Part of the debate – Senedd Cymru am 7:00 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
'Achubodd Fforwm Gofalwyr Casnewydd fy mywyd. Mae fel cael ail deulu i fy nghefnogi.' Dyma eiriau Chris Kemp-Philp, un o fy etholwyr. Maent yn dangos pa mor hanfodol yw darparu cymorth i ofalwyr a'r hyn y mae'r cymorth hwnnw'n ei olygu. Rwy'n falch iawn o weld Chris, Janet Morgan ac wynebau cyfarwydd eraill o'r fforwm yn yr oriel gyhoeddus heno. Ffurfiwyd Fforwm Gofalwyr Casnewydd gan Janet yn 2010 ac mae'n rhoi cyfle i ofalwyr siarad ag eraill sy'n deall beth y maent yn mynd drwyddo. Gwn eich bod i gyd yn cyflawni eich rolau gofalu gyda'r fath ymroddiad a gostyngeiddrwydd a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddweud 'diolch yn fawr'—diolch nid yn unig i'r rhai ohonoch sydd yma heddiw ond i'r holl ofalwyr a'r rhai sy'n eu cefnogi ym mhob rhan o Gymru. Mae eich cyfraniad i'n cymdeithas yn cael ei anghofio'n aml, ac mae cynifer o straeon yn mynd heb eu hadrodd. Rhaid i hyn newid.
Mae cynyddu ymwybyddiaeth yn hollbwysig, ac roedd yn bleser cynnal digwyddiad yn ddiweddar yn y Senedd i nodi Wythnos y Gofalwyr. Mae bob amser yn bwysig dathlu a chanolbwyntio ein meddyliau yn ystod Wythnos y Gofalwyr, ond gwyddom fod bod yn ofalwr i lawer yn swyddogaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Mae'r digwyddiad hwnnw, fel y ddadl fer hon, yn fodd o daflu goleuni ar weithlu cudd di-dâl, ac yn ffordd o dynnu sylw at fater yma yn y Senedd sy'n effeithio ar filoedd o bobl ledled Cymru. Ar un adeg yn ein bywydau mae pob un ohonom yn debygol naill ai o fod yn derbyn gofal neu' n ofalwyr ein hunain. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio yn byw'n hwy, a llawer ohonynt ag anghenion cymhleth, mae'n hanfodol sicrhau bod gennym weithlu proffesiynol yn barod ar gyfer y presennol a'r dyfodol, ac eto gwyddom hefyd fod lefelau recriwtio a chadw staff yn y sector hwn yn argyfyngus. Er y bydd gweithlu gofal cyflogedig yn hanfodol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, byddwn bob amser fel cymdeithas yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl sydd fel arfer yn aelod o'r teulu, yn rhywun annwyl neu'n ffrind.
Mae gofalwyr yn cadw teuluoedd gyda'i gilydd, yn sicrhau y gellir gofalu am bobl yn eu cartrefi, gan arbed ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maent yn sail i'n gwasanaeth iechyd gwladol a'n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt. Ystyriwyd bod rolau gofalu yng Nghymru yn werth £8.1 biliwn, ond yn anffodus mae 72 y cant o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi. Mae hyn yn hynod o anghytbwys. Mae gofalu'n arbed tua phedair gwaith y swm a werir ar bob ffurf ar ofal cymdeithasol i economi Cymru, a daw ar gost bersonol i'r gofalwyr. Fel cymdeithas, mae angen inni gydnabod yr effaith y mae gofalu'n ei chael ar iechyd rhywun a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol a phwysigrwydd seibiant. Rhaid inni gydnabod yr arbenigedd unigryw sydd gan ofalwyr a pha mor werthfawr ydynt i'n cymuned a'n cymdeithas.
Gall yr effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn ddinistriol ac yn barhaol. Canfu'r arolwg a gynhaliwyd y llynedd fod 40 y cant o ofalwyr yn dweud nad oeddent wedi cael diwrnod i ffwrdd ers dros flwyddyn. Mae angen seibiannau rheolaidd ar ofalwyr er mwyn diogelu eu hiechyd a'u lles eu hunain, gan eu galluogi i barhau i ofalu a'u galluogi i fyw bywyd ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. Fel y dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ni ddylid ystyried seibiant fel
'seibiant rhag baich gofalu '
—nid dim ond hynny. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gefnogi a gofalu am ein gofalwyr. Gall gofalu effeithio'n andwyol ar ansawdd bywyd, yn enwedig gofalwyr hŷn. Mae cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel a phroblemau cefn yn gyffredin ymysg gofalwyr hŷn ac os cânt eu gadael heb y cymorth cywir, gall y broses gorfforol o ofalu waethygu hyn ymhellach fyth. Gall gofalwyr deimlo lludded meddyliol, sy'n aml yn gwaethygu o ganlyniad i bryder, gorbryder a diffyg cwsg a achosir gan heriau gofalu. Mae gan oddeutu 65 y cant o ofalwyr hŷn, rhai rhwng 60 a 94 oed, broblem iechyd hirdymor neu anabledd eu hunain. Dywed 68 y cant o ofalwyr fod bod yn ofalwr wedi cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl, gyda thraean yn dweud eu bod wedi canslo triniaeth neu lawdriniaeth iddynt eu hunain oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu.
Bydd llawer yn rhoi eu holl egni i gefnogi rhywun annwyl, ond ni ddylid rhoi neb mewn sefyllfa lle maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain. Ac os yw iechyd gofalwr yn methu, mae'n aml yn rhoi'r un sy'n derbyn gofal mewn sefyllfa argyfyngus. Mae niferoedd cynyddol o bobl hŷn sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu wedi tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth y DU adolygu'r lwfans gofalwyr fel y prif fudd-dâl i ofalwyr. Ar hyn o bryd daw'r lwfans i ben pan fydd pensiwn y wladwriaeth yn dechrau, ac mae llawer o ofalwyr yn teimlo'n gryf y dylid talu lwfans gofalwr yn ychwanegol at bensiwn sylfaenol y wladwriaeth. Mae eu hymdrechion yn arbed miliynau i'r GIG, a buaswn yn croesawu sicrwydd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu taliadau lwfans gofalwyr.