Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Diolch Lywydd. Weinidog, pan oeddwn yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, buom yn ymweld â Thrawsfynydd, lle cawsom wybod am ddatgomisiynu'r orsaf ynni niwclear. Bryd hynny, cafwyd trafodaethau ynglŷn â'r posibilrwydd o ddefnyddio'r safle ar gyfer yr adweithyddion niwclear modiwlaidd bach sy'n dod i'r amlwg. A yw'r Gweinidog wedi archwilio'r opsiwn hwn mewn unrhyw ffordd?