1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith economaidd twristiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ54199
Mae'r sector twristiaeth yn cyflogi ychydig dros 9 y cant o weithlu Cymru, ac mae'r 11,500 o fusnesau'n cynhyrchu oddeutu £6.3 biliwn y flwyddyn—cyfraniad enfawr i economi Cymru. Mae hefyd yn un o'r ysgogwyr economaidd allweddol yng ngogledd Cymru; credaf ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu'r sector yn y rhanbarth a'n bod yn parhau i wella cryfder allweddol y rhanbarth o ran denu gweithredwyr ac atyniadau twristiaeth antur.
Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel fi, yn croesawu'r ffaith ein bod wedi gweld niferoedd cynyddol o ymwelwyr rhyngwladol, yn enwedig o lefydd fel Japan, dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi cynlluniau fis diwethaf i greu pum parth twristiaeth yn y Deyrnas Unedig er mwyn rhoi hwb i'r sector a rhoi hwb o 9 miliwn i nifer yr ymwelwyr, yn ogystal â chreu 130,000 o ystafelloedd gwesty newydd. Ac fel Aelod Cynulliad o ogledd Cymru, gwn pa mor hanfodol bwysig yw cael pobl i aros dros nos yn hytrach nag ymweld am y dydd yn unig er mwyn gwella'r effaith ar yr economi leol. O ystyried na ddynodwyd y parthau hyn eto, a gaf fi eich annog, fel Llywodraeth Cymru, i gydweithio â Llywodraeth y DU a cheisio denu a sicrhau bod gogledd Cymru yn un o'r parthau hynny fel y gallwn elwa ar rai o'r manteision a ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud?
Yn sicr, byddaf yn siarad â'r Gweinidog, fy nghyd-Aelod Eluned Morgan, a'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r datblygiad hwn, oherwydd, wrth gwrs, gallai chwarae rhan allweddol yn y strategaeth ryngwladol yr ymgynghorir arni cyn hir. Byddai hefyd yn cydweddu'n daclus â'r strategaeth partneriaeth ar gyfer twf cyfredol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, sy'n ceisio cynyddu nifer y gwestai o ansawdd uwch yng Nghymru. Mae wedi bod yn her arbennig dros lawer o flynyddoedd o ran denu datblygwyr o ansawdd da, ond gwestai fforddiadwy hefyd, mae'n rhaid dweud. Nawr, mae'r Aelod yn iawn fod gwariant y pen y diwrnod yn uwch ar gyfartaledd gydag ymwelwyr dros nos na'r hyn ydyw gydag ymwelwyr dydd, a dyna pam ei bod mor bwysig ysgogi ymwelwyr dydd i ddod yn ôl am ymweliadau dros nos, ac mae hyn wedi bod yn ganolog i'r strategaeth partneriaeth ar gyfer twf, sy'n dod i ben y flwyddyn nesaf. Ac wrth i'r Dirprwy Weinidog ddatblygu'r cynllun gweithredu a fydd yn ei ddilyn ar gyfer twristiaeth, rwy'n siŵr y bydd yn benderfynol o sicrhau mwy o atyniadau a gwestai o ansawdd uchel yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Rŷn ni'n gwybod bod ymwelwyr yn dod ag o gwmpas rhyw £70 miliwn i economi leol ardal Eryri bob blwyddyn, ond gyda hynny, wrth gwrs, mae yna broblemau'n dod o safbwynt y delweddau dŷn ni'n eu gweld o bobl yn ciwio ar gopa'r Wyddfa. Mae yna lwybrau'n cael eu herydu, meysydd parcio'n gorlifo, mae yna broblemau gyda seilwaith eraill fel casglu sbwriel a thoiledau cyhoeddus ac yn y blaen. Felly, mae yna risg, wrth gwrs, fod y llwyddiant yn golygu bod profiad yr ymwelwyr yn dirywio, ac felly bod hynny'n lleihau, efallai, y potensial i dyfu'r sector yma.
Nawr, dwi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi clustnodi ychydig o arian ychwanegol ar gyfer cryfhau seilwaith twristiaeth yn gynharach eleni, ond, wrth gwrs, yr hyn rŷn ni eisiau'i weld yw ateb cynaliadwy hirdymor. Dwi jest eisiau gwybod pa drafodaethau, er enghraifft, rŷch chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Weinidogion ar y posibilrwydd o ddarparu adnoddau gwell i'r parciau cenedlaethol, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn y cyd-destun yma'n benodol, oherwydd, tra ein bod ni wedi gweld niferoedd ymwelwyr yn dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gweld ei adnoddau'n haneri, felly, mi allwch chi glustnodi ychydig pob hyn a hyn, ond yr ateb cynaliadwy, wrth gwrs, byddai sicrhau bod y parciau cenedlaethol yn cael eu hariannu'n iawn yn y lle cyntaf.
Mae nifer enfawr yn ymweld â'r Wyddfa ei hun, ac Eryri yn ehangach, oes, ond mae'r mynydd ei hun yn gweithredu ar gapasiti llawn i bob pwrpas o ran faint o bobl sy'n gallu ei ddringo ar unrhyw un adeg. Un o'r pryderon sydd wedi bod gennym ar draws y Llywodraeth yw bod angen i ni sicrhau ein bod yn rhannu'r cyfoeth yn fwy cyfartal ar draws y rhanbarth a'n bod yn codi rhywfaint o'r pwysau oddi ar gymunedau yn Eryri, yn enwedig yn yr ardaloedd y mae pobl yn ymweld â hwy, drwy hybu cyfleoedd eraill iddynt ymweld â hwy, er enghraifft, yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ac rydym yn chwilio am ffyrdd gwell o hyrwyddo perthnasedd ac atyniad ardal o harddwch naturiol eithriadol bryniau Clwyd, yn arbennig, er mwyn creu mwy o gyfleoedd yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, heb amharu ar y cynnig arbennig iawn yn Eryri.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd, ac nid yw hynny'n golygu Llywodraeth Cymru a'r parc cenedlaethol yn unig, ond Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae yn hyrwyddo'r amgylchedd naturiol yn Eryri. Yn ddiweddar, cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod potensial economaidd Eryri, ac yn arbennig, rhai o'r asedau, yr adeiladau, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn berchen arnynt, y gellid eu defnyddio er mwyn darparu ar gyfer mwy o bobl sy'n ymweld â'r ardal ac ysgwyddo rhywfaint o'r baich sydd ar y cymunedau hynny, fel y dywedais, sy'n croesawu cynifer o ymwelwyr bob blwyddyn.
Tynnwyd cwestiwn 6 [OAQ54214] yn ôl a tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ54219] yn ôl, felly cwestiwn 8—Nick Ramsay.