Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Nodaf, ar yr adeg hon yn y broses o ddatblygu fframweithiau cyffredin y DU, mai'r nod yw ehangu ymgysylltiad ac ymgynghoriad, ac yn wir, datganodd Llywodraeth y DU ar 3 Gorffennaf eu bod wedi datblygu cynllun ymgysylltu manylach i fandadu mwy o ymgysylltiad ac i wella tryloywder. Nawr, mae'n ymddangos i mi mai dyma'n union sut y dylai'r system weithredu. Sylwaf fod gennych rai pryderon, ond yn gyffredinol, mae hwn yn newid eithaf radical i broses lywodraethu'r DU, ac mae'n ymddangos i mi ei fod yn mynd i'r cyfeiriad cywir at ei gilydd. Mae angen i'r gymuned ehangach o randdeiliaid gymryd rhan, yn amlwg, er mwyn sicrhau tryloywder a chraffu priodol.