Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Wrth gwrs, roedd hwn yn fater i fy nghyd-Aelod yn y Llywodraeth, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ond gallaf sicrhau'r Aelod nad oes unrhyw gyllid wedi'i ryddhau ar gyfer y prosiect penodol hwnnw. Roedd amodau sylweddol ynghlwm wrtho sy'n dal heb eu bodloni, ac felly mae swyddogion twristiaeth yn y broses o ystyried tynnu'r cynnig o £0.5 miliwn i Caer Rhun yn ôl.