Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Mi fyddwn i, felly, wedi disgwyl a gobeithio gweld y gweithredu ar unwaith yn digwydd ar y datganiad argyfwng newid hinsawdd yna, ond dydy hynny ddim yn gyfle sydd wedi ei gymryd gan y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n gresynu yn ei gylch.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod materion amgylcheddol yn ffactor yn y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â llwybr du'r M4. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad oedd hynny fwy nag ymateb go iawn i'r datganiad argyfwng hinsawdd. Ond, eto, beth sydd ddim yn y gyllideb atodol yma sydd yn fy nharo i fel bod yn fwyaf diddorol, a fy nghyd Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid hefyd—hynny ydy, iawn, o ganlyniad, o bosib, i'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r llwybr du, o bosib nad oes yna ymrwymiadau ariannol y mae'n rhaid i ni eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ond siawns ei bod hi'n rhesymol ar y pwynt yma i ddisgwyl gweld yn y gyllideb atodol arwydd o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb o ran gosod ei chyllideb, o ran beth fydd ei hagwedd hi tuag at ei lefelau benthyca hi a'r arian y bydd hi ei angen maes o law i dalu'r benthyciadau hynny yn ôl. Felly, unwaith eto, rhywbeth sydd ddim yn y gyllideb yma.
O ran Brexit, rydw innau'n croesawu'r £85 miliwn yma sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer paratoadau Brexit. Fel y clywsom ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw innau'n bryderus bod yna ddiffyg eglurder yn union o beth ydy strategaeth y Llywodraeth wrth wario'r arian yna, er bod yna nifer o benawdau wedi cael eu gosod. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid rhoi sylw i'r hyn sy'n digwydd ar lefel y Deyrnas Unedig yma, ac mae'r cwestiwn a'r bygythiad o Brexit heb gytundeb yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried fel bod â goblygiadau cyllidol difrifol tu hwnt ar ei gyfer o. Mi fyddwn ni'n sicr mewn cyllidebau a chyllidebau atodol y dyfodol yn gorfod rhoi sylw mawr i hyn oherwydd y twll dŷn ni wedi tyllu i'n hunain iddo fo o ran Brexit.
Sylw arall ynglŷn â gweithredoedd Llywodraeth Prydain: mae o'n rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus iawn yn ei gylch o fod y £36 miliwn yn fyr yma wedi cael ei neilltuo ar gyfer ymateb i sefyllfa pensiynau sector gyhoeddus. Dwi'n bryderus mai dechrau patrwm ydy hyn ac mi ydw i'n gefnogol iawn ac yn mynd i fod yn gefnogol iawn i unrhyw gamau cadarn y gwelwn ni gan Lywodraeth Cymru i ymateb, o bosib ar y cyd efo llywodraethau a seneddau datganoledig eraill, i sicrhau nad dechrau patrwm ydy hyn gan Lywodraeth Prydain, sydd, i bob pwrpas, wedi trin ein Senedd genedlaethol ni fel adran o Lywodraeth yn Whitehall yn hyn o beth.
Felly, i gloi, mi fyddwn ni'n ymatal ar y gyllideb yma, a hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod y gyllideb atodol yma'n rhan o gytundeb ddwy flynedd. Cyllideb Llywodraeth Lafur ydy hon, ac mi fyddwn ni ar y meinciau yma'n dal y Llywodraeth Lafur i gyfrif arni hi, ond mi rydym ni'n credu, drwy ein cytundeb ni ar arian ychwanegol at yr economi sylfaenol, at addysg feithrin, at iechyd meddwl, at grant ffermwyr ifanc, at ofal diwedd oes, at fuddsoddi mewn celfyddyd a threftadaeth chwaraeon a thwristiaeth, ac yn y blaen, ac yn blaen, ein bod ni, drwy hynny, wedi gallu gwneud gwahaniaeth ar ran pobl Cymru o feinciau'r gwrthbleidiau yma yn y Cynulliad, ac yn edrych ymlaen, wrth reswm, at allu gwneud gwahaniaeth llawer mwy fel Llywodraeth yma.