Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Wel, yn gyntaf oll, credaf y dylem ystyried yr hyn a ddywedodd eich cyd-Aelod eich hun, Bethan Sayed, sef: mae'n rhaid i chi wahanu gweledigaeth y prosiect oddi wrth y bobl a oedd yn cynnig ei ariannu. O ran y prosiect ei hun, mae'n addo trawsnewid ardal. O ran y cyllid sydd ei angen ar gyfer hynny, yn amlwg, mae'r cwmni y tu ôl iddo'n wynebu cwestiynau difrifol iawn. Ac unwaith eto, hoffwn ategu fy niolch i'r rhai sydd wedi datgelu gwybodaeth arwyddocaol a arweiniodd at y cwestiynau hynny.
Wrth gwrs, byddai'n well gennyf pe bai'r fideo'n cael ei dynnu i lawr—nid oes amheuaeth am hynny—oherwydd os oes unrhyw awgrym fy mod i neu Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r cwmni, mae hynny'n anghywir. Rwy'n cefnogi potensial trawsnewidiol y cynllun, ond nid wyf yn cefnogi'r bobl y dangoswyd dros yr wythnosau diwethaf fod angen iddynt ateb cwestiynau difrifol iawn.