olaf groesawu'r £20 miliwn ar gyfer cyfalaf llywodraeth leol? Gall awdurdodau lleol bob amser wario cyfalaf. Mae gennych chi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae gennych chi gynnal a chadw cyfalaf, mae gennych chi ffyrdd. Gellir wastad defnyddio'r arian hwnnw.

Ni allaf weld unrhyw newid i gyfalaf trafodion cyllid yn y gyllideb atodol hon. A gaf i ofyn a all y Gweinidog, rywbryd, adrodd yn ôl ynglŷn â sut y mae'n cael ei wario gyda phroffil o wariant ac ad-dalu, ac esboniad o'r strategaeth sylfaenol ar gyfer ei ddefnyddio? Rydym ni'n gwybod ar gyfer beth na allwn ni ei ddefnyddio. Efallai nad ydym yn deall ar gyfer beth yr ydym ni yn ei ddefnyddio.

Ac mae dyfodol ceir trydan a'r defnydd cynyddol o ynni adnewyddadwy yn dibynnu ar welliannau mewn technoleg batri. Bydd pwy bynnag sy'n meistroli technoleg batri gwell o ran maint, hyd yr amser y cedwir y wefr, gan leihau'r ynni trydanol a gollir i ffurfiau eraill fel gwres, a chyflymder yr ailwefru, yn chwyldroi'r diwydiant ac, yn bwysicaf oll, yn creu diwydiant newydd ar gyfer ein hardal ni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr arian sy'n cael ei wario ar dechnoleg batri yn gweithio ac mai ni fydd y lle y bydd pobl yn dod iddo i gael batris.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 6:15, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Byddwn ni hefyd yn ymatal ar sylwedd y cynnig hwn ar y gyllideb atodol. Fodd bynnag, a gaf i ganmol y Llywodraeth am ei chyflwyniad gwell o lawer o'r gyllideb atodol? Rwy'n cofio dair blynedd yn ôl, yn fuan ar ôl imi gael fy ethol i'r Cynulliad, y gyllideb atodol gyntaf i mi ddod ar ei thraws. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai fy mhrofiad, o ran edrych ar gyllidebau Llywodraeth y DU neu gyllidebau llywodraeth leol yn Lloegr neu gyllidebau sector preifat o ryw fath neu'i gilydd, o fudd imi ar gyfer y swydd o asesu a chwestiynu'r gyllideb atodol, ond nid oedd hynny'n wir o gwbl i'r graddau yr oeddwn i wedi ei obeithio. Ac, o gofio ar y pryd, roeddwn i ar y Pwyllgor Cyllid ac yn cadeirio'r pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd, yr elfen fwyaf rwy'n credu, neu yn sicr yr elfen fwyaf dadleuol o'r gyllideb oedd gweithredu llawer o faniffesto UKIP ym maes torri prosiectau newid hinsawdd. Rhoddwyd rhywfaint o'r arian hwnnw yn ôl wedyn yn yr ail gyllideb atodol, ond yr oedd yn sylweddol, ac nid oedd yn hawdd cwestiynu ar unwaith beth oedd yn digwydd. Rwy'n falch o weld nad y prif grwpiau gwariant yn unig sydd ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn hyn, ond mae llinellau gwariant y gyllideb hefyd ar y wefan, er mwyn i bobl eu cwestiynu mewn ffordd gydlynol.

Hefyd, rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda iawn yr ydym ni wedi ei chysylltu â'r gyllideb. Cyfeirir ati ar ein system fel nodyn, ac fel dogfen mewn mannau eraill, rwy'n credu; yn yr atodiad caiff ei ddisgrifio fel nodyn esboniadol, a tybed a fyddai modd ei galw yn hynny yn y dyfodol, fel ein bod yn gwybod beth yr ydym ni'n cyfeirio ato a gallai hyn fod yn rhan reolaidd o'r broses, oherwydd roeddwn i'n ei gweld hi'n ddefnyddiol i ddeall y newidiadau amrywiol oddi mewn iddo.

Y newidiadau mwyaf cyffrous, mewn rhyw ffordd, i mi, yw'r diffyg newidiadau ar yr ochr refeniw, ac rwy'n credu ei bod yn eithaf arwyddocaol mewn gwirionedd, oherwydd bod chwe mis wedi mynd heibio ers y gyllideb derfynol. Ac, os byddai popeth arall yn gyfartal, gallai rhywun fod wedi disgwyl rhywfaint o amrywio yn y rhagolygon ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tir, o gofio'r ansicrwydd ynghylch rhagweld y rheini. Ac nid wyf i'n siŵr ai'r rheswm nad ydym ni wedi gweld amrywio yw oherwydd nad ydym ni wedi sefydlu'n llawn y prosesau yr ydym yn eu gweld bellach yn y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a fydd yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i'w rhagweld, neu a ydyn nhw wedi'u hystyried yn fanwl, o ddifrif, a bod popeth yn union fel yr oedd y Gweinidog cyllid yn ei ddisgwyl, ond rwyf i'n cofio, rhwng y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 a'r gyllideb derfynol, y bu gostyngiad o £40 miliwn yn y rhagolwg o'r hyn yr oeddem ni'n mynd i'w gymryd o gyfraddau treth refeniw Cymru, felly sylweddol iawn. Ac, wrth gwrs, yn yr Alban, mae ganddyn nhw'r twll du hwn gwerth £1 biliwn y maen nhw'n ymdrin ag ef. Felly, pa mor hyderus ydym ni ynghylch y dim amrywiannau hynny?

Rwy'n gweld ein bod ni wedi arbed £173,000 ar weinyddiaeth Cyllid a Thollau EM o'r ddwy dreth newydd hynny, ac o fod wedi gwasanaethu ar y pwyllgor ar gyfer y ddwy ac ystyried y ffigurau hynny a meddwl eu bod yn gymharol hael i Cyllid a Thollau EM o ran yr hyn y byddai'r gost, fy mhryder i oedd y byddai Cyllid a Thollau EM yn gwario'r arian hwnnw. Felly, mae'r ffaith eu bod wedi dod o hyd i arbedion ac wedi'u rhoi yn ôl i ni i'w groesawu. Mae gennym ni hefyd y cyllid gwerth £100,000 ar gyfer y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac rwy'n credu y bydd yn cael ei wario'n dda ac mae'n rhaid inni barhau i adolygu hynny'n ofalus.

O ran y dyraniadau o gronfeydd cyfalaf cyffredinol, rydym yn dweud ym mhwynt 3.10 o'r ddogfen a ddangosais fod cyfanswm o £85 miliwn wedi'i ddyrannu o'r cronfeydd cyfalaf wrth gefn i ddarparu buddsoddiad ychwanegol mewn tai cymdeithasol a gwaith cynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd. Yn gyntaf, a gaf i ofyn, a yw'n annadleuol i ddisgrifio gwaith cynnal a chadw ffyrdd fel gwariant cyfalaf? A oes dadl y dylid ystyried hynny'n briodol fel adnodd refeniw, neu a yw'n dybiaeth sefydledig o fewn ein cyfrifyddu mai dyna'r ffordd y dylid ei drin?

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am yr ymyriad ar eich eistedd yna.

Mae'n ymddangos ein bod ni'n aml yn ei chael yn haws ariannu pethau o gyllidebau cyfalaf sy'n trosglwyddo i refeniw nag i'r gwrthwyneb. Rwy'n credu y byddem ni'n buddsoddi arian yn dda. Fodd bynnag, o'r £85 miliwn hwnnw dim ond £5 miliwn, wrth ddarllen i lawr, sydd mewn gwirionedd yn mynd i linell wariant y gyllideb ar gyfer gweithrediadau rhwydwaith o ran cerbytffyrdd cefnffordd a thraffordd. Felly, fel y nodwyd yn gywir, mae cyllid sylweddol ar gyfer tai cymdeithasol, ond er gwaethaf y pennawd o fewn y £85 miliwn hwnnw, cyfran fach iawn yn unig sy'n mynd i'r cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw cefnffyrdd a thraffyrdd.

Yn olaf gen i, hoffwn i ofyn ychydig mwy am y pensiynau. Mae gennym, o fewn prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gynnydd o £46 miliwn, i ddarparu ar gyfer y newidiadau hynny gan Lywodraeth y DU i gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus. Darllenais y llythyr, Gweinidog cyllid, y gwnaethoch chi ei anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r rhain a'r ffaith nad oedd cynorthwywyr cymorth addysgu wedi'u cynnwys yn hyn oherwydd mai llywodraeth leol oedd hynny, ond bod athrawon wedi eu cynnwys. Felly, rwy'n dal i bendroni pam mae'r cynnydd ar gyfer addysg i ariannu hyn, os wyf i wedi deall yn iawn, ddim ond yn £0.5 miliwn, ond ar gyfer y gwasanaeth iechyd, mae'n £46 miliwn. Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:20, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Dim ond sylw byr yr hoffwn i ei wneud ar y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r pwyllgor, yn ei adroddiad, yn datgan ei fod wedi synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pellach i wireddu ei datganiad o argyfwng hinsawdd. Mae'n ddigon posibl, y tro hwn, y byddai'n afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi ad-drefnu ei holl flaenoriaethau cyllidebol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid wyf i'n credu y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi cydnabod pwysigrwydd ei datganiadau ei hun. Mae hwn yn ddatganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ei hun, felly mae'n gwbl resymol y byddai rhywun yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau ei hun yn cael eu hadlewyrchu yn ei chyllideb ei hun. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w ystyried, ac rwy'n credu y bydd yn gwbl resymol pan fydd Llywodraeth Cymru yn dychwelyd i'r lle hwn gyda'i datganiad cyllideb nesaf y bydd yn gallu dangos yn glir iawn sut y mae ei datganiadau ei hun yn llywio ei meddylfryd ei hun, ei phenderfyniadau ei hun a'i strategaeth ariannol ei hun, ac rwy'n credu y dylai'r pwyllgor ac eraill fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.

Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi y prynhawn yma, Llywydd, yw'r hyn sydd wedi'i godi gan bob Aelod, rwy'n credu, sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, hynny yw ynghylch pensiynau. Wrth gwrs, bu cytundeb clir rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ers cryn amser bod y datganiad o egwyddorion ariannu yn glir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan weinyddiaeth y DU yn cael ei ariannu'n llwyr ac y bydd cytundeb arno gan a gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae'n amlwg nad yw hyn wedi digwydd yn yr enghraifft glir iawn hon, lle nad yw un o flociau adeiladu'r setliad wedi llywio polisi nac wedi llywio penderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae'n siomedigaeth lwyr ac, a dweud y gwir, yn gwbl annerbyniol y dylid treulio cymaint o amser ac egni ac y dylid peri cymaint o anhawster yn ceisio datrys mater na ddylai erioed fod wedi codi yn y lle cyntaf.

Rwy'n gweld bod y Prif Weinidog yn ei le ar gyfer y ddadl hon, ac efallai y byddai'n beth da pe byddai'n gallu dwyn y mater hwn i sylw Prif Weinidog y DU a bod yn gwbl glir, os yw hi'n dymuno cynnal adolygiad o ddatganoli, bod angen iddi adolygu datganoli yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod ei Llywodraeth hi yn cyflawni ei hymrwymiadau, ei datganiadau a'i pholisïau. Mae'n gwbl annerbyniol bod Llywodraeth Cymru yn cael ei rhoi yn y sefyllfa hon, ac rwy'n gobeithio, Llywydd, y gall y lle hwn anfon neges glir iawn i Lywodraeth y DU ein bod yn disgwyl i'r holl gytundebau hyn gael eu cyflawni'n llwyr ac mewn modd amserol.

Mae'r mater olaf o sylwedd yr wyf i'n dymuno ymdrin ag ef yn y cyfraniad hwn yn ymwneud â'r M4. Rydym ni wedi cael dadl sylweddol ynghylch yr M4 yn y lle hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac fe'i gwnaed yn gwbl glir i bob un ohonom sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i sicrhau y cyflwynir datrysiad i'r M4 mewn modd amserol. Mae'n destun cryn siom a phryder, felly, nad oedd y Gweinidog yn gallu ateb hyd yn oed y cwestiynau mwyaf sylfaenol ynghylch y gyllideb a oedd ar gael i'r comisiwn sy'n cael ei sefydlu. Er gwaethaf cwestiynau niferus ynghylch y mater, methodd y Gweinidog â rhoi sicrwydd i ni o gwbl fod unrhyw gyllideb o gwbl ar gyfer y gwaith hwn. Yn sicr, nid oedd unrhyw gyllideb yr oedd hi'n gallu ei nodi o flaen comisiwn yr arian sydd ei angen arno i wneud ei waith, nid wyf i'n credu bod ein meddyliau wedi eu tawelu ar y mater hwn ac rwyf i'n credu ein bod ni'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywodraeth symud yn gyflym iawn, iawn i ddangos bod ganddo'r cyllid i gyflawni ei ymrwymiadau.

Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi datblygu ffordd o ddadlau a thrafod materion ariannol, er hynny, nid wyf i'n credu ein bod ni wedi symud yn ddigon pell nac yn ddigon cyflym. Er bod y gwaith papur yn cael argraff dda ar rai Aelodau, i mi, mae'n bwysig bod gennym broses ar waith sy'n ein galluogi i gyfrannu at ddadl, ystyried y materion hyn a dod i gasgliadau sy'n llywio penderfyniadau'r Llywodraeth. Siaradais yn y datganiad busnes rai wythnosau yn ôl, yn gofyn i'r Llywodraeth roi cyfle i ni gael dadl lawn ar ei blaenoriaethau cyllideb cyn cyflwyno'r gyllideb. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â derbyn y cais hwnnw a pheidio â symud ymlaen gydag ef. Rwyf i yn credu, felly, bod angen i ni edrych yn fanwl ar sut y caiff cyllidebau atodol eu cyflwyno er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y cyfle i holi'r Gweinidog, fel Senedd, yn llawn cyn cyflwyno'r mater hwn gerbron y pwyllgor a chyn y gofynnir i ni bleidleisio ar y materion hyn. Rwy'n gobeithio bod y rhain i gyd yn faterion y byddwn yn gallu rhoi sylw iddyn nhw yn ystod y 12 mis nesaf. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:25, 9 Gorffennaf 2019

Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn gymharol gyfyngedig ei natur, gan ei bod yn cynrychioli—os nad ydych chi'n cynnwys yr arian pensiynau—ychydig dros 0.5 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru. Serch hynny, mae'n rhan bwysig o broses y gyllideb, gan ganiatáu i'r Cynulliad adrodd ar newidiadau a chraffu arnyn nhw.

Trof yn gyntaf at y mater a godwyd gan y rhan fwyaf o'r siaradwyr, sef mater y pensiynau a'r bwlch cyllid o £36 miliwn sydd i'w weld o ran yr arian a drosglwyddwyd o San Steffan. Fel y soniais yn fy natganiad ysgrifenedig i fy nghyd-Aelodau, rwyf i wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi pryderon mawr nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hynny. Fe wnes i hynny mewn partneriaeth â'r Alban a gydag Ysgrifennydd Parhaol Gogledd Iwerddon. Roeddem yn glir iawn bod y tryloywder a'r ymgysylltu a welwyd mewn cysylltiad â'r penderfyniad hwn ymhell o fod yn cydymffurfio â'r datganiad o bolisi ariannu a gytunwyd gan y gwledydd. Soniodd Mike Hedges am y drefn apelio sydd wedi'i hamlinellu. Wel, roeddem ni'n glir iawn yn ein llythyr y byddem yn mynd ati ar y cyd i ddefnyddio'r broses apelio honno i fynd â'r mater hwn ymhellach pe na fyddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn fuan iawn i drafod y materion hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid oes unrhyw ran o hyn yn agos at y math o berthynas a addawyd y byddai gennym gyda llywodraeth y DU o ran cyllid a thryloywder. Oherwydd hynny, ni allaf gadarnhau cyllid ar gyfer pensiynau yn y dyfodol, oherwydd bydd hynny'n cael ei drafod yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Codwyd materion ynghylch monitro'r rhagolygon treth ddatganoledig yn ystod y flwyddyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r wybodaeth am dderbynebau treth yn ystod y flwyddyn gan Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn llywio ein barn ddatblygol o'r sefyllfa flwyddyn lawn debygol ar gyfer 2019-20, ac mae hynny'n ffurfio rhan o'n system rheolaeth ariannol gyffredinol yn ystod y flwyddyn. Ond, prin yw'r wybodaeth yn ystod y flwyddyn sydd ar gael ar hyn o bryd i lywio'r rhagolygon diwygiedig, a bydd y sefyllfa'n datblygu wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyhoeddi rhagolygon diwygiedig ar gyfer 2019-20, ar gyfer trethi datganoledig a threthi cysylltiedig y DU yn yr hydref. Yna, bydd effaith y diwygiadau hyn ar y refeniw treth a'r addasiad i'r grant bloc yn cael eu hystyried, a byddwch yn eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol yn ddiweddarach.

Codwyd mater y twll du yn y dreth incwm yn yr Alban hefyd. Yn seiliedig ar ragolygon cyfredol, mae cyllidebau Llywodraeth yr Alban yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gorbwysleisio'r sefyllfa net rhwng refeniw treth incwm datganoledig a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc. O ganlyniad i hyn, bydd taliadau cysoni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bu rhywfaint o ddiddordeb yn hyn yn ystod gwaith craffu'r pwyllgor, ac roeddwn i'n gallu dweud ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r Alban gan fod pwerau gwahanol wedi'u datganoli i ni mewn cysylltiad â threth incwm. Felly, rydym ni'n llai agored mewn rhai ffyrdd, ac mae gennym y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud ein rhagolygon, fel y maen nhw'n ei wneud ledled Lloegr. Felly, ni ddylai fod gennym y gwahaniaeth hwnnw yn y fethodoleg sy'n gysylltiedig â'r rhagolygon hynny. Wedi dweud hynny, ni fyddwn i'n ceisio gorbwysleisio'r sefyllfa oherwydd, yn amlwg, byddem ni'n dymuno cadw llygad barcud arni.

O ran yr M4, y sefyllfa yw bod £20 miliwn wedi ei glustnodi mewn cronfeydd wrth gefn eleni ar gyfer yr M4, pe byddai'r penderfyniad wedi'i wneud i wneud y gorchmynion, ac mae'r £20 miliwn hwnnw yn parhau i fod mewn cronfeydd wrth gefn bellach i'w ddefnyddio yn rhywle arall, o ran bodloni blaenoriaethau ein Llywodraeth. Felly, ni wneir unrhyw ddyraniadau ychwanegol yn y gyllideb atodol hon ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chamau yn y dyfodol. Fodd bynnag, yn ôl amcangyfrifon cyfredol, ar gyfer y mesurau carlam y mae'r Prif Weinidog wedi'u gosod i liniaru tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd, gan gynnwys swyddogion traffig ychwanegol, mwy o wybodaeth fyw am amseroedd teithio ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad, bydd y gost rhwng £4 miliwn a £5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn cadw golwg ar hyn, gan ddyrannu cyllid 2019-20 eto yn yr ail gyllideb atodol. Roeddwn i'n glir iawn yn y pwyllgor fod y Prif Weinidog wedi'i gwneud yn glir y bydd y comisiwn yn cael y cynnig cyntaf am yr arian a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer yr M4. Yn amlwg, mae'r comisiwn ar fin dechrau ar ei waith, felly nid oeddwn i'n gallu bod mewn sefyllfa yn y gyllideb atodol gyntaf i ddyrannu rhagor o gyllid, nac i fod yn gliriach o ran lle y gellid defnyddio'r cyllid yn y dyfodol o ran bodloni argymhellion y comisiwn hwnnw.

Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn y ddadl ac wrth graffu ar waith y pwyllgor o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r ffordd yr ydym ni'n sicrhau bod honno wedi ei hymwreiddio'n helaeth yn ein proses o bennu'r gyllideb. Wrth gwrs, mae'r cyllidebau drafft a therfynol yn nodi cynlluniau gwario'r Llywodraeth ar gyfer 2019-20 ac mae'r gyllideb atodol gyntaf yn datblygu ar y cynlluniau hynny ac ar gyflawni ein hymrwymiadau. Rhoddaf enghraifft i chi o'r cyllid ychwanegol ar gyfer cronfa dyfodol yr economi. Mae un o'r ffrydiau yn y gronfa honno'n ymwneud yn benodol â datgarboneiddio, a gwn y bu gan y Gweinidog gryn ddiddordeb yn hynny o ran ystyried sut y bydd yn defnyddio'r arian hwnnw. Felly, mae wrth galon ein meddylfryd i raddau helaeth. Rwyf eisoes wedi cwrdd â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o ran sut y byddwn yn gwella ein hystyriaeth o'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth bennu cyllidebau yn y dyfodol, ac rydym yn gweithio ar ddatblygu trefn asesu'r daith sydd, unwaith eto, yn rhywbeth y gwn y bu gan y Pwyllgor Cyllid gryn ddiddordeb ynddo, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ac rwyf innau wedi cymryd diddordeb, unwaith eto, yn awgrymiadau'r comisiynydd am gyllid ychwanegol yr hoffai ei weld yn cael ei ddefnyddio yn 2020-21 ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi i drafod ei chynigion ymhellach a deall o ble y byddai'n awgrymu i'r cyllid ychwanegol hwnnw ddod o bob rhan o'r Llywodraeth o ran newid pwyslais blaenoriaethau a deall yn well beth fyddai'r arbedion carbon o bob un o'r mesurau a gynigir. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny â hi.

Ond, dim ond gair i gloi, Llywydd, wrth edrych ymlaen, nododd Llywodraeth y DU yn flaenorol y byddai'n pennu cyllidebau am dair blynedd trwy adolygiad cynhwysfawr o wariant. Nid yw ein setliad refeniw presennol yn ymestyn y tu hwnt i eleni, er bod gennym ni gyllideb gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond mae'r gyllideb atodol hon yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae cyllid cyhoeddus a thelerau ein setliad gan Lywodraeth y DU yn parhau'n ansicr a gallai olygu y bydd mwy o benderfyniadau cyllidebol anodd yn y dyfodol. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:32, 9 Gorffennaf 2019

Y cwestiwn nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:33, 9 Gorffennaf 2019

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, dwi'n cychwyn y bleidlais.