Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Rhaid gwneud mwy i gefnogi gofalwyr yn y gwaith. Mae Carers UK wedi canfod bod tua 600 o bobl y dydd ledled y DU yn rhoi'r gorau i'w swyddi er mwyn gofalu am berthynas oedrannus neu sâl, a cheir ecsodus cudd o bobl yn gadael bywyd gwaith nad ydym yn trafod digon arno. Mae gwell cymorth yn y gweithle i bobl sy'n jyglo gwaith cyflogedig a gofalu am rywun annwyl yn dod yn fater cynyddol bwysig, a hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y gallwn newid hynny. Mae llawer o ofalwyr yn wynebu pwysau ariannol sylweddol os oes yn rhaid iddynt roi'r gorau i weithio oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Ar ben hyn, mae llawer o ofalwyr yn defnyddio'u hincwm neu eu cynilion eu hunain i brynu offer neu gynhyrchion, gan eu gadael yn straffaglu'n ariannol ac yn methu cynilo ar gyfer eu hymddeoliad eu hunain. Mae Prifysgol Birmingham yn cynnal un o'r rhaglenni ymchwil niferus i gymharu systemau gofal ledled y DU. Wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, prif amcan y rhaglen benodol honno yw cynyddu dealltwriaeth o ofal sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn gymdeithasol, yn arbennig sut i sicrhau lles defnyddwyr gofal, eu teuluoedd a gweithwyr gofal cyflogedig. Hoffwn wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn pwyso ar ganfyddiadau'r rhaglen ymchwil hon a rhaglenni tebyg.
Mae gofalu am berthynas, ffrind neu rywun annwyl yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei wneud heb feddwl. Mae hyn yn arbennig o wir am ofalwyr ifanc, ac os nad yw pobl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, mae nodi a chydnabod eu hanghenion yn her sylweddol. Mae elusen blant Barnardo's yn gweithredu prosiect yng Nghasnewydd yn arbennig ar gyfer gofalwyr ifanc. Cefais y fraint o gyfarfod â'r grŵp hwnnw ac roedd yn bwerus iawn gwrando ar y bobl ifanc hynny'n disgrifio cymaint yr oeddent yn gwerthfawrogi'r cyfle i dreulio amser gydag eraill sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg. Mae'r cyfarfodydd yn caniatáu iddynt siarad am eu profiadau a rhannu unrhyw bryderon neu rwystredigaethau a allai fod ganddynt. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt gael seibiant a threulio amser gydag eraill sy'n deall yr hyn y maent yn mynd drwyddo.
Mae'r rhwydwaith cymorth hanfodol, fel Fforwm Gofalwyr Casnewydd, a hyn, yn rhywbeth nad oes gan lawer o ofalwyr. Cafodd pwysigrwydd rhwydwaith o'r fath ei gadarnhau go iawn i mi yn ddiweddar gan brofiad person ifanc yn fy etholaeth. Yn dilyn diagnosis o salwch terfynol eu mam, roedd y gofalwr ifanc yn cael trafferth gyda phryder, iselder, hunan-niwed a meddyliau hunanladdol. Ond fel roeddent yn dweud wrthyf—ac rwy'n dyfynnu—'un peth a wnaeth fy helpu'n fawr drwy hyn i gyd oedd grŵp cymorth yn fy ysgol i ofalwyr ifanc. Roedd yn braf treulio amser a gwneud gweithgareddau gyda phobl eraill yr un oed â fi a oedd mewn sefyllfa debyg i mi. Fe wnaethom lawer o weithgareddau hwyliog fel gwersylla, mynd ar dripiau, a chyfarfod am gacennau a choffi fel grŵp.'
Mae cyngor ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi lansio eu hymgyrch Cymorth nid Cydymdeimlad yn ddiweddar. Hoffwn annog pawb i wylio'r fideo y maent wedi'i gynhyrchu, sy'n manylu ar chwe pheth na ddylid eu dweud wrth ofalwyr ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys ymadroddion fel 'Mae'n ddrwg gennyf drostat ti' a 'Bydd popeth yn iawn rhyw ddydd'. Mae'r cyngor ieuenctid am i gynifer o bobl â phosibl weld y fideo, er mwyn i bawb ohonom ddeall pam ei bod yn bwysig cynnig cefnogaeth yn ogystal â chydymdeimlad. Yn hytrach, maent yn ein hannog i ofyn 'Beth allaf i ei wneud i helpu?' Gan gofio hyn, rwy'n credu'n gryf ei bod yn ddyletswydd arnom i arwain y ffordd o ran amddiffyn a chefnogi gofalwyr. Gwn fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau breision ymlaen. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf, mae'r un hawliau yn cael eu hymestyn i ofalwyr â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Roedd hwn yn ddatblygiad pwysig o ran cael cydnabyddiaeth i ofalwyr, ond mae llawer o ffordd i fynd o hyd a chymaint mwy i'w wneud. Mae'n rhaid iddo wneud gwahaniaeth pendant i fywydau gofalwyr.
Mae gallu adnabod gofalwyr yn well ym mhob un o leoliadau'r GIG yn hollbwysig ymhlith y camau cadarnhaol y gellid eu cymryd. Ymhlith yr enghreifftiau o'r hyn a fyddai'n helpu mae: marc ansawdd ar gyfer practisau meddygon teulu sy'n ystyriol o ofalwyr i alluogi gofalwyr i nodi gwasanaethau meddygon teulu sy'n gallu bodloni eu hanghenion; mabwysiadu pasbortau gofalwyr, a chanllawiau clir ar gyfer eu defnyddio; datblygiadau i gofnodion iechyd electronig sy'n caniatáu i bobl rannu eu statws gofalu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ble bynnag a phryd bynnag y maent yn bresennol; a throsglwyddo gwybodaeth yn well ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, fel nad oes rhaid i ofalwyr ailadrodd gwybodaeth yn gyson.
Ar ôl gofalu am gyfnod estynedig, mae'n gyffredin fod llawer o ofalwyr yn teimlo fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth eu hunain. Fel gofalwr llawn amser, mae'n aml yn anodd, os nad yn amhosibl, cael bywyd cymdeithasol neu ddilyn gyrfa. Mae miloedd lawer o bobl sy'n gwneud rhywbeth y dylem ni, fel cymdeithas, ei werthfawrogi'n aruthrol yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl, heb fawr ddim i edrych ymlaen ato yn y dyfodol. Ni allwn adael gofalwyr ar ôl. Maent yn rhoi cymaint inni, a dylem fod yn hynod ddiolchgar. Dyma'r arwyr di-glod sy'n haeddu ein parch, ein cydnabyddiaeth, ac yn anad dim, ein cefnogaeth ddiwyro.