Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi chwarae mwy o ran nag y gwnaeth. Nid oedd unrhyw gydweithredu o gwbl: ni wnaethom addo arian, ni wnaethom roi arian i'r prosiect hwn. Byddai unrhyw gais am gyllid wedi arwain at broses drylwyr, ddidostur o ddiwydrwydd dyladwy, fel y noda'r Aelod. Ac rwyf eisoes wedi nodi un prosiect yma yn ystod y cwestiynau heddiw a aeth drwy'r broses drylwyr honno. Ac er gwaethaf cefnogaeth a phwysau eglur—yn wir, gan blaid yr Aelod ei hun, mae'n rhaid dweud, yn enwedig yr arweinydd, a ddywedodd efallai y dylem dorri'r broses o ddiwydrwydd dyladwy yn fyr mewn rhyw ffordd, arhosais yn gadarn; gwneuthum yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau trethdalwyr uwchlaw popeth. Byddaf yn gwneud hynny dro ar ôl tro. Pe baent wedi gofyn am arian, pe bai unrhyw gais wedi bod am arian ar gyfer y prosiect penodol hwn, byddem wedi bwrw ymlaen â'r un dull gweithredu a'r un egwyddorion.