9. Dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 9 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:25, 9 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn gymharol gyfyngedig ei natur, gan ei bod yn cynrychioli—os nad ydych chi'n cynnwys yr arian pensiynau—ychydig dros 0.5 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru. Serch hynny, mae'n rhan bwysig o broses y gyllideb, gan ganiatáu i'r Cynulliad adrodd ar newidiadau a chraffu arnyn nhw.

Trof yn gyntaf at y mater a godwyd gan y rhan fwyaf o'r siaradwyr, sef mater y pensiynau a'r bwlch cyllid o £36 miliwn sydd i'w weld o ran yr arian a drosglwyddwyd o San Steffan. Fel y soniais yn fy natganiad ysgrifenedig i fy nghyd-Aelodau, rwyf i wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn mynegi pryderon mawr nad yw'r cyllid arfaethedig yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hynny. Fe wnes i hynny mewn partneriaeth â'r Alban a gydag Ysgrifennydd Parhaol Gogledd Iwerddon. Roeddem yn glir iawn bod y tryloywder a'r ymgysylltu a welwyd mewn cysylltiad â'r penderfyniad hwn ymhell o fod yn cydymffurfio â'r datganiad o bolisi ariannu a gytunwyd gan y gwledydd. Soniodd Mike Hedges am y drefn apelio sydd wedi'i hamlinellu. Wel, roeddem ni'n glir iawn yn ein llythyr y byddem yn mynd ati ar y cyd i ddefnyddio'r broses apelio honno i fynd â'r mater hwn ymhellach pe na fyddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn fuan iawn i drafod y materion hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid oes unrhyw ran o hyn yn agos at y math o berthynas a addawyd y byddai gennym gyda llywodraeth y DU o ran cyllid a thryloywder. Oherwydd hynny, ni allaf gadarnhau cyllid ar gyfer pensiynau yn y dyfodol, oherwydd bydd hynny'n cael ei drafod yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.

Codwyd materion ynghylch monitro'r rhagolygon treth ddatganoledig yn ystod y flwyddyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r wybodaeth am dderbynebau treth yn ystod y flwyddyn gan Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn llywio ein barn ddatblygol o'r sefyllfa flwyddyn lawn debygol ar gyfer 2019-20, ac mae hynny'n ffurfio rhan o'n system rheolaeth ariannol gyffredinol yn ystod y flwyddyn. Ond, prin yw'r wybodaeth yn ystod y flwyddyn sydd ar gael ar hyn o bryd i lywio'r rhagolygon diwygiedig, a bydd y sefyllfa'n datblygu wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyhoeddi rhagolygon diwygiedig ar gyfer 2019-20, ar gyfer trethi datganoledig a threthi cysylltiedig y DU yn yr hydref. Yna, bydd effaith y diwygiadau hyn ar y refeniw treth a'r addasiad i'r grant bloc yn cael eu hystyried, a byddwch yn eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol yn ddiweddarach.

Codwyd mater y twll du yn y dreth incwm yn yr Alban hefyd. Yn seiliedig ar ragolygon cyfredol, mae cyllidebau Llywodraeth yr Alban yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gorbwysleisio'r sefyllfa net rhwng refeniw treth incwm datganoledig a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc. O ganlyniad i hyn, bydd taliadau cysoni yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bu rhywfaint o ddiddordeb yn hyn yn ystod gwaith craffu'r pwyllgor, ac roeddwn i'n gallu dweud ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r Alban gan fod pwerau gwahanol wedi'u datganoli i ni mewn cysylltiad â threth incwm. Felly, rydym ni'n llai agored mewn rhai ffyrdd, ac mae gennym y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud ein rhagolygon, fel y maen nhw'n ei wneud ledled Lloegr. Felly, ni ddylai fod gennym y gwahaniaeth hwnnw yn y fethodoleg sy'n gysylltiedig â'r rhagolygon hynny. Wedi dweud hynny, ni fyddwn i'n ceisio gorbwysleisio'r sefyllfa oherwydd, yn amlwg, byddem ni'n dymuno cadw llygad barcud arni.

O ran yr M4, y sefyllfa yw bod £20 miliwn wedi ei glustnodi mewn cronfeydd wrth gefn eleni ar gyfer yr M4, pe byddai'r penderfyniad wedi'i wneud i wneud y gorchmynion, ac mae'r £20 miliwn hwnnw yn parhau i fod mewn cronfeydd wrth gefn bellach i'w ddefnyddio yn rhywle arall, o ran bodloni blaenoriaethau ein Llywodraeth. Felly, ni wneir unrhyw ddyraniadau ychwanegol yn y gyllideb atodol hon ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chamau yn y dyfodol. Fodd bynnag, yn ôl amcangyfrifon cyfredol, ar gyfer y mesurau carlam y mae'r Prif Weinidog wedi'u gosod i liniaru tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd, gan gynnwys swyddogion traffig ychwanegol, mwy o wybodaeth fyw am amseroedd teithio ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad, bydd y gost rhwng £4 miliwn a £5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn cadw golwg ar hyn, gan ddyrannu cyllid 2019-20 eto yn yr ail gyllideb atodol. Roeddwn i'n glir iawn yn y pwyllgor fod y Prif Weinidog wedi'i gwneud yn glir y bydd y comisiwn yn cael y cynnig cyntaf am yr arian a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer yr M4. Yn amlwg, mae'r comisiwn ar fin dechrau ar ei waith, felly nid oeddwn i'n gallu bod mewn sefyllfa yn y gyllideb atodol gyntaf i ddyrannu rhagor o gyllid, nac i fod yn gliriach o ran lle y gellid defnyddio'r cyllid yn y dyfodol o ran bodloni argymhellion y comisiwn hwnnw.

Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn y ddadl ac wrth graffu ar waith y pwyllgor o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r ffordd yr ydym ni'n sicrhau bod honno wedi ei hymwreiddio'n helaeth yn ein proses o bennu'r gyllideb. Wrth gwrs, mae'r cyllidebau drafft a therfynol yn nodi cynlluniau gwario'r Llywodraeth ar gyfer 2019-20 ac mae'r gyllideb atodol gyntaf yn datblygu ar y cynlluniau hynny ac ar gyflawni ein hymrwymiadau. Rhoddaf enghraifft i chi o'r cyllid ychwanegol ar gyfer cronfa dyfodol yr economi. Mae un o'r ffrydiau yn y gronfa honno'n ymwneud yn benodol â datgarboneiddio, a gwn y bu gan y Gweinidog gryn ddiddordeb yn hynny o ran ystyried sut y bydd yn defnyddio'r arian hwnnw. Felly, mae wrth galon ein meddylfryd i raddau helaeth. Rwyf eisoes wedi cwrdd â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o ran sut y byddwn yn gwella ein hystyriaeth o'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth bennu cyllidebau yn y dyfodol, ac rydym yn gweithio ar ddatblygu trefn asesu'r daith sydd, unwaith eto, yn rhywbeth y gwn y bu gan y Pwyllgor Cyllid gryn ddiddordeb ynddo, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ac rwyf innau wedi cymryd diddordeb, unwaith eto, yn awgrymiadau'r comisiynydd am gyllid ychwanegol yr hoffai ei weld yn cael ei ddefnyddio yn 2020-21 ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi i drafod ei chynigion ymhellach a deall o ble y byddai'n awgrymu i'r cyllid ychwanegol hwnnw ddod o bob rhan o'r Llywodraeth o ran newid pwyslais blaenoriaethau a deall yn well beth fyddai'r arbedion carbon o bob un o'r mesurau a gynigir. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny â hi.

Ond, dim ond gair i gloi, Llywydd, wrth edrych ymlaen, nododd Llywodraeth y DU yn flaenorol y byddai'n pennu cyllidebau am dair blynedd trwy adolygiad cynhwysfawr o wariant. Nid yw ein setliad refeniw presennol yn ymestyn y tu hwnt i eleni, er bod gennym ni gyllideb gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond mae'r gyllideb atodol hon yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae cyllid cyhoeddus a thelerau ein setliad gan Lywodraeth y DU yn parhau'n ansicr a gallai olygu y bydd mwy o benderfyniadau cyllidebol anodd yn y dyfodol. Diolch.