Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Fe fydd yn ymwybodol fod 80 y cant o'r ceir sy'n cael eu cydosod yn y DU yn cael eu gwerthu dramor yn ôl Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Moduron Ewrop. Mae tua 58 y cant o'r rheini'n cael eu hallforio i'r UE. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, os na chawn ryw fath o gytundeb masnach, gallai'r tariffau ar allforion ceir fod yn ddifrifol iawn—hyd at 10 y cant—a byddant yn ergyd i gystadleurwydd gweithgynhyrchwyr Cymru yn y sector gwirioneddol bwysig hwn.
Bydd hefyd yn ymwybodol o adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2017, sy'n amlygu sut y gallai cwmnïau sy'n gysylltiedig â'r sector modurol yn Llanelli, megis Calsonic a Schaeffler, fod yn agored i risg yn y sefyllfa hon. Rydym yn gwybod erbyn hyn, wrth gwrs, fod 200 o swyddi mewn perygl yn safle Schaeffler yn Llanelli. Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol ddweud ychydig yn rhagor wrthym am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith bosibl Brexit ar y buddiant allweddol hwn, yn enwedig mewn sefyllfa 'dim bargen'?