Effaith Economaidd Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:11, 10 Gorffennaf 2019

Rŷn ni'n gwybod bod ymwelwyr yn dod ag o gwmpas rhyw £70 miliwn i economi leol ardal Eryri bob blwyddyn, ond gyda hynny, wrth gwrs, mae yna broblemau'n dod o safbwynt y delweddau dŷn ni'n eu gweld o bobl yn ciwio ar gopa'r Wyddfa. Mae yna lwybrau'n cael eu herydu, meysydd parcio'n gorlifo, mae yna broblemau gyda seilwaith eraill fel casglu sbwriel a thoiledau cyhoeddus ac yn y blaen. Felly, mae yna risg, wrth gwrs, fod y llwyddiant yn golygu bod profiad yr ymwelwyr yn dirywio, ac felly bod hynny'n lleihau, efallai, y potensial i dyfu'r sector yma.

Nawr, dwi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi clustnodi ychydig o arian ychwanegol ar gyfer cryfhau seilwaith twristiaeth yn gynharach eleni, ond, wrth gwrs, yr hyn rŷn ni eisiau'i weld yw ateb cynaliadwy hirdymor. Dwi jest eisiau gwybod pa drafodaethau, er enghraifft, rŷch chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Weinidogion ar y posibilrwydd o ddarparu adnoddau gwell i'r parciau cenedlaethol, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn y cyd-destun yma'n benodol, oherwydd, tra ein bod ni wedi gweld niferoedd ymwelwyr yn dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gweld ei adnoddau'n haneri, felly, mi allwch chi glustnodi ychydig pob hyn a hyn, ond yr ateb cynaliadwy, wrth gwrs, byddai sicrhau bod y parciau cenedlaethol yn cael eu hariannu'n iawn yn y lle cyntaf.