Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Ydw, mae gwelliannau mawr wedi bod i economi Cymru ers datganoli. Rydym wedi helpu i greu mwy na 300,000 o swyddi ers datganoli, mae cyfraddau cyflogaeth yn uwch nag erioed, mae anweithgarwch economaidd yn is nag erioed—yn wir, am y tro cyntaf erioed, mae ar lefel gyfartalog y DU. Yn ogystal â hyn, rydym wedi gweld lefel cymwysterau'n codi yn anhygoel o gyflym. Rydym wedi gweld lefelau cynhyrchiant economaidd yn codi'n gyflymach na chyfartaledd y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n credu bod gan economi Cymru lwyddiant enfawr i'w ddathlu, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni hyn ar ei phen ei hun, mae wedi cael ei gyflawni drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, busnesau a phartneriaid cymdeithasol eraill.