Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel fi, yn croesawu'r ffaith ein bod wedi gweld niferoedd cynyddol o ymwelwyr rhyngwladol, yn enwedig o lefydd fel Japan, dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi cynlluniau fis diwethaf i greu pum parth twristiaeth yn y Deyrnas Unedig er mwyn rhoi hwb i'r sector a rhoi hwb o 9 miliwn i nifer yr ymwelwyr, yn ogystal â chreu 130,000 o ystafelloedd gwesty newydd. Ac fel Aelod Cynulliad o ogledd Cymru, gwn pa mor hanfodol bwysig yw cael pobl i aros dros nos yn hytrach nag ymweld am y dydd yn unig er mwyn gwella'r effaith ar yr economi leol. O ystyried na ddynodwyd y parthau hyn eto, a gaf fi eich annog, fel Llywodraeth Cymru, i gydweithio â Llywodraeth y DU a cheisio denu a sicrhau bod gogledd Cymru yn un o'r parthau hynny fel y gallwn elwa ar rai o'r manteision a ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud?