2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
2. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant gweithgynhyrchu ceir? OAQ54226
Rydym yn cynnal deialog reolaidd â chwmnïau yn y sector, Fforwm Modurol Cymru a chyrff sector cenedlaethol ynghylch effaith bosibl Brexit 'dim bargen', a fyddai'n drychinebus i'r diwydiannau modurol ac i ddiwydiannau eraill yn wir.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Fe fydd yn ymwybodol fod 80 y cant o'r ceir sy'n cael eu cydosod yn y DU yn cael eu gwerthu dramor yn ôl Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Moduron Ewrop. Mae tua 58 y cant o'r rheini'n cael eu hallforio i'r UE. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, os na chawn ryw fath o gytundeb masnach, gallai'r tariffau ar allforion ceir fod yn ddifrifol iawn—hyd at 10 y cant—a byddant yn ergyd i gystadleurwydd gweithgynhyrchwyr Cymru yn y sector gwirioneddol bwysig hwn.
Bydd hefyd yn ymwybodol o adroddiad Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2017, sy'n amlygu sut y gallai cwmnïau sy'n gysylltiedig â'r sector modurol yn Llanelli, megis Calsonic a Schaeffler, fod yn agored i risg yn y sefyllfa hon. Rydym yn gwybod erbyn hyn, wrth gwrs, fod 200 o swyddi mewn perygl yn safle Schaeffler yn Llanelli. Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol ddweud ychydig yn rhagor wrthym am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith bosibl Brexit ar y buddiant allweddol hwn, yn enwedig mewn sefyllfa 'dim bargen'?
Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pellach. Mae'n iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd y sector modurol i economi Cymru. Mae'n cyflogi tua 11 y cant o'r gweithlu gweithgynhyrchu, sef oddeutu 18,500 o bobl yng Nghymru, ac mae'n denu refeniw o tua £3 biliwn. Felly, mae'n gyfrannwr sylweddol iawn i economi Cymru. Mae'n iawn i dynnu sylw at y niwed y byddai masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd yn ei achosi i'r sector—a gweithredu y tu allan i undeb tollau yn wir. Yn ddiweddar, amcangyfrifodd PwC y gallai cyflenwadau i'r Almaen o'r DU, y gellir eu cyflawni mewn tua 12 awr ar hyn o bryd, gymryd hyd at 72 awr. Gwn ei bod yn gwybod y bydd yr effaith a gaiff hynny ar drefniadau'r gadwyn gyflenwi mewn union bryd yn y sector modurol yn arwyddocaol iawn.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig yn disgrifio gweithgarwch parhaus i gefnogi a hybu sector modurol Cymru yn y cyfnod anodd hwn. Mae hefyd wedi cyfarfod â phobl allweddol sy'n gweithio yn y diwydiant, gan gynnwys y rheini, er enghraifft, yn gynharach eleni a gafodd eu heffeithio gan gyhoeddiad Honda, a oedd yn gyhoeddiad a wnaed yn Lloegr, yn ddaearyddol, ond a achosodd sgil-effeithiau yma yng Nghymru. Mae 20 o gyflenwyr Honda yng Nghymru, a rhai ohonynt yn agored iawn i'r hyn sy'n digwydd i'r cwmni hwnnw.
Fe fydd hi'n gwybod hefyd am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r sector modurol, o ran buddsoddi mewn sgiliau ac mewn ffyrdd eraill, er enghraifft drwy'r gronfa bontio Ewropeaidd. Rydym yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar delerau a fyddai'n gosod tariffau sy'n cosbi a rhwystrau nad ydynt yn dariffau ar y diwydiant modurol, ac ar sectorau pwysig eraill i'n heconomi yn wir.
Yn unol â'r holl bleidiau yn y Siambr hon, mae Plaid Brexit yn hynod siomedig ynglŷn â phenderfyniad Ford mewn perthynas â'r gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn cydymdeimlo gyda'r gweithlu, sydd wedi gwneud ymdrechion aruthrol i gydymffurfio â threfniadau gwaith Ford dros y blynyddoedd. Ond gadewch i ni fod yn glir yma: nid oes gan benderfyniad Ford ddim o gwbl i'w wneud â Brexit. Mae rheolwyr Ford wedi datgan hynny'n bendant. Fel gyda phob busnes mawr, ac mae hyn yn cynnwys yr holl weithgynhyrchwyr modurol a'r holl is-weithgynhyrchwyr, bydd Ford yn dewis yr opsiwn gorau i'r cwmni. Mae'n rhaid i ni gofio eu bod wedi symud y gwaith o gynhyrchu eu faniau cludiant i Dwrci—ac i atgoffa pawb, nid yw Twrci yn yr Undeb Ewropeaidd hyd yn oed. Er bod yr UE wedi ariannu'r gwaith yn Nhwrci yn rhannol—[Torri ar draws.] Fe wnaeth yr UE ariannu'r gwaith yn Nhwrci yn rhannol—[Torri ar draws.]
Os na allaf fi glywed y cwestiwn, rwy'n siŵr nad yw'r Aelod yn gallu clywed y cwestiwn chwaith.
Mae'n rhaid cofio y bydd unrhyw dariffau a osodir ar unrhyw rai o'r allforion, yn enwedig yn y diwydiant ceir, ar ôl Brexit, yn cael effaith andwyol iawn ar weithgynhyrchwyr ceir Ewropeaidd. Ac nid ydym yn sôn am ddiwydiant ceir yr Almaen yn unig; rydym yn sôn am ddiwydiant ceir Ffrainc, sy'n gynyddol ddibynnol ar eu hallforion i'r DU. Felly, mae dweud y bydd Brexit yn cael yr effaith niweidiol hon ar y diwydiant ceir yn nonsens llwyr. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gytuno â mi ar y pwyntiau hynny?
Na wnaiff. Os ydym yn mynd i werthuso effaith Brexit ar ein heconomïau yn briodol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gan ein sylwadau ryw gysylltiad â gwirioneddau'r hyn sy'n digwydd. Ac rwy'n credu ei fod wedi anghofio'n gyfleus iawn y datganiad a wnaed gan uwch-swyddogion gweithredol Ford ddiwedd y llynedd, a oedd yn dweud yn glir iawn am effaith niweidiol Brexit 'dim bargen' ar y sector modurol yma yng Nghymru. Cyfeiriaf yr Aelod at y sylwadau a wneuthum yn gynharach mewn perthynas â'r niwed a fyddai'n cael ei achosi i'r sector hanfodol hwn drwy'r llwybr gweithredu y mae'n lladmerydd angerddol drosto.