Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 9 Gorffennaf 2019.
Dim ond sylw byr yr hoffwn i ei wneud ar y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r pwyllgor, yn ei adroddiad, yn datgan ei fod wedi synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pellach i wireddu ei datganiad o argyfwng hinsawdd. Mae'n ddigon posibl, y tro hwn, y byddai'n afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi ad-drefnu ei holl flaenoriaethau cyllidebol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid wyf i'n credu y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi cydnabod pwysigrwydd ei datganiadau ei hun. Mae hwn yn ddatganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ei hun, felly mae'n gwbl resymol y byddai rhywun yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau ei hun yn cael eu hadlewyrchu yn ei chyllideb ei hun. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr wyf yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w ystyried, ac rwy'n credu y bydd yn gwbl resymol pan fydd Llywodraeth Cymru yn dychwelyd i'r lle hwn gyda'i datganiad cyllideb nesaf y bydd yn gallu dangos yn glir iawn sut y mae ei datganiadau ei hun yn llywio ei meddylfryd ei hun, ei phenderfyniadau ei hun a'i strategaeth ariannol ei hun, ac rwy'n credu y dylai'r pwyllgor ac eraill fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.
Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi y prynhawn yma, Llywydd, yw'r hyn sydd wedi'i godi gan bob Aelod, rwy'n credu, sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, hynny yw ynghylch pensiynau. Wrth gwrs, bu cytundeb clir rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ers cryn amser bod y datganiad o egwyddorion ariannu yn glir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan weinyddiaeth y DU yn cael ei ariannu'n llwyr ac y bydd cytundeb arno gan a gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae'n amlwg nad yw hyn wedi digwydd yn yr enghraifft glir iawn hon, lle nad yw un o flociau adeiladu'r setliad wedi llywio polisi nac wedi llywio penderfyniadau Llywodraeth y DU. Mae'n siomedigaeth lwyr ac, a dweud y gwir, yn gwbl annerbyniol y dylid treulio cymaint o amser ac egni ac y dylid peri cymaint o anhawster yn ceisio datrys mater na ddylai erioed fod wedi codi yn y lle cyntaf.
Rwy'n gweld bod y Prif Weinidog yn ei le ar gyfer y ddadl hon, ac efallai y byddai'n beth da pe byddai'n gallu dwyn y mater hwn i sylw Prif Weinidog y DU a bod yn gwbl glir, os yw hi'n dymuno cynnal adolygiad o ddatganoli, bod angen iddi adolygu datganoli yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod ei Llywodraeth hi yn cyflawni ei hymrwymiadau, ei datganiadau a'i pholisïau. Mae'n gwbl annerbyniol bod Llywodraeth Cymru yn cael ei rhoi yn y sefyllfa hon, ac rwy'n gobeithio, Llywydd, y gall y lle hwn anfon neges glir iawn i Lywodraeth y DU ein bod yn disgwyl i'r holl gytundebau hyn gael eu cyflawni'n llwyr ac mewn modd amserol.
Mae'r mater olaf o sylwedd yr wyf i'n dymuno ymdrin ag ef yn y cyfraniad hwn yn ymwneud â'r M4. Rydym ni wedi cael dadl sylweddol ynghylch yr M4 yn y lle hwn yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac fe'i gwnaed yn gwbl glir i bob un ohonom sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i sicrhau y cyflwynir datrysiad i'r M4 mewn modd amserol. Mae'n destun cryn siom a phryder, felly, nad oedd y Gweinidog yn gallu ateb hyd yn oed y cwestiynau mwyaf sylfaenol ynghylch y gyllideb a oedd ar gael i'r comisiwn sy'n cael ei sefydlu. Er gwaethaf cwestiynau niferus ynghylch y mater, methodd y Gweinidog â rhoi sicrwydd i ni o gwbl fod unrhyw gyllideb o gwbl ar gyfer y gwaith hwn. Yn sicr, nid oedd unrhyw gyllideb yr oedd hi'n gallu ei nodi o flaen comisiwn yr arian sydd ei angen arno i wneud ei waith, nid wyf i'n credu bod ein meddyliau wedi eu tawelu ar y mater hwn ac rwyf i'n credu ein bod ni'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r Llywodraeth symud yn gyflym iawn, iawn i ddangos bod ganddo'r cyllid i gyflawni ei ymrwymiadau.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi datblygu ffordd o ddadlau a thrafod materion ariannol, er hynny, nid wyf i'n credu ein bod ni wedi symud yn ddigon pell nac yn ddigon cyflym. Er bod y gwaith papur yn cael argraff dda ar rai Aelodau, i mi, mae'n bwysig bod gennym broses ar waith sy'n ein galluogi i gyfrannu at ddadl, ystyried y materion hyn a dod i gasgliadau sy'n llywio penderfyniadau'r Llywodraeth. Siaradais yn y datganiad busnes rai wythnosau yn ôl, yn gofyn i'r Llywodraeth roi cyfle i ni gael dadl lawn ar ei blaenoriaethau cyllideb cyn cyflwyno'r gyllideb. Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â derbyn y cais hwnnw a pheidio â symud ymlaen gydag ef. Rwyf i yn credu, felly, bod angen i ni edrych yn fanwl ar sut y caiff cyllidebau atodol eu cyflwyno er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y cyfle i holi'r Gweinidog, fel Senedd, yn llawn cyn cyflwyno'r mater hwn gerbron y pwyllgor a chyn y gofynnir i ni bleidleisio ar y materion hyn. Rwy'n gobeithio bod y rhain i gyd yn faterion y byddwn yn gallu rhoi sylw iddyn nhw yn ystod y 12 mis nesaf. Diolch.