Fframweithiau Cyffredin y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:24, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynny. Mae ei gwestiwn yn cydnabod mai'r fframwaith cyffredin a rennir hyd yma yw'r cyntaf, fe obeithiwn, o nifer o fframweithiau y gallwn eu rhannu. Ac maent yn hollol—. Wyddoch chi, nid yw'n fait accompli. Mae yno ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid. O ran y fframwaith penodol hwnnw, cynhaliwyd cynllun peilot ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ac rydym yn gobeithio dysgu o hwnnw wrth i ni ddatblygu'r broses graffu ac ymgysylltu mewn perthynas â hyn yn y dyfodol. Mae'n wir dweud, o'r holl feysydd cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n deillio o Brexit, fod y broses o ddatblygu'r fframweithiau cyffredin, sydd wedi digwydd i raddau helaeth ar lefel swyddogol, ymhlith y mwyaf cynhyrchiol, hyd yn oed os nad oes llawer wedi bod erbyn y cam hwn i'w gyflwyno'n gyhoeddus. Mae ansawdd yr ymgysylltu yn siŵr o fod yn well yno nag yn unrhyw ran arall o'r broses.