1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Ddoe, yn y Siambr, dywedwyd wrthym nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian yn uniongyrchol i brosiect cwm Afan. Rydych wedi cadarnhau hynny eto heddiw. Er hynny, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i gwmni Northern Powerhouse Developments i ddatblygu gwesty Caer Rhun yng Nghonwy. Rhoddwyd tua £0.5 miliwn a bellach mae'n amlwg bod pryderon ynghylch dyfodol y gwesty y buddsoddwyd arian Cymru ynddo. A allwch chi wneud sylw am yr asesiadau a wnaethpwyd o sefyllfa'r cwmni cyn gwneud y penderfyniad hwnnw i fuddsoddi £0.5 miliwn?
Wrth gwrs, roedd hwn yn fater i fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ond gallaf sicrhau'r Aelod nad oes unrhyw gyllid wedi'i ryddhau ar gyfer y prosiect penodol hwnnw. Roedd amodau sylweddol ynghlwm wrtho sy'n dal heb eu bodloni, ac felly mae swyddogion twristiaeth yn y broses o ystyried tynnu'r cynnig o £0.5 miliwn i Caer Rhun yn ôl.
Mae'n gysur gwybod hynny ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion ynglŷn â sut y bydd hynny'n mynd rhagddo.
Yn achos prosiect cwm Afan, wrth gwrs, mae'n bosibl nad oes unrhyw arian wedi cael ei gyfnewid, ond yn sicr cafwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar ffurf eich ymddangosiad mewn fideo i hyrwyddo cynlluniau Northern Powerhouse Developments, a roddodd yr argraff gyhoeddus iawn fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cwmni. Dyna'n union oedd y datblygwr ei eisiau, wrth gwrs, ac mae'n siŵr ei fod wedi helpu i ddenu buddsoddwyr. Wrth edrych yn ôl, a ydych yn credu bod eich ymddangosiad yn y fideo hwnnw'n syniad da? Mae nifer o wythnosau wedi bod bellach ers i bryderon difrifol iawn gael eu codi am y cwmni hwn. A allwch chi gadarnhau, ar yr adeg y cafodd y pryderon hynny eu mynegi, p'un a wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn iddynt dynnu'r fideo hwnnw i lawr? A fyddai'n foesol gywir, o wybod am y pryderon ar yr adeg honno, i barhau i ddangos fideo o'r fath a glymai gefnogaeth Llywodraeth Cymru wrth brosiect?
Wel, yn gyntaf oll, credaf y dylem ystyried yr hyn a ddywedodd eich cyd-Aelod eich hun, Bethan Sayed, sef: mae'n rhaid i chi wahanu gweledigaeth y prosiect oddi wrth y bobl a oedd yn cynnig ei ariannu. O ran y prosiect ei hun, mae'n addo trawsnewid ardal. O ran y cyllid sydd ei angen ar gyfer hynny, yn amlwg, mae'r cwmni y tu ôl iddo'n wynebu cwestiynau difrifol iawn. Ac unwaith eto, hoffwn ategu fy niolch i'r rhai sydd wedi datgelu gwybodaeth arwyddocaol a arweiniodd at y cwestiynau hynny.
Wrth gwrs, byddai'n well gennyf pe bai'r fideo'n cael ei dynnu i lawr—nid oes amheuaeth am hynny—oherwydd os oes unrhyw awgrym fy mod i neu Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r cwmni, mae hynny'n anghywir. Rwy'n cefnogi potensial trawsnewidiol y cynllun, ond nid wyf yn cefnogi'r bobl y dangoswyd dros yr wythnosau diwethaf fod angen iddynt ateb cwestiynau difrifol iawn.
Ac rwy'n sicr yn cytuno â fy nghyd-Aelod, Bethan Sayed, sydd bellach yn eistedd y tu ôl i mi, o ran y potensial, ac rydym yn sôn am ardal sydd eisiau gweld y potensial hwnnw'n cael ei wireddu. Ac mae perygl bob amser y bydd gobeithion pobl yn cael eu codi drwy ddilyn y llwybrau anghywir. Ond rydych yn dweud wrthym dro ar ôl tro, yn gwbl briodol wrth gwrs, am y cyfyngiadau ar gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn, yn strategol iawn ac yn eithaf didostur hefyd o ran y modd y gwariwn yr arian hwnnw.
Lansiwyd y prosiect hwn gyda llawer o gyhoeddusrwydd ac roedd y Llywodraeth, wrth gwrs, yn gefnogol iawn iddo, ar ôl mynd drwy brosesau diwydrwydd dyladwy, mae'n debyg, i fesur priodoldeb sefydlu perthynas â'r buddsoddwr penodol hwnnw. Yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd a'r hyn sy'n dod i'r amlwg, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo yn awr i gyhoeddi'r manylion yn eu cyfanrwydd ynglŷn â sut a phryd y cydweithredodd â phrosiect cwm Afan a Northern Powerhouse Developments, a'r hyn a wnaeth, yn benodol, i ddiogelu credydwyr a buddsoddwyr pan ddaeth yn amlwg fod yna amheuon difrifol ynglŷn â'r cwmni oedd yn ei gefnogi?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi chwarae mwy o ran nag y gwnaeth. Nid oedd unrhyw gydweithredu o gwbl: ni wnaethom addo arian, ni wnaethom roi arian i'r prosiect hwn. Byddai unrhyw gais am gyllid wedi arwain at broses drylwyr, ddidostur o ddiwydrwydd dyladwy, fel y noda'r Aelod. Ac rwyf eisoes wedi nodi un prosiect yma yn ystod y cwestiynau heddiw a aeth drwy'r broses drylwyr honno. Ac er gwaethaf cefnogaeth a phwysau eglur—yn wir, gan blaid yr Aelod ei hun, mae'n rhaid dweud, yn enwedig yr arweinydd, a ddywedodd efallai y dylem dorri'r broses o ddiwydrwydd dyladwy yn fyr mewn rhyw ffordd, arhosais yn gadarn; gwneuthum yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau trethdalwyr uwchlaw popeth. Byddaf yn gwneud hynny dro ar ôl tro. Pe baent wedi gofyn am arian, pe bai unrhyw gais wedi bod am arian ar gyfer y prosiect penodol hwn, byddem wedi bwrw ymlaen â'r un dull gweithredu a'r un egwyddorion.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a oeddech yn cytuno â'r Prif Weinidog pan ddywedodd fod gwelliannau mawr wedi bod i economi Cymru ers datganoli?
Ydw, mae gwelliannau mawr wedi bod i economi Cymru ers datganoli. Rydym wedi helpu i greu mwy na 300,000 o swyddi ers datganoli, mae cyfraddau cyflogaeth yn uwch nag erioed, mae anweithgarwch economaidd yn is nag erioed—yn wir, am y tro cyntaf erioed, mae ar lefel gyfartalog y DU. Yn ogystal â hyn, rydym wedi gweld lefel cymwysterau'n codi yn anhygoel o gyflym. Rydym wedi gweld lefelau cynhyrchiant economaidd yn codi'n gyflymach na chyfartaledd y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod gan economi Cymru lwyddiant enfawr i'w ddathlu, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni hyn ar ei phen ei hun, mae wedi cael ei gyflawni drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, busnesau a phartneriaid cymdeithasol eraill.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae eich Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, wedi dweud yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru wedi esgus gwybod beth y mae'n ei wneud mewn perthynas â'r economi dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac nad yw ymdrechion i wella'r economi dan ddatganoli wedi gweithio. Yn bersonol, credaf ei bod yn braf clywed Gweinidog yn siarad yn onest iawn am yr economi. Roeddwn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Flaenau Gwent pan ddywedodd y byddai'n well ganddo glywed Gweinidog sy'n siarad yn blaen ac yn glir am yr heriau sy'n wynebu economi Cymru. Rwy'n credu bod y cyhoedd yn cytuno â hynny hefyd. Gyda hyn mewn golwg, a ydych bellach yn cydnabod ei bod yn bryd ymdrin â'r economi mewn ffordd wahanol? Rydym wedi cael tair strategaeth economaidd bwysig ers datganoli, ond nid yw'r ymdrechion hyn i wella'r economi wedi gweithio ac nid ydynt wedi gwella rhagolygon economaidd Cymru. Nawr, mae'r cynllun gweithredu ar yr economi yn cwmpasu nifer fawr o wahanol themâu ond nid yw'n cynnwys unrhyw dargedau ar gyfer mesur cynnydd, felly credaf ei fod hefyd yn cael ei wrth-ddweud a'i danseilio gan gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018, nad yw'n darparu unrhyw gyllid newydd i gefnogi unrhyw un o sectorau blaenoriaeth allweddol y cynllun gweithredu. Felly, a allwch chi, Weinidog, ddweud beth y bwriadwch ei wneud i newid, a sut y bydd eich dull yn wahanol yn dilyn sylwadau'r Dirprwy Weinidog fel y gallwn sicrhau mynediad symlach at gymorth busnes, fel y gallwn gysoni strategaeth fusnes a diwydiannol effeithiol, fel y gallwn ddiwygio'r strategaeth ddiffygiol sydd gennym ar gyfer caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig, gwella sgiliau'r gweithlu ac adlewyrchu'r hwb hwn drwy wella seilwaith yn briodol?
Mae'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog yn adlewyrchu, mewn sawl ffordd, yr heriau a amlinellais pan oedd y cynllun gweithredu ar yr economi yn cael ei ddatblygu, sef, er ein bod wedi cael llwyddiant ysgubol mewn sawl ffordd o ran datblygiad economaidd ers datganoli, nid yw'r twf hwnnw wedi'i rannu'n deg ar draws pob rhan o Gymru, mae'r twf hwnnw wedi bod yn anwastad ac mae angen i ni unioni'r anghydraddoldeb hwnnw rydym yn ei weld o hyd—nid ar draws y rhanbarthau'n unig, ond o fewn y rhanbarthau hefyd. Dyna pam y lluniwyd y cynllun gweithredu ar yr economi, i lywio'r broses o ddiogelu busnesau Cymru ar gyfer y dyfodol ac i sbarduno twf cynhwysol. Ac wrth wraidd y cynllun gweithredu ar yr economi, wrth gwrs, mae'r contract economaidd, a gynlluniwyd i ddarparu gwaith teg, gwaith o ansawdd uchel a sgiliau gwell.
Nawr, mae'r Aelod yn sôn am strategaethau economaidd eraill, gan gynnwys strategaeth ddiwydiannol y DU, ac wrth gwrs, lluniwyd y cynllun gweithredu ar yr economi i ategu a chydasio â honno, ac mae hynny wedi'i gydnabod gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Ac at hynny, o ran targedau a mesuriadau, y rheswm pam rydym wedi cyflwyno'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'r broses o gynnig her yw er mwyn sicrhau ein bod yn mesur, yn y ffordd gywir, sut y mae twf cynhwysol yn cael ei gyflawni.
Wel, diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn siarad yn onest am rai o heriau economi Cymru hefyd. Mae dwy brif elfen i'r cynllun gweithredu ar yr economi, y cynlluniau busnes rhanbarthol a'r cynllun ar gyfer yr economi sylfaenol, sy'n dal heb eu cyflawni. Felly, rwyf am ofyn i chi a fyddech yn edrych ar rai o'r syniadau sydd gennym ar y meinciau hyn, er enghraifft ar gyfer defnyddio llysgenhadon masnach ledled y byd i hybu buddsoddiad yng Nghymru, a sicrhau newid i economi a strategaeth lle rydym yn cefnogi busnesau Cymreig bach a chynhenid yn ogystal. Rydym eisiau gweld busnesau bach a chynhenid yng Nghymru yn tyfu. Mae'n hawdd iawn i fusnesau eraill ddod i mewn a symud allan, gan fynd â buddsoddiad gyda hwy, ond mae angen i ni gefnogi'r busnesau bach a chynhenid hyn sydd gennym yng Nghymru hefyd. Sut y gallwn osgoi'r posibilrwydd y bydd Gweinidog yn edrych yn ôl ymhen 20 mlynedd ac yn dweud, 'Deugain mlynedd ers datganoli, nid oes neb yn gwybod beth rydym yn ei wneud mewn perthynas â'r economi'? Sut y gallwn osgoi'r posibilrwydd y bydd Gweinidog yn dweud hynny ymhen 40 mlynedd?
Yn ystod 20 mlynedd cyntaf datganoli, rydym wedi datrys un her y mae Cymru wedi'i hwynebu dros gyfnod dad-ddiwydiannu i bob pwrpas, sef lefel uwch o ddiweithdra na chyfartaledd y DU. Rydym wedi gostwng y lefel i gyfartaledd y DU ac yn wir, ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi gostwng yn is na chyfartaledd y DU, ac am y tro cyntaf, fel y dywedaf unwaith eto, mae cyfraddau anweithgarwch wedi gostwng i gyfartaledd y DU.
Felly, yr hyn rydym wedi'i wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf, ar lefel facro, yw datrys diweithdra ac anweithgarwch. Fodd bynnag, mae hynny ar lefel gyffredinol. Yr hyn rydym yn dymuno ei wneud yn awr yw ysgogi twf cynhwysol fel ein bod yn mynd at wraidd y broblem, yn cyrraedd y cymunedau nad ydynt wedi elwa cymaint o'n twf dros yr 20 mlynedd diwethaf, a sicrhau bod cydraddoldeb a thwf cynhwysol yn ganolog i bopeth a wnawn. Nawr, mae datblygiad economaidd rhanbarthol sy'n seiliedig ar leoedd yn gwbl hanfodol, yn enwedig lle nad oes gennych effeithiau cydgrynhoad, ac nid ydych yn tueddu i gael effeithiau cydgrynhoad mewn ardaloedd trefol o lai na 0.5 miliwn o bobl. Dyna pam ein bod wedi datblygu'r unedau rhanbarthol newydd o fewn y cynllun gweithredu ar yr economi, dyna pam eu bod yn datblygu cynlluniau rhanbarthol ar y cyd ag awdurdodau lleol, partneriaid y fargen ddinesig a phartneriaid y fargen twf, fel y gall pawb ohonom weithio gyda'n gilydd i'r un diben, i gynllunio ymyriadau i sicrhau bod ein buddsoddiad wedi'i anelu at yr un diben ym mhob un o'r rhanbarthau fel nad ydym yn cystadlu, fel nad ydym yn dyblygu ond fel ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un nod. Ac rwyf o'r farn, drwy gael dull sy'n seiliedig ar leoedd, y gallwn nodi'r cyfleoedd, yr entrepreneuriaid, a'r busnesau a all sbarduno twf cynhwysol yn rhanbarthau Cymru yn well.
Rhaid i mi ddweud, o ran cefnogi busnesau bach cynhenid, rydym wedi gwneud gwaith gwych yn ddiweddar drwy Busnes Cymru ac yn fwy diweddar, drwy sefydlu'r banc datblygu. Rydym wedi clywed cwestiynau heddiw am gwm Afan ac awdurdod lleol fy nghyd-Aelod, Dai Rees, sef Castell-nedd Port Talbot, lle rydym wedi gweld cynnydd o 18.8 y cant yn nifer y busnesau ers 2011, cynnydd o 6,455 i 7,670. Nid yw honno'n sefyllfa anarferol yng Nghymru. Bellach, mae gennym y nifer uchaf erioed o fusnesau yng Nghymru. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud, yn y cam nesaf, i ddatblygu'r cynllun gweithredu ar yr economi yw sicrhau ein bod yn troi mwy o'r busnesau bach hynny'n gwmnïau cryfach, yn gwmnïau gwreiddiedig mwy o faint yng Nghymru, er mwyn inni allu sicrhau bod cyflogaeth yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir a'n bod yn dal cymaint o'u gwariant ag sy'n bosibl ar gyfer cymunedau lleol.
Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch Lywydd. Weinidog, pan oeddwn yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, buom yn ymweld â Thrawsfynydd, lle cawsom wybod am ddatgomisiynu'r orsaf ynni niwclear. Bryd hynny, cafwyd trafodaethau ynglŷn â'r posibilrwydd o ddefnyddio'r safle ar gyfer yr adweithyddion niwclear modiwlaidd bach sy'n dod i'r amlwg. A yw'r Gweinidog wedi archwilio'r opsiwn hwn mewn unrhyw ffordd?
Do, rwyf wedi gwneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at botensial Trawsfynydd fel ardal y gellid ei defnyddio i ddatblygu a chynnal adweithyddion modiwlar bach. Nid wyf ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn rhannu'r penderfyniad i archwilio pob cyfle ar gyfer Trawsfynydd, a dyna pam, o fewn bargen twf gogledd Cymru, y ceir mynediad at y rhaglen ynni clyfar, sydd wedi'i chynllunio i hyrwyddo ffurfiau adnewyddadwy o ynni a photensial adweithyddion modiwlar bach yn yr ardal benodol honno o ogledd Cymru.
Iawn. Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Deallaf fod Rolls-Royce ar flaen y gad o ran y math hwn o dechnoleg. O'r herwydd, gallai datblygiad yn Nhrawsfynydd fod o fudd i ddiwydiant Prydain yn ei gyfanrwydd. Rwyf hefyd yn credu bod llawer o'r seilwaith grid sy'n cysylltu â system y grid cenedlaethol yn dal i fod yn ei le yn Nhrawsfynydd. Felly, o ystyried yr arbenigedd lleol a thueddiad cyffredinol yn yr ardal at bŵer niwclear, byddai Trawsfynydd yn sicr o fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer y dechnoleg sy'n datblygu. Mae hefyd yn rhan o raglen ddatgarboneiddio gyffredinol Llywodraeth Cymru, a byddai gosodiad o'r fath hefyd yn helpu i leddfu'r galw ychwanegol a ragwelir ar y seilwaith trydan y bydd dyfodiad y car modur trydan yn anochel o'i greu i'r diwydiant trydan yn ei gyfanrwydd. Dylai hyn—ac o ystyried rhai o'r penderfyniadau anffafriol a wnaethpwyd mewn perthynas â Chymru yn ddiweddar, rwy'n pwysleisio 'dylai'—wneud Llywodraeth y DU yn fwy agored i ddatblygiad o'r fath. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyrwyddo'r prosiect hwn sy'n arwain y diwydiant mewn perthynas â Thrawsfynydd?
Gwnaf, yn sicr. Yn wir, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cyfarfod â Rolls-Royce i drafod yr union fater hwn yn uniongyrchol mewn perthynas â Thrawsfynydd, fel y mae aelodau o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi'i wneud, ac rwy'n credu ei bod yn werth dweud wrth yr Aelodau heddiw fod ynni yn un o dri phrif gryfder economi ranbarthol gogledd Cymru yng ngweledigaeth y bwrdd uchelgais economaidd ar gyfer y rhanbarth. Mae hefyd yn un o'r pedwar ffactor galluogi allweddol o fewn bargen twf gogledd Cymru. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod, nid yn unig o fewn Llywodraeth Cymru, ond yn rhanbarthol ar draws yr awdurdodau lleol ac ar y cyd fel yr uned ranbarthol newydd, ein bod yn ymwybodol iawn o botensial ynni yn y Gogledd, ac yn gefnogol iawn iddo, nid yn unig mewn perthynas ag adweithyddion modiwlar bach, ond hefyd, yn hollbwysig yn fy marn i, mewn perthynas â'r sector ynni adnewyddadwy, lle y ceir cryfder ac arbenigedd aruthrol yng ngogledd Cymru, a dyna pam ei fod wedi'i gynnwys yn elfen mor hanfodol o fargen twf gogledd Cymru.