Effaith Brexit ar y Diwydiant Gweithgynhyrchu Ceir

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 10 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:28, 10 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Yn unol â'r holl bleidiau yn y Siambr hon, mae Plaid Brexit yn hynod siomedig ynglŷn â phenderfyniad Ford mewn perthynas â'r gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn cydymdeimlo gyda'r gweithlu, sydd wedi gwneud ymdrechion aruthrol i gydymffurfio â threfniadau gwaith Ford dros y blynyddoedd. Ond gadewch i ni fod yn glir yma: nid oes gan benderfyniad Ford ddim o gwbl i'w wneud â Brexit. Mae rheolwyr Ford wedi datgan hynny'n bendant. Fel gyda phob busnes mawr, ac mae hyn yn cynnwys yr holl weithgynhyrchwyr modurol a'r holl is-weithgynhyrchwyr, bydd Ford yn dewis yr opsiwn gorau i'r cwmni. Mae'n rhaid i ni gofio eu bod wedi symud y gwaith o gynhyrchu eu faniau cludiant i Dwrci—ac i atgoffa pawb, nid yw Twrci yn yr Undeb Ewropeaidd hyd yn oed. Er bod yr UE wedi ariannu'r gwaith yn Nhwrci yn rhannol—[Torri ar draws.] Fe wnaeth yr UE ariannu'r gwaith yn Nhwrci yn rhannol—[Torri ar draws.]